Neidio i'r prif gynnwy

Jeremy Miles AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a'r Gymraeg

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Gorffennaf 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'n bleser gennyf gyhoeddi heddiw Ddull Llywodraeth Cymru o Ymdrin â Pholisi Masnach.

Diben y papur hwn yw nodi ein dull o ymdrin â pholisi masnach, ei sylfaen yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, ac egluro’r amcanion polisi trawsbynciol y credwn y dylai Llywodraeth y DU eu dilyn wrth negodi cytundebau masnach.

Mae ein dull o ymdrin â pholisi masnach yn seiliedig ar ein huchelgais i gynyddu ffyniant yng Nghymru, ein gwerthoedd, ein hymrwymiadau ehangach i gynaliadwyedd a’n cyfrifoldebau drwy Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Mae hyn yn cynnwys tyfu ein heconomi mewn modd cynaliadwy, gwella allforion a denu mewnfuddsoddi; gweithredu fel cenedl gyfrifol ar y llwyfan byd-eang; parchu a diogelu hawliau dynol; cymryd camau i ymateb i’r argyfwng hinsawdd byd-eang a diogelu ein gwasanaethau cyhoeddus gwerthfawr.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae’r amgylchedd masnachu wedi newid yn gyfan gwbl. Wrth i’r byd newid, mae Cymru yn newid hefyd. Mae ein ffyniant wedi dibynnu ar fasnach ers tro byd, gyda chyfleoedd yn agor o amgylch y byd yn ogystal ag yma yng Nghymru. Yr her i bawb yng Nghymru yw nodi'r cyfleoedd hynny a sicrhau ein bod ni yn y sefyllfa orau i fanteisio'n llawn arnynt i hybu llesiant economaidd, cymdeithasol, diwylliannol ac amgylcheddol Cymru.

Er mai Llywodraeth y DU yn unig sy'n cael ymrwymo'r Deyrnas Unedig gyfan i gytundebau masnach, mae gan Weinidogion Cymru y pŵer i gyflwyno sylwadau i lywodraeth y DU wrth negodi cytundebau masnach, ac mae gan y Senedd gymhwysedd i basio deddfau sy’n ymwneud ag arsylwi a gweithredu rhwymedigaethau rhyngwladol. Felly, mae gennym ddiddordeb amlwg mewn cytundebau masnach gan y gallant effeithio ar ein pobl, ein lleoedd a’n busnesau, a chreu cyfleoedd a rhwymedigaethau rhyngwladol newydd.

Rwy'n cyhoeddi'r papur hwn heddiw i roi cyfle i Lywodraeth newydd y DU ystyried ein dull o ymdrin â pholisi masnach cyn iddynt benderfynu ar eu strategaeth eu hunain. Edrychaf ymlaen at weithio'n agos gyda Llywodraeth newydd y DU i helpu i sicrhau y bydd cytundebau masnach yn galluogi pobl a busnesau Cymru i ffynnu, wrth weithredu fel platfform ar gyfer gweithio mewn ffordd adeiladol ynghylch yr amgylchedd, safonau defnyddwyr, hawliau dynol, iechyd a chydraddoldeb.