Dawn Bowden AS, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a’r Prif Chwip
Mae'n bleser gennyf roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am ddull newydd o ariannu ffilmiau yng Nghymru, drwy gydweithrediad rhwng Cymru Greadigol a Ffilm Cymru Wales. Bydd y gronfa newydd, sydd ar gael ar gyfer ffilmiau y bwriedir eu dangos mewn theatrau a chyda datblygu talent a sgiliau yn ganolog iddynt, ar agor ar gyfer ceisiadau yn yr wythnosau nesaf, a bydd yn para am gyfnod cychwynnol o ddwy flynedd.
Ers blynyddoedd lawer, mae Llywodraeth Cymru a Ffilm Cymru Wales wedi cyd-fuddsoddi mewn cynyrchiadau ffilm yng Nghymru. Ers lansio Cymru Greadigol, fodd bynnag, ac i ddatblygu sgiliau a thalentau ddod yn flaenoriaeth allweddol i'r sector, mae blaenoriaethau Cymru Greadigol a Ffilm Cymru Wales wedi datblygu i fod hyd yn oed yn fwy cydnaws o ran ffilm.
Bydd y cytundeb newydd yn arwain at ddull symlach o ariannu, gyda phroses ymgeisio drwy Ffilm Cymru Wales, a fydd yn gweinyddu'r gronfa ar ran Cymru Greadigol. Bydd hyd at £600,000 ar gael ar gyfer ffilmiau nodwedd annibynnol y bwriedir eu dangos mewn theatrau, gyda hyd at £400,000 o hyn fel arian grant gan Cymru Greadigol a hyd at £200,000 drwy gronfeydd loteri Ffilm Cymru Wales, y maent yn eu gweinyddu ar ran Cyngor Celfyddydau Cymru.
Ers ei sefydlu, mae Cymru Greadigol wedi bod yn adolygu ei dull o wella cymorth ar gyfer cynhyrchu teledu a ffilm, gyda chynnig cyllid cynhyrchu newydd ar gyfer teledu a gemau hefyd ar gael bellach. Y pecyn buddsoddi newydd a gwell hwn ar gyfer ffilmiau yw’r nesaf mewn cyfres o fuddsoddiadau gwell ar gyfer y sector.
Bydd disgwyl i ffilmiau sy’n cael cyllid Cymru Greadigol drwy Ffilm Cymru wario cyfran o'u cyllideb yng Nghymru, ar dalent, criw, cyfleusterau a lleoliadau yng Nghymru ac mae’n rhaid i’r holl gynyrchiadau a gefnogir ymrwymo i ddarparu cyfleoedd i hyfforddeion ar ffurf lleoliadau â thâl. Caiff y rhain eu holrhain a'u monitro er mwyn sicrhau llwybrau gyrfaoedd i bob hyfforddai yn y dyfodol. Mae dros 150 o hyfforddeion wedi elwa ar leoliadau â thâl ar gynyrchiadau a gefnogir gan Cymru Greadigol yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf.
Fel rhan o'n hymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu i sefydlu corff sgiliau creadigol, mae Cymru Greadigol yn rhoi blaenoriaeth i ddatblygu sector cynhyrchu cynnwys sy'n darparu cyfleoedd cyfartal ac amrywiol ar gyfer sylfaen gyflogaeth fedrus, hirdymor. Mae cyllid wedi'i dargedu at gwmnïau sy'n angerddol am hyfforddiant ac uwchsgilio, sy'n gweithredu'r arferion diweddaraf ym maes cynhyrchu cynaliadwy ac sydd â lles cast, criw a gweithwyr yn flaenllaw, p'un a ydynt yn weithwyr llawrydd, yn gontractwyr neu'n staff parhaol.
Mae cymorth hefyd yn cael ei flaenoriaethu tuag at gynnwys sy'n dangos y gorau o Gymru i'r byd, o ran diwylliant, iaith, daearyddiaeth ac adrodd stori.
Bydd y dull newydd hwn o ymdrin â ffilmiau yn rhoi hwb i gynhyrchu ffilmiau yng Nghymru, gan ysgogi twf o ran nifer ac amrywiaeth y cynyrchiadau a wneir yng Nghymru. Bydd hefyd yn sicrhau bod yr economi leol yn manteisio i’r eithaf, yn gwella cyfleoedd cyflogaeth, yn cefnogi datblygiad pellach gweithlu medrus, ac yn hyrwyddo ymhellach ragoriaeth Cymru ar y sgrin drwy ein talent, ein criwiau, ein cyfleusterau a’n lleoliadau unigryw o'r radd flaenaf.
Mae'r bartneriaeth hon rhwng Cymru Greadigol a Ffilm Cymru Wales, yn dilyn y memoranda cyd-ddealltwriaeth diweddar gyda’r BBC ac S4C, ac yn enghraifft arall o sut mae ein ffordd o weithio mewn partneriaeth yn sbarduno twf ac yn datblygu talent yn y diwydiannau creadigol yng Nghymru.