Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths, Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Medi 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mae Llywodraeth Cymru heddiw wedi cyhoeddi Dogfen Ymgynghori "Gweithlu'r Gwasanaeth Cyhoeddus: Ymgynghoriad ar ganllawiau a chyfarwyddiadau drafft ynghyd â Chod Ymarfer ar Faterion y Gweithlu”.

Mae'r egwyddorion sy'n sail i'r Cod arfaethedig yn ymwneud â chydraddoldeb yn y gweithle.  Mae hyn yn adeiladu ar y Cod presennol a gyhoeddwyd yn 2003 fel canllawiau o dan adran 19 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1999. Mae'r ymgynghoriad yn gofyn am farn ar ffyrdd o atgyfnerthu'r Cod presennol a'i wneud yn fwy effeithiol. Nod y Cod yw sicrhau triniaeth deg i staff y sector cyhoeddus os cânt eu trosglwyddo i drydydd parti, er enghraifft o ganlyniad i gontract allanol, yn ogystal â thriniaeth deg i staff a gyflogwyd gan y darparwr gwasanaeth i gydweithio â'r gweithlu a drosglwyddwyd. Yn arbennig, mae'r Cod yn ceisio sicrhau y câi cyflogeion y darparwr gwasanaeth eu cyflogi ar delerau ac amodau na fyddent yn llai ffafriol na rhai staff a drosglwyddwyd i'r darparwr gwasanaeth.  

Mae'r Cod hefyd yn ymdrin â threfniadau pensiwn ac yn ei gwneud yn ofynnol i'r corff cyhoeddus sy'n dyfarnu'r contract fonitro'r ffordd y mae'r darparwr gwasanaeth yn gweithredu'r Cod.

Gellir gweld y ddogfen ymgynghori ar-lein.

Gofynnir am ymatebion i'r ymgynghoriad erbyn 20 Rhagfyr 2013.