Neidio i'r prif gynnwy

Carwyn Jones, y Prif Weinidog

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Medi 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd yr Aelodau am wybod bod Is-bwyllgor y Cabinet ar Drefniadau Pontio'r UE bellach wedi ymrwymo dros hanner y £50 miliwn o Gronfa Bontio'r UE i helpu busnesau a gwasanaethau cyhoeddus Cymru i gynllunio a pharatoi ar gyfer Brexit.

Mae'r gronfa, a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2018, yn darparu cymorth ariannol yn uniongyrchol i sectorau ar draws Cymru er mwyn cynllunio a pharatoi ar gyfer y newidiadau sylweddol sydd o'n blaen. Mae nifer o brosiectau eisoes wedi elwa ar £7.4 miliwn gan gynnwys cymorth i'n sectorau amaethyddiaeth a physgodfeydd, yn arbennig £2.15 miliwn i ddatblygu'r sector cig coch yng Nghymru.

Rydym hefyd wedi darparu £150,000 i helpu i roi pecyn cymorth Brexit i awdurdodau lleol Cymru, a £200,000 i helpu'r sector gofal cymdeithasol i ymchwilio i effaith bosib Brexit ar y gweithlu a'u cynorthwyo i gynllunio ar gyfer pob sefyllfa bosib. Derbyniodd prifysgolion Cymru £3.5 miliwn hefyd i ysgogi partneriaethau rhyngwladol a hyrwyddo Cymru fel man astudio ar ôl Brexit.

Heddiw rydym yn cyhoeddi cymorth busnes pellach i Airbus (£3 miliwn), Ford (£1.6 miliwn) a chwmnïau eraill sy’n cynhyrchu rhannau ar gyfer moduron er mwyn sicrhau bod eu gweithlu'n meithrin sgiliau ac yn barod ar gyfer bywyd ar ôl Brexit. Er bod gennym raglenni cymorth sgiliau i helpu pob cyflogwr i wynebu'r heriau hyn, mae cwmnïau fel Airbus a Ford wedi nodi bod angen hyfforddiant ar raddfa nad oes modd ei gynnal o fewn y cyllidebau presennol.

Mae Airbus a Ford yn rhan o grwpiau byd-eang, ac fe fydd ein cymorth yn help mawr i wella’r cyfleoedd o ddatblygu eu safleoedd yng Nghymru fel lleoliadau a ffefrir ar gyfer unrhyw brosiectau buddsoddi Ewropeaidd yn y dyfodol ac ar ôl Brexit, a fydd yn ei dro yn sicrhau busnes i gadwyni cyflenwi’r sector awyrofod a modurol yng Nghymru.

Mae'n hanfodol manteisio ar bob cyfle i roi mwy o sgiliau trosglwyddadwy i'r gweithlu er mwyn i Gymru barhau i gael ei gweld fel man dymunol i fusnesau, yn arbennig ar ôl Brexit.

Mae'n bwysig inni fod yn hyblyg ac yn ymatebol i ymdopi â chanlyniadau ymadael â'r UE wrth i fanylion ddod i'r amlwg yn ystod negodiadau Brexit a thros holl gyfnod y trefniadau pontio. Bydd ein cymorth yn helpu i ddiogelu ein heconomi ar gyfer y dyfodol. Bwriad y Gronfa yw helpu busnesau ac eraill, ond er y bydd y buddsoddiad hwn yn rhoi hwb i'n cadernid, nid yw'n gallu ein hynysu rhag effeithiau 'dim cytundeb' na Brexit caled.

Er bod tipyn o ansicrwydd yn parhau ynghylch sawl agwedd ar Brexit, byddwn yn parhau i ystyried cynigion sy’n nodi materion newydd all fod yn hanfodol i Gymru gan ddibynnu ar natur yr ymadawiad - cytundeb neu ddim cytundeb - a phan fydd eglurder a sicrwydd am yr effaith a'r goblygiadau i'n sectorau.

Byddwn yn cyhoeddi'r ymrwymiadau ariannol pellach a gytunwyd yn ddiweddar o Gronfa Bontio'r UE i fusnesau a gwasanaethau cyhoeddus eraill dros yr wythnosau nesaf.