Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford, Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Lesley Griffiths, Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Medi 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Yn gynharach eleni, gofynnodd y cyn-Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i’r Athro Rosemary Kennedy gynnal adolygiad o’r angen i gael cyfleuster preswyl pwrpasol i gyn-filwyr yng Nghymru.  Yn dilyn trafodaeth gyda’r cyn-Weinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau, gofynnwyd i’r Athro Kennedy ehangu cylch gorchwyl ei hadroddiad i gynnwys anghenion ehangach cyn-filwyr a sut y mae mynd i’r afael â’r anghenion hyn.

Ymchwiliwyd i gyfleusterau preswyl yn sgil Adroddiad gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn 2012, sef ‘Gofal Iechyd a Chymuned y Lluoedd Arfog yng Nghymru’, oedd yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru ‘ystyried sefydlu cyfleuster preswyl o ryw fath yng Nghymru’.  Nid oedd yr adroddiad yn cynnwys llawer o wybodaeth  i gefnogi’r argymhelliad. Awgrymwyd y byddai’r cyfleuster yn enghraifft o ymrwymiad i gyn-filwyr ac yn ‘rhywbeth y gallwch ei weld, ei gyffwrdd a’i deimlo’ ac a fyddai ‘o fudd seicolegol gwirioneddol’. Awgrymwyd y gallai canolfan o’r fath fod yn lleoliad canolog lle y gellid cydgysylltu gwaith cyfeirio ar gyfer cymuned y lluoedd arfog.  Nid oedd yr adroddiad yn nodi y dylai’r cyfleuster fodloni anghenion iechyd cyn-filwyr, er bod rhai yn cymryd y dylai roi cefnogaeth i gyn-filwyr sy’n dioddef o Anhwylder Straen Wedi Trawma (PTSD).

I gyd-fynd â’r penderfyniad i adolygu’r ddarpariaeth o gyfleusterau preswyl, nododd y Grŵp Arbenigol ar y Lluoedd Arfog, a sefydlwyd gan y Gweinidog Llywodraeth Leol, ac sy’n rhoi cyngor i’r Gweinidog ar faterion sy’n ymwneud â’r lluoedd arfog a chyn-filwyr, fod angen ystyried darparu gwasanaethau cyngor a gwybodaeth sy’n bodloni holl anghenion y cyn-filwyr.  Felly, cytunwyd i gyfuno’r ddwy ffrwd waith a gofyn i’r Athro Kennedy, fel unigolyn ar lefel uchel yn GIG Cymru a’r lluoedd arfog, i adolygu’r ddau fater gyda’i gilydd.

I gefnogi ei gwaith, a gychwynnwyd ym mis Chwefror 2013, lluniodd yr Athro Kennedy Grŵp Gorchwyl a Gorffen o’r prif asiantaethau yn y sector cyhoeddus a’r Trydydd Sector sy’n gweithio gyda chyn-filwyr.  Hefyd, gofynnwyd am dystiolaeth gan unigolion a sefydliadau eraill a chynhaliwyd ymweliadau i ddod o hyd i ffeithiau am gyfleusterau cyn-filwyr yn y DU.  

Bellach, mae’r adroddiad terfynol wedi ei gyflwyno i’r Gweinidogion. Mae’n dod i’r casgliad nad oes tystiolaeth, na chefnogaeth gref gan y prif elusennau na chyrff eraill sy’n gweithio yn y maes, i gyfiawnhau cyfleuster preswyl sy’n cefnogi cyn-filwyr sy’n dioddef o Anhwylder Straen Wedi Trawma – cyn belled â bod capasati digonol yn bodoli gan  ddarparwyr presennol yn y GIG a’r Trydydd Sector . Mae hyn yn cefnogi canllaw NICE sy’n hyrwyddo dull cymunedol o drin Anhwylder Straen Wedi Trawma.  

Mae’r Adroddiad yn nodi nad oes gan Gymru, yn wahanol i  weddill y DU, ddarpariaeth breswyl i gyn-filwyr yn unig. Mae’n nodi hefyd mai diben pennaf  darpariaeth breswyl yw bodloni anghenion cymdeithasol yr unigolyn yn hytrach na bod yn rhan o unrhyw raglen therapiwtig. Yn ystod ei drafodaethau, canfu’r Grŵp nifer o faterion oedd yn ymwneud â llety i gyn-filwyr, megis digartrefedd. Er hynny, nid oedd y Grŵp wedi ystyried hyn mewn manylder oherwydd y cyfnod byr a gafwyd i gyflawni’r cylch gwaith gwreiddiol.  Fodd bynnag, mae’r Adroddiad  yn cyfeirio at hyn yn y cyd-destun antherapiwtig, mewn perthynas â materion fel ailsefydlu neu pan fo angen cael gafael ar wasanaethau.

Hefyd, mae’r adroddiad yn eirioli o blaid datblygu rhwydwaith o ganolfannau cefnogi a lles mewn lleoliadau priodol ar y cyd, sy’n gysylltiedig â darparwyr y prif wasanaethau ac elusennau. Mae’n cyfeirio at rwydwaith o ganolfannau a gynigwyd gan y Lleng Prydeinig Frenhinol fel model tebygol i ddatblygu gweithgaredd.

Mae’r adroddiad yn gwneud pedwar argymhelliad pellach:

  • Sicrhau bod Gwasanaeth Iechyd a Lles Cyn-Filwyr Cymru Gyfan yn datblygu darpariaeth asesu a thriniaeth yn y gymuned sydd wedi ei hariannu’n ddigonol
  • Sefydlu safonau ac achrediad i grwpiau sy’n bwriadu darparu asesiadau a therapïau seicolegol.
  • Dangos arferion da i sefydlu gwasanaethau cyson o ansawdd uchel.
  • Cynnal trafodaeth gyda’r Weinyddiaeth Amddiffyn ac eraill i sicrhau bod anghenion cyn-filwyr y presennol a’r dyfodol yn cael eu hadolygu gan nodi anghenion sy’n dod i’r amlwg.

Mae’r Gweinidogion bellach yn ystyried y ffordd orau i symud ymlaen ag argymhellion yr Athro Kennedy, gan roi sylw i weithgareddau sy’n datblygu a gweithgareddau sydd eisoes yn bodoli, yn ogystal â’n hymrwymiadau o dan Gyfamod Lluoedd Arfog y DU, heb anghofio ein Pecyn Cymorth i Gymuned y Lluoedd Arfog yng Nghymru.  Er hynny, rydym yn ymwybodol o’r diddordeb sydd yng ngwaith yr Athro Kennedy, yn enwedig ymhlith ACau, felly rydym wedi cytuno i roi’r adroddiad ar dudalennau mewnrwyd Llywodraeth Cymru i chi gael ei weld.  Rydym yn cymeradwyo’r adroddiad i Aelodau’r Cynulliad.