Neidio i'r prif gynnwy

Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Tachwedd 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Rwy’n bwriadu rhoi cyfarwyddyd i Cymwysterau Cymru na ddylid cynnal arholiadau diwedd blwyddyn ar gyfer cymwysterau TGAU, UG a Safon Uwch a gymeradwyir gan Cymwysterau Cymru yn 2021.

Mae hyn yn unol ag argymhellion Cymwysterau Cymru a'r Adolygiad Annibynnol.

Y prif reswm dros fy mhenderfyniad yw tegwch; bydd yr amser y bydd dysgwyr yn ei dreulio mewn ysgolion a cholegau yn amrywio’n aruthrol ac, yn y sefyllfa hon, mae’n amhosibl gwarantu chwarae teg i gynnal arholiadau.  

  • Yn hytrach nag arholiadau, bwriadwn weithio gydag athrawon i ddatblygu asesiadau dan reolaeth athrawon.
  • Dylai hyn gynnwys asesiadau a fydd yn cael eu gosod a'u marcio yn allanol, ond eu cynnal yn y dosbarth o dan oruchwyliaeth athrawon.
  • Rwy’n disgwyl iddynt gael eu defnyddio fel sylfaen ar gyfer canlyniadau gan ganolfannau, gyda dull cenedlaethol y cytunwyd arno i sicrhau cysondeb ar draws Cymru.  
     

Byddaf yn cyflwyno Datganiad Llafar yn ddiweddarach heddiw, lle byddaf yn rhoi mwy o fanylion ac yn rhoi cyfle i Aelodau'r Senedd ofyn cwestiynau.

Rwyf hefyd wedi anfon llythyr at bob ysgol uwchradd a choleg yn rhoi gwybod iddynt am fy mhenderfyniad.