Neidio i'r prif gynnwy

Huw Lewis, Y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Rhagfyr 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Roedd Llundain 2012 yn achlysur chwaraeon gwych sydd wedi ysbrydoli pobl Cymru. Mae’n hollbwysig ein bod yn cadw’r diddordeb y mae pobl wedi ei ddangos mewn chwaraeon yn ystod y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd a’i ddefnyddio fel sbardun i annog unigolion o bob oedran i gymryd mwy o ran mewn gweithgarwch corfforol. Mae’r Rhaglen Lywodraethu yn cynnwys ymrwymiad i atal iechyd gwael a lleihau anghydraddoldebau iechyd drwy hyrwyddo gweithgarwch corfforol i bobl o bob oed.

Ni fu erioed gymaint o frys am weithredu. Roedd Arolwg Iechyd Cymru 2011 yn nodi mai dim ond tua thri o bob deg oedolyn sy’n bodloni’r canllaw ar gyfer gweithgarwch corfforol, sef cael pum niwrnod egnïol yr wythnos o leiaf. Roedd 13 y cant o oedolion yn dweud nad oeddent wedi gwneud unrhyw ymarfer neu weithgarwch corfforol yn yr wythnos flaenorol gyda 21 y cant arall heb wneud mwy na gweithgarwch ysgafn. Nid mater o ystyried y buddion corfforol yn unig yw hyn. Mae ymarfer corfforol rheolaidd yn helpu i gyfrannu at iechyd a lles emosiynol cymdeithasol ein dinasyddion hefyd. Mae pobl ifanc sy’n byw yn afiach yn fwy tebygol o gael eu heithrio o addysg a gweithgareddau cymdeithasol. Byddai rhoi cyfle i’n pobl ifanc gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau a phrofiadau yn eu helpu i wneud dewisiadau mwy adeiladol a phositif, gan ennill sgiliau a dod yn fwy cymwys yn emosiynol.  

Mae yna dystiolaeth wyddonol gadarn y gall cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol ein helpu i fyw bywyd iachach a hapusach. Gall gweithgarwch corfforol rheolaidd leihau’r risg o nifer o gyflyrau cronig gan gynnwys clefyd coronaidd y galon, strôc, diabetes math 2, canser, gordewdra, problemau iechyd meddwl a chyflyrau'r cyhyrau a'r esgyrn. Mae gan bobl sy’n ymgymryd â gweithgarwch corfforol rheolaidd fwy o synnwyr o les ac mae llai ohonynt yn dioddef o iselder a gorbryder ar draws pob ystod oedran. Mae hyd yn oed cynnydd bach mewn gweithgarwch corfforol yn gwarchod rhywfaint yn erbyn clefydau cronig ac mae’n gwella ansawdd bywyd.  

Gwnaeth y Gemau Paralympaidd helpu i newid agweddau at bobl anabl. Gall gweithgarwch corfforol ddod â buddion amrywiol iawn i bobl anabl, gan gynnwys helpu i wella, neu hyd yn oed wrthdroi, nifer o’r effeithiau sy’n deillio o’u hamhariad ac o fynd yn hŷn. Bydd mynd i’r afael â rhwystrau rhag cynnwys plant ac oedolion anabl, a phobl o ddiwylliannau gwahanol, mewn chwaraeon nid yn unig yn gam ymlaen i’w hawliau ac yn gwella eu lles, bydd hefyd yn cynnig manteision ychwanegol o ran cymunedau mwy goddefgar, cynhwysol a chydlynol.  

Mae angen i ni ymateb i’r her hon a chynyddu lefelau gweithgarwch corfforol y boblogaeth gyfan drwy gefnogi pobl i newid eu hymddygiad drwy greu’r amgylchedd iawn ble mae ymgymryd â gweithgarwch corfforol yn ddyddiol yn opsiwn hawdd. Bydd cynyddu lefelau gweithgarwch corfforol yn darparu cyfleoedd a manteision sylweddol ar draws y Llywodraeth ac felly mae’n bwysig bod hon yn uchelgais i’r Llywodraeth gyfan. O ganlyniad, mae’r Cabinet wedi cytuno y dylem ystyried ymhellach sut y gallwn sicrhau bod gweithgarwch corfforol yn fwy o ran o bob un o bortffolios y Llywodraeth a byddaf yn cyfarfod â phob un o fy nghydweithwyr yn y Cabinet yn unigol er mwyn ystyried y posibiliadau ar gyfer cydweithio ar draws y Llywodraeth.

Mae angen i ni hefyd newid cyfeiriad Grŵp Cynghori’r Gweinidog ar Weithgarwch Corfforol fel bod y grŵp yn canolbwyntio mwy ar ganlyniadau ac aelodau yn atebol am gamau gweithredu penodol a fydd yn arwain at gynnydd mewn lefelau gweithgarwch corfforol. Rwyf eisoes wedi rhoi her i’r aelodau feddwl am syniadau arloesol y gallant hwy a’u sefydliadau arwain arnynt, ac rwyf hefyd wedi ystyried opsiynau ar gyfer dyfodol y grŵp er mwyn sicrhau bod y gwaith o weithredu polisi yn cael ei symud ymlaen gyda’r synnwyr o frys angenrheidiol. Rwy’n cynnig fy mod yn parhau i arwain Grŵp newydd a fydd yn cyfarfod ddwy neu dair gwaith y flwyddyn, ac mae’r Cabinet hefyd wedi cytuno y dylem gylchdroi’r gadeiryddiaeth ymysg Aelodau’r Cabinet, pan fo’n addas, gyda chanlyniadau clir a syniadau newydd ar draws ystod o bortffolios.

Byddaf yn rhoi her i Chwaraeon Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru gydweithio dros y tri mis nesaf i gynhyrchu cynllun cyflenwi ar gyfer camau gweithredu i’w cymryd ar y cyd er mwyn cynyddu lefelau gweithgarwch corfforol, ac a fydd yn cyd-fynd â phob menter arall sydd ar droed yn y maes hwn.

Mae fy nghydweithwyr yn y Cabinet hefyd wedi cytuno i adeiladu ar lwyddiant rhaglenni gweithgarwch corfforol a gyllidir yn drawslywodraethol megis Newid am Oes a Dewch i Gerdded Cymru drwy ddwysáu’r ymgyrch Newid am Oes ac sicrhau bod rhaglenni megis Dewch i Gerdded Cymru yn cyrraedd mwy o bobl. Bydd hyn oll yn cefnogi pobl i gynnwys mwy o weithgarwch corfforol yn eu bywydau bob dydd.

Rwy’n hynod ymwybodol bod y posibilrwydd o newid yn gallu peri gofid, ond mae angen i ni newid ein dull ac atgyfnerthu ein ffordd o feddwl fel Llywodraeth gyfan i gynyddu lefelau gweithgarwch corfforol os ydym am gyflawni’r canlyniadau dymunol. Codi lefelau gweithgarwch corfforol yn gyffredinol fydd gwaddol y Gemau Olympaidd i Gymru.

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau.  Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.