Vaughan Gething AS, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Mae eleni wedi bod yn flwyddyn heriol tu hwnt inni i gyd. Mae’r cyfyngiadau ar ein bywydau bob dydd wedi bod yn llethol, ac rydym yn eiddgar iawn i groesawu’r newyddion bod brechlynnau nawr yn dechrau dod ar gael, i achub bywydau, diogelu’r rhai agored i niwed yn glinigol a’n galluogi i ddechrau dychwelyd i fyw bywyd normal.
Rydym wedi bod mewn trafodaethau manwl ynghylch dull cyson ar draws pedair gwlad y DU wrth fonitro’r cynnydd ar y gwaith o ddatblygu brechlynnau ers mis Mai, ac mae’r sectorau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru wedi bod yn cynllunio o ddifrif i baratoi ar gyfer y brechlyn cyntaf. Nawr mae’r holl waith caled hwn yn dwyn ffrwyth. Ein bwriad yw brechu cynifer o bobl gymwys â phosibl, mor gyflym â phosibl ac mewn ffordd ddiogel, heb wastraffu’r brechlyn. Byddwn yn dechrau gyda’r grwpiau sydd fwyaf agored i ddioddef salwch difrifol neu farwolaeth o haint COVID-19, ynghyd â gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol sydd ar y rheng flaen.
Heddiw, daeth y newyddion ardderchog bod yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA) wedi awdurdodi’r brechlyn Pfizer/BioNTech dros dro i’w ddefnyddio ar sail tystiolaeth bod y brechlyn yn ddiogel ac yn effeithiol. Mae Llywodraeth y DU wedi sicrhau 40 miliwn dos o’r brechlyn Pfizer/BioNTech ar ran y DU. Bydd Cymru, fel gwledydd eraill y DU, nawr yn derbyn ei chyfran ac yn dechrau dosbarthu’r brechlyn, yn seiliedig ar gyngor gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI).
Mae Llywodraeth y DU hefyd wedi gosod archeb ar gyfer 100 miliwn dos o frechlyn Rhydychen/AstraZeneca ac, yn dilyn cyflwyno data Cam III, rydym yn disgwyl penderfyniad gan MHRA ynghylch y brechlyn hwn. Os caiff ei gymeradwyo fel brechlyn diogel ac effeithiol i’w ddefnyddio, dywedwyd wrthym am baratoi i’w ddosbarthu yn hwyrach ym mis Rhagfyr.
Mae’r ddau frechlyn hwn yn gofyn am 2 ddos yr un gyda 4 wythnos rhwng pob dos. Ceir amddiffyniad rhag yr haint 7 diwrnod ar ôl cael yr ail ddos, er y bydd rhywfaint o amddiffyniad i’w weld 7 i 14 diwrnod ar ôl y dos cyntaf. Byddwn yn brechu gyntaf y bobl hynny sydd â’r risg fwyaf o ddal y coronafeirws a mynd yn ddifrifol sâl, ar sail argymhellion JCVI. Mae wedi argymell cynnig y brechlyn yn y lle cyntaf i breswylwyr cartrefi gofal a gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol, ynghyd â phobl 80 mlwydd oed a hŷn.
O’n trafodaethau parhaus gyda Llywodraeth y DU a’r gwneuthurwyr, a dealltwriaeth o’r amodau ar gyfer cynnal treialon y brechlyn, rydym yn ymwybodol o’r heriau wrth storio, trin a dosbarthu’r brechlyn Pfizer/BioNTech. Yn benodol, y ffaith bod angen ei storio ar dymheredd isel iawn, o dan minws -75ºC +/- 15ºC. Pennwyd dau safle arbenigol fel safleoedd priodol i gadw’r brechlyn, ac fe fydd Byrddau Iechyd lleol yn casglu’r brechlynnau yn uniongyrchol o’r safleoedd hynny. Rydym wedi bod yn edrych ar opsiynau addas ar gyfer y camau cychwynnol wrth ddosbarthu’r brechlyn, yn unol â chyngor JCVI, gan gofio’r cyfyngiadau sy’n gysylltiedig â’i nodweddion a’r goblygiadau ar gyfer ei ddarparu i bob grŵp. Yn ymarferol ar hyn o bryd, ni allwn fynd â’r brechlyn hwn i gartrefi gofal.
Ar gyfer pob brechlyn posibl bydd y dulliau dosbarthu terfynol yn debyg ar draws y DU. Mae’n hanfodol inni i gyd barhau i weithio i sicrhau dull cyson ar draws y pedair gwlad.
Mae pob sefydliad y GIG yng Nghymru wedi cynnal ymarferion ar draws y wlad i brofi ein trefniadau dosbarthu a storio, ac i sicrhau bod modd mynd â brechlyn effeithiol yn ddiogel i bob rhan o Gymru. Ar 26 Tachwedd, cynhaliwyd ymarferion ar draws GIG Cymru i brofi’r trefniadau i gludo’r brechlyn Pfizer o’r storfa ganolog ar dymheredd isel tu hwnt i gael ei ddefnyddio yn y pen draw i frechu unigolyn. Roedd yr ymarfer hwn yn dilyn prawf cychwynnol ar 12 Tachwedd, gan ehangu’r trefniadau i gynnwys sawl safle a’r holl ddeunyddiau cysylltiedig angenrheidiol i gynnal clinig brechu.
Gwnaeth yr holl brif randdeiliaid o’r saith Bwrdd Iechyd gymryd rhan, ynghyd â phartneriaid ac arweinwyr fferyllol allweddol. Llwyddwyd i gynnal cadwyn oer drwy gydol yr ymarfer dosbarthu, heb unrhyw achos o dymheredd y tu allan i’r ystod angenrheidiol nac unrhyw oedi. Llwyddwyd i dderbyn pob cyflenwad yn y lleoliad cywir, ac fe gofnodwyd y cyflenwadau yn electronig ar System Imiwneiddio Cymru.
Mae Cymru yn barod i ddosbarthu’r brechlyn fesul cam, gan ddechrau gyda safleoedd ysbytai, ac yna lleoliadau yn y gymuned. Bydd pobl yn cael apwyntiad, a fydd yn nodi ble i fynd i gael y brechlyn, gan ddibynnu ar yr amserlen a’r risg bersonol iddynt. Ni fydd angen gwneud cais na gofyn i feddyg teulu na fferyllydd am y brechlyn, gan y bydd y gwahoddiad yn cael ei anfon yn awtomatig.
Mae System Imiwneiddio Cymru wedi’i datblygu yng Nghymru ac mae’n gallu creu apwyntiadau a threfnu ail ddos yn awtomatig, anfon llythyrau apwyntiad, a chofnodi brechiadau ar gyfer pob brechlyn COVID-19 sy’n cael ei roi.
Bydd y rhai sy’n cael brechlyn COVID-19 yn cael cerdyn imiwneiddio maint cerdyn credyd gan GIG Cymru, a fydd yn dangos enw’r brechlyn, y dyddiad a rhif cyflenwad y dos a roddwyd, wedi’u hysgrifennu â llaw. Bydd y cerdyn yn atgoffa’r unigolyn bod angen ail ddos, ac yn nodi’r math o frechlyn, a bydd hefyd yn rhoi manylion ynghylch sut i roi gwybod am unrhyw sgil effeithiau.
Mae Byrddau ac Ymddiriedolaethau Iechyd, gyda chymorth cynghorwyr gofal sylfaenol, wedi datblygu a phrofi cynlluniau cynhwysfawr i ddarparu’r brechlyn yn ddiogel mewn lleoliadau amrywiol. Bydd hyn yn cynnwys defnyddio lleoliadau yn y gymuned a thimau symudol i sicrhau bod y brechlyn ar gael mor hwylus â phosibl i bawb sydd ei angen. Gwnaed hyn fel y gall gwasanaethau gofal sylfaenol barhau i ddarparu gwasanaethau a chyflawni’r rhaglen brechu rhag y ffliw ar yr un pryd ag y caiff y rhaglen brechu rhag COVID-19 ei rhoi ar waith.
Mae Byrddau ac Ymddiriedolaethau Iechyd Cymru wedi datblygu cynlluniau i ddosbarthu eu gweithlu i gefnogi gwaith cynllunio a darparu lleol. Mae hyn yn cynnwys anghenion hyfforddi a recriwtio, sut i ddefnyddio gwirfoddolwyr i helpu i gyflwyno’r brechlyn, a sicrhau bod digon o bobl wedi’u hyfforddi ac yn brofiadol i roi’r brechlyn i’r nifer gofynnol o bobl, pan fydd y brechlynnau yn ddiogel ac yn barod i’w defnyddio. Mae Byrddau ac Ymddiriedolaethau Iechyd yn defnyddio’r gweithlu presennol i gyflawni’r swyddogaethau hyn i ddechrau gan y dylai’r camau cyntaf, gyda brechlyn newydd, gael eu cynnal gan unigolion profiadol, hyfforddedig. Mae’r gwaith recriwtio yn parhau. Mae Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC) yn gweithio ar lefel leol gyda Chydlynwyr Gwirfoddoli Byrddau ac Ymddiriedolaethau Iechyd, sydd wedi sefydlu trefniadau ar gyfer dosbarthu gwirfoddolwyr, i gefnogi’r ymgyrch frechu drwy recriwtio a hyfforddi gwirfoddolwyr. Rydym yn ymateb i gynigion o gymorth gan St John Cymru a’r Groes Goch ac eraill.
Cymerodd Iechyd Cyhoeddus Cymru ran mewn grŵp hyfforddi arbenigol rhwng pedair gwlad y DU i ddatblygu deunyddiau hyfforddi ac argymhellion ynghylch brechlyn COVID-19 ar gyfer pob aelod o staff, gan gynnwys staff cofrestredig, anghofrestredig, profiadol, dibrofiad a newydd. Mae’r hyfforddiant yn cynnwys modiwlau e-ddysgu ac asesiadau ar gyfer gwybodaeth graidd, Cynnal Bywyd Sylfaenol, anaffylacsis, arweiniad ar gymwyseddau seiliedig ar waith a data penodol am frechlynnau. Bydd Byrddau ac Ymddiriedolaethau Iechyd hefyd yn cynnal hyfforddiant yn lleol ac asesiadau bod staff wedi cwblhau’r hyfforddiant a’u bod yn gymwys i roi’r brechlyn. Bydd hyn yn cael ei gefnogi gan weminarau hyfforddi. Mae staff profiadol a staff newydd wedi cael eu cynghori i gwblhau hyfforddiant craidd ymlaen llaw er mwyn bod yn barod. Mae’r mesurau hyfforddi hyn yn berthnasol i bob un o wledydd y DU.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru, gan gydweithio’n agos ag Iechyd Cyhoeddus Lloegr, wedi datblygu deunyddiau i ddarparu gwybodaeth am frechlynnau COVID-19 i’r cyhoedd a gweithwyr proffesiynol. Hefyd, mae canllawiau i sicrhau bod y brechlyn yn cael ei roi yn ddiogel wedi cael eu llunio, ar y cyd ag asiantaethau iechyd cyhoeddus eraill ar draws y pedair gwlad.
Ni fydd y brechlyn yn orfodol, a bydd modd i bobl ddewis cymryd y brechlyn neu beidio. Bydd gwybodaeth yn cael ei darparu i bobl cyn eu brechu i’w sicrhau ei fod yn ddiogel a bydd trefniadau cydsynio cadarn yn eu lle. Wrth inni agosáu at fedru dosbarthu, byddwn yn parhau i ddarparu gwybodaeth glir i’r cyhoedd ac annog pobl i ofyn am gyngor gan y GIG fel y bydd ganddynt yr wybodaeth gywir i wneud dewis doeth.