Dawn Bowden, y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol
Roeddwn yn falch iawn o gael y cyfle i fynd i Ogledd Iwerddon ar 3 Chwefror i ymweld â'r prosiect Camu i’r adwy cyn Camu yn ôl a chael dysgu rhagor am y dull arloesol llwyddiannus sy'n helpu i leihau nifer y plant sy'n mynd i mewn i ofal. Daeth Prif Swyddog Gofal Cymdeithasol Cymru, Albert Heaney, hefyd ar yr ymweliad gyda mi.
Mae Camu i’r adwy cyn Camu yn ôl yn cynnig cymorth i deuluoedd sydd ar gyrion gofal, gan hyrwyddo cysylltiadau a gallu teuluoedd, yn hytrach na thynnu plant oddi wrth eu rhieni geni a'u symud i ofal maeth. Caiff cymorth dwys wedi'i dargedu ei roi i'r teulu er mwyn osgoi'r angen i'w plant fynd i mewn i'r system ofal.
Gwnaeth y Rhwydwaith Maethu yng Ngogledd Iwerddon gynnal cynhadledd yn Belfast er mwyn arddangos ei raglen Camu i’r adwy cyn Camu yn ôl, a chefais gyfle i gyfarfod â'r teuluoedd sydd wedi elwa ar y prosiect, gofalwyr maeth arbenigol, gwasanaethau statudol a staff prosiect y Rhwydwaith Maethu. Gwnaeth Gweinidog Iechyd Gogledd Iwerddon, Mike Nesbitt, hefyd ymuno â ni yn ystod y digwyddiad. Disgrifiodd yr hyn y mae'r prosiect wedi'i gyflawni o ran helpu teuluoedd i fagu hyder a meithrin perthnasoedd mwy diogel gan eu galluogi i aros gyda'i gilydd.
Mae'r rhaglen Camu i’r adwy cyn Camu yn ôl ar waith mewn partneriaeth â gwasanaethau awdurdodau lleol ac mae eisoes wedi gweld llwyddiant mawr yng Ngogledd Iwerddon. Rhwng 2016 a 2023, gwnaeth y rhaglen helpu 183 o blant a llwyddodd 95% ohonynt i aros gyda'u rhieni yn hytrach na mynd i mewn i ofal. Yn ystod y cyfnod hwnnw, cafodd 109 o rieni a gofalwyr gymorth hefyd.
Yn ganolog i'r rhaglen y mae gofalwyr maeth arbenigol sydd wedi’u hyfforddi’n dda ym maes cymorth i deuluoedd ac maent yn darparu cymorth ataliol am gyfnod penodol o amser i hyd at bedwar teulu ar yr un pryd. Mae'r rhaglen yn rhoi i rieni gymorth gan ofalwyr maeth a all 'gamu i'r adwy' pan fo angen cymorth ychwanegol ar y teulu a 'chamu yn ôl' pan fo rhieni mewn lle gwell i helpu eu plant.
Mae'r cysyniad o gamu i’r adwy cyn camu yn ôl yn cyd-fynd â'n gwaith i drawsnewid gwasanaethau plant yng Nghymru drwy helpu plant i aros gyda'u teuluoedd pan fo hynny'n bosibl. Rwyf felly yn falch bod Llywodraeth Cymru, law yn llaw â chyllid gan Sefydliad KPMG, wedi rhoi cyllid gwerth £879,000 i'r Rhwydwaith Maethu dros gyfnod o dair blynedd er mwyn treialu'r rhaglen Camu i’r adwy cyn Camu yn ôl yng Nghymru, a hynny yn ardaloedd awdurdodau lleol Sir Benfro a Phowys.
Er yn y cyfnod cynnar o weithredu'r cynlluniau treialu yng Nghymru, mae'r gwaith yn mynd rhagddo'n dda. Edrychaf ymlaen at barhau i ddysgu o brofiadau'r rhai sy'n ymwneud â'r rhaglen Camu i’r adwy cyn Camu yn ôl yng Ngogledd Iwerddon, gan fyfyrio ar yr arferion da sydd ar waith a'r canlyniadau rhagorol sydd wedi'u cyflawni ar gyfer teuluoedd sydd wedi manteisio ar y ddarpariaeth hon, wrth i ninnau barhau i addasu a datblygu ein darpariaeth yma yng Nghymru.
Hoffwn ddiolch i'n cydweithwyr yng Ngogledd Iwerddon a wnaeth roi croeso mor gynnes inni yn ystod ein hymweliad. Hoffwn hefyd ganmol y teuluoedd am rannu eu profiadau personol â ni. Roedd yn amhrisiadwy gweld gyda'm llygaid fy hun y dull hyblyg, cefnogol sy'n ystyriol o drawma a gynigir i deuluoedd sy'n agored i niwed drwy'r prosiect Camu i’r adwy cyn Camu yn ôl.