Neidio i'r prif gynnwy

Carl Sargeant, Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Hydref 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mae dŵr yn adnodd hollbwysig ac yn un o'n hasedau naturiol pwysicaf, gan gynnal ein bywyd gwyllt amrywiol, ein hiechyd a'n datblygiad economaidd, mewn diwydiannau fel twristiaeth, cyflenwi ynni a chynhyrchu bwyd.  Dyna pam ei fod yn bwysig ein bod yn parhau i ddiogelu ein cyflenwadau o ddŵr glân a diogel nawr ac ar gyfer y dyfodol.  Mae sicrhau bod ein hadnoddau yn cael eu rheoli'n effeithiol ac yn effeithlon, yn rhoi'r manteision gorau i bawb.  

I sicrhau bod hyn yn digwydd, bu Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda DEFRA, Cyfoeth Naturiol Cymru ac Asiantaeth yr Amgylchedd i edrych ar yr angen i ddiwygio'r system drwyddedu sy'n rheoli'r broses o dynnu dŵr o'r amgylchedd naturiol ac opsiynau posibl am system drwyddedu fwy modern a hyblyg ar gyfer y dyfodol.  

Arweiniodd y prosiect hwn at ymgynghoriad ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru a DEFRA a lansiwyd ym mis Rhagfyr 2013.  Roedd yr ymgynghoriad yn cynnig dau opsiwn a hefyd yn ceisio deall a oedd rhanddeiliaid yng Nghymru yn cytuno â'r angen i ddiwygio'r system.  
Cafodd crynodeb o'r ymateb i'r ymgynghoriad ei gyhoeddi, ar y cyd â DEFRA, ym mis Gorffennaf eleni, gyda nifer fawr o ymatebion gan ystod eang o sectoau.  Dangosodd yr adborth i'r ymgynghoriad gan Randdeiliaid o Gymru a'r adborth o gyfres o weithdai bod achos polisi cryf yn ogystal â chefnogaeth eang dros ddiwygio'r system trwyddedu tynnu dŵr yng Nghymru.  

Mae'r dystiolaeth a'r gefnogaeth rydym wedi'i gael drwy gydol yr ymgynghoriad yn dangos bod achos cryf dros ddiwygio'r system trwyddedu tynnu dŵr yng Nghymru.  Bydd hyn yn sicrhau bod gennym ddigon o  ddŵr i fodloni ein hangenion presennol am ddŵr yfed, a'n hanghenion yn y dyfodol, ar  gyfer busnesau, er mwyn cefnogi twf economaidd ac i ddiogelu ein hamgylchedd.  

Byddwn yn awr yn dechrau edrych yn fanwl ar yr opsiynau ar gyfer cyflwyno system drwyddedu ddiwygiedig i dynnu dŵr, ar y cyd â Cyfoeth Naturiol Cymru a DEFRA.  
Byddwn yn sicrhau bod y rhai yr effeithir arnynt yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf yn unol â hynny.