Neidio i'r prif gynnwy

Ken Skates Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Mehefin 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae cynnal gwaith ffyrdd a gwaith stryd yn hanfodol i sicrhau bod ein ffyrdd a’r gwasanaethau sydd ynddyn nhw yn cael eu cynnal a’u cadw’n briodol ac yn cael eu gwella.

Heb eu cynllunio, eu trefnu na’u cynnal yn iawn, gall gwaith o’r fath arafu’r traffig a chael effaith andwyol ar economi Cymru.  Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wella’r ffordd y mae gwaith ar y ffyrdd a strydoedd yn cael ei gynllunio a’i roi ar waith ac mae wedi cynnal ymgynghoriad ar sut i wireddu’r amcan hwn.

Ar ôl cynnal yr ymgynghoriad ac ystyried yr ymatebion, rydyn ni nawr am gyhoeddi Dull Gweithredu Cenedlaethol ar gyfer Gwaith Ffordd a Gwaith Stryd.

Ni chynigir newid deddfwriaeth sylfaenol.  Trwy weithio ar y cyd ag ymgymerwyr statudol ac awdurdodau priffyrdd trwy gyfrwng Pwyllgor Awdurdodau Priffyrdd a Chyfleustodau Cymru (WHAUC), gellir gwneud gwelliannau arwyddocaol i’r ffordd y mae gwaith ffyrdd a gwaith stryd yn cael eu rheoli er lles Cymru o fewn y fframwaith deddfwriaethol presennol.

Bydd yn sbarduno gwelliannau yn y pum prif faes canlynol:

  • cynllunio, cydlynu a chynnal gwaith ffyrdd a gwaith stryd; 
  • darparu prosiectau ffyrdd mawr; 
  • cyfathrebu â’r cyhoedd ac â busnesau; 
  • sgiliau a hyfforddiant; a
  • meithrin diwylliant o gydweithredu a gwelliant parhaus ymhlith y rheini sy’n cynnal gwaith ffyrdd a gwaith stryd.  

Mae’r Dull Gweithredu Cenedlaethol ar gyfer Gwaith Ffordd a Gwaith Stryd yn hynod berthnasol i wireddu’r amcanion o weld Cymru ffyniannus a chydnerth a ddisgrifir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Mae cynnal gwaith ar y briffordd yn siŵr o arwain at rai tagfeydd.  Fodd bynnag, gwelir mwy o anhwylustod nag sydd ei angen ambell waith pan fydd gwaith yn rhedeg yn hwyr neu’n gwrthdaro.  Bydd mynd i’r afael â’r pum prif faes  uchod yn gwella’n sylweddol y ffordd y mae gwaith ffyrdd a gwaith stryd yn cael eu rheoli.  Drwy hynny, sicrheir bod cymunedau’n cael y gwasanaethau a’r seilwaith dibynadwy sydd eu hangen arnyn nhw  tra bo Cymru’n parhau ar agor i fusnes.  

Cewch weld y Dull Gweithredu Cenedlaethol ar gyfer Gwaith Ffordd a Gwaith Stryd ar ein gwefan.