Neidio i'r prif gynnwy

Alan Davies AC, Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Mai 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Yn fy Natganiad ar 14 Mehefin 2012, hysbysais yr aelodau fod Cyngor Gweinidogion yr UE ar gyfer Pysgodfeydd wedi cytuno ar ddull cyffredin mewn perthynas â chynigion allweddol Polisi Pysgodfeydd Cyffredin newydd. Mae llawer iawn o drafod a meddwl wedi mynd rhagddo ers hynny, ar draws holl Sefydliadau’r UE, ac o fewn y gwahanol gymunedau pysgota ymhob rhan o Ewrop.

Yn ystod oriau mân fore heddiw daeth Cyngor Pysgodfeydd yr UE i gytundeb pwysig arall sy’n ysgogiad ac yn fandad ar gyfer trafodaethau â Senedd Ewrop a fydd yn dod i ben yn ystod y misoedd nesaf. Bydd hyn yn cyflwyno dull a fydd yn gwaredu’r arferion gwastraffus o waredu pysgod marw o faint da i’w marchnata yn y môr, gan ei gwneud hi’n bosibl i reoli pysgodfeydd yn rhanbarthol yn unol â chynlluniau rheoli sy’n sicrhau bod stociau ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Mae hefyd yn sicrhau bod ein hamgylchedd morol yn cael ei ddiogelu’n well.

Roeddwn yn bresennol ar ddechrau’r trafodaethau ym Mrwsel a gwnes gynrychioli buddiannau Llywodraeth Cymru a physgotwyr Cymru. Dyma’r agwedd ddiweddaraf ar waith fy swyddogion a minnau dros y ddwy flynedd ddiwethaf mewn perthynas â diwygio’r Polisi Pysgodfeydd Cyffredin. Rydym wedi cydweithio’n agos â Gweinidogion a swyddogion Llywodraeth y DU  er mwyn sicrhau bod anghenion ac amgylchiadau penodol pysgodfeydd yng Nghymru yn cael eu hystyried, ac yn arbennig anghenion ein fflyd arfordirol sy’n gymharol fach.

Mae disgwyl i’r trafodaethau olaf ddigwydd yn ystod yr wythnosau nesaf a byddaf yn parhau i chwarae rhan amlwg ynddynt. Byddwn hefyd yn chwarae rhan amlwg yn y trafodaethau disgwyliedig â Llywodraeth y DU ac â’r Gweinyddiaethau Datganoledig eraill ynghylch gweithredu’r Polisi Pysgodfeydd Cyffredin newydd.

Fy uchelgais i o’r dechrau’n deg oedd sicrhau diwydiant pysgota sy’n fwy cynaliadwy ac sy’n creu mwy o elw ar gyfer Cymru. Mae ffurf debygol y Polisi Pysgodfeydd Cyffredin newydd yn cynnwys sawl elfen a ddylai ein helpu i gyflawni hyn. Byddwn yn mynd i’r afael â hyn fel rhan o’n Strategaeth ddiwygiedig ar gyfer Pysgodfeydd Cymru, ac yn unol â dull mwy integredig o reoli pysgodfeydd a materion morol eraill. Rhagwelaf y byddaf yn cyflwyno datganiad pellach ar y mater hwn ym mis Mehefin.

Mae angen i mi esbonio bod Cronfa’r Môr a Physgodfeydd Ewrop, sy’n Gronfa newydd, yn parhau’n destun trafod ac na fydd y mater yn cael ei ddatrys am beth amser. Nid yw’n rhan o’r cytundeb hwn. Rwy’n gobeithio y gallwn sicrhau cytundeb ynghylch y Gronfa newydd hon yn ddiweddarach eleni gan ein bod yn bwriadu ei defnyddio yng Nghymru ar gyfer cyflawni ein hamcanion strategol. Bydd hyn yn helpu i sicrhau y gall busnesau a chymunedau pysgota Cymru lwyddo.  

Hoffwn, unwaith eto, nodi fy niolch i Swyddogion Llywodraeth Cymru ac i Weinidog Pysgodfeydd y DU, Richard Benyon, am ei stiwardiaeth o ddirprwyaeth y DU drwy drafodaethau hir a chymhleth.