Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Tachwedd 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rydym wedi ymrwymo i ddod o hyd i’r gwerth gorau am arian, a thrwy fuddsoddi yng Nghymru y mae modd canfod y gwerth hwnnw. Fel cadarnhad o’r thema draws-lywodraethol a amlinellwyd mewn datganiad blaenorol gan Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi ar gefnogi’r Economi Sylfaenol yng Nghymru, rydym yn falch o lansio ein Rhaglen yr Economi Sylfaenol ym maes Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol 2021-22.

Mae gwariant ar iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yn cynrychioli mwy na hanner cyllideb flynyddol Llywodraeth Cymru a hoffem wneud i’r arian hwnnw weithio’n galetach i Gymru.

Mae’r rhaglen yn canolbwyntio ar dri phrif faes:

  • Y nwyddau a’r gwasanaethau uniongyrchol a brynwn
  • Y gweithlu a gyflogwn yn uniongyrchol
  • Sut mae lleoliad a chydleoliad ein gwasanaethau yn effeithio ar gymunedau a’u mynediad at bob gwasanaeth

Mae gweithio gyda’n gilydd fel hyn eisoes wedi gweld dros £900,000 yn cael ei ymrwymo i Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar gyfer prosiectau penodol. Mae un o’r prosiectau peilot hyn eisoes wedi helpu cyflenwyr o Gymru i sicrhau gwerth £11 miliwn yn ychwanegol o gontractau gofal iechyd o fis Ebrill i fis Hydref yn ystod y flwyddyn hon.

Wrth wneud penderfyniadau am wariant ar iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, fel yn y sector cyhoeddus yn ehangach, mae’r opsiwn rhataf yn aml yn brocsi ar gyfer gwerth am arian. Ond nid yw cost isel bob amser yn ystyried ble y caiff arian ei wario neu beth arall y gallai ei gyflawni. Os ydym yn gwario arian gyda chwmni sydd wedi’i leoli’n gyfan gwbl y tu allan i Gymru er enghraifft, yr unig werth inni yng Nghymru, yw’r nwyddau neu’r gwasanaethau a gawn – nid yw’r arian yn gweithio mwyach i helpu pobl yng Nghymru.

Drwy'r rhaglen hon, hoffem flaenoriaethu gwario arian cyhoeddus Cymru yng Nghymru, gan gefnogi cwmnïau o Gymru lle bynnag y bo’n bosibl, sy’n cyflogi a darparu swyddi a hyfforddiant mewn cadwyn gyflenwi leol. Pan wariwn arian trethdalwyr Cymru dylai gefnogi gweithlu lleol a mynd i wella bywydau a chyfleoedd pobl. Fel hyn, mae’r bunt honno’n mynd yn ôl i economi Cymru ac yn cael ei gwario mewn siopau yng Nghymru, ar gynnyrch o Gymru ac ar ddyfodol Cymru.

Drwy gydnabod bod gwerth am arian nid yn unig yn golygu’r pris isaf am y nwyddau neu’r gwasanaethau, ond hefyd gwerth cymdeithasol ehangach y cwmnïau yr ydym yn gweithio gyda nhw, gallwn ddefnyddio pŵer prynu a gwario GIG Cymru i wella bywydau pobl yng Nghymru, yn ogystal â darparu gwasanaethau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol o ansawdd uchel.

Yr economi sylfaenol yw’r arian a gaiff ei wario gan ein sefydliadau angori - mae’n cynnwys bwyd i ysbytai, cyflogau i’n gweithlu, gwaith adeiladu newydd ac adnewyddiadau, a llawer mwy.

Fel cyflogwr, yr effaith fwyaf y gallwn ei chael ar gymuned yw gwneud yn siŵr bod gan bobl leol gyfleoedd i hyfforddi a chael gwaith yn GIG Cymru a’r sector gofal cymdeithasol ar bob lefel. Mae ymrwymiad ein Rhaglen Lywodraethu i ddarparu’r cyflog byw cenedlaethol i weithwyr gofal yn enghraifft arall o flaenoriaethau traws-lywodraethol a fydd yn sicrhau buddion i iechyd ac i’r economi.

Wrth ystyried y gwerth y gall ein gwariant ei ychwanegu at gymunedau yng Nghymru, gallwn hefyd wneud penderfyniadau ynghylch ble y caiff gwasanaethau eu lleoli a sut y gellir lleoli gwasanaethau gwahanol gyda’i gilydd i’w gwneud hyd yn oed yn fwy hygyrch.

Drwy roi gwerth ar Gymru yn ein harferion gwario, rydym hefyd yn helpu’r amgylchedd. Mae byrhau cadwyni cyflenwi yn golygu peidio â gorfod cludo nwyddau dros bellteroedd hir. Mae cadwyni cyflenwi byrrach hefyd yn fwy gwydn i newidiadau byd-eang.

Drwy newid sut mae ein heconomi sylfaenol yn gwario arian ar iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, rydym yn gobeithio am ddyfodol lle mae pob ceiniog a gaiff ei gwario yn ystyried gwerth gwirioneddol yr arian hwnnw i bobl yng Nghymru.

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am Raglen yr Economi Sylfaenol ym maes Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol 2021-22 yn: https://llyw.cymru/rhaglen-yr-economi-sylfaenol-ar-gyfer-cymru-iachach