Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Rhagfyr 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rwyf yn falch o gyhoeddi bod negodiadau ar gyfer Contract Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol (GMS) 2021-22 wedi dod i ben a bod cytundeb wedi'i wneud a fydd yn gweld buddsoddiad mewn GMS sy'n gwella mynediad at wasanaethau tra'n cefnogi capasiti ychwanegol yn y system. Bydd y capasiti ychwanegol hwn o bwysigrwydd arbennig o gofio pwysau cynyddol y gaeaf y mae'r system iechyd gyfan yn eu gweld ar hyn o bryd.

Drwy gydol y pandemig a'r heriau sydd wedi dod yn ei sgil, rydym wedi parhau â'n rhaglen ddiwygio uchelgeisiol ar gyfer pob un o'r pedwar contract gofal sylfaenol, gan gynnwys GMS.  Mae'r rhaglen waith drosfwaol yn parhau i gael ei rheoli trwy'r Cyd-grŵp Cysondeb Diwygio Gofal Sylfaenol ac mae'r dull gweithredu teirochrog, sy'n dod â Llywodraeth Cymru, GIG Cymru a'n rhanddeiliaid ynghyd wedi bod o werth sylweddol drwy gydol y negodiadau hyn ar y contract.

Rwyf yn cydnabod bod staff ar draws y sector wedi gweithio'n galed, yn aml yn wyneb heriau a phwysau enfawr, yn ystod y pandemig. Maent wedi dal i fod ar gael i gleifion y mae arnynt eu hangen ac wedi ymateb yn hyblyg, gan addasu i ffyrdd newydd o weithio, tra'n blaenoriaethu'r rhai sydd fwyaf mewn angen.  Rwyf yn ymwybodol iawn hefyd nad yw'r system wedi gweithio cystal ag y gallai i bawb ac mewn rhai achosion, mae pobl wedi'i chael yn anodd llwyddo i weld eu Hymarferydd Cyffredinol.  Bydd y cytundeb hwn yn darparu buddsoddiad ychwanegol a newidiadau i'r contract sy'n anelu at wella gwasanaethau i gleifion gan gydnabod, unwaith eto, y rôl hanfodol y mae holl staff practis yn ei chwarae wrth barhau i ddarparu GMS.

Mae contract newydd 2021-22 yn adeiladu ar y gwersi sydd wedi'u dysgu yn sgil Covid-19 ac yn mynd â ni gam ymhellach at gyflawni nodau Cymru Iachach. Yn benodol, bydd y cytundeb hwn yn gweld:

  • Gwella mynediad at wasanaethau gofal sylfaenol ac oddi wrthynt trwy ddileu'r dagfa 8am bresennol sy'n bodoli a chan sicrhau bod angen y claf yn cael ei fodloni yn y pwynt cyswllt cyntaf.
  • Bydd Cronfa Capasiti'r Gaeaf o £2m am weddill y flwyddyn ariannol hon yn cefnogi practisau i gynyddu eu capasiti staffio i ymateb i heriau'r gaeaf sydd o'n blaenau.
  • O 1 Ebrill 2022, bydd y Gronfa Gapasiti yn cynyddu i £4m, gan redeg yn gylchol am dair blynedd a bydd yn cefnogi'r gwaith o roi'r Ymrwymiad Mynediad ar waith yn llawn.
  • Mae cydweithio rhwng swyddogion, GIG Cymru a GPC Cymru, gyda rhanddeiliaid allweddol eraill yn cryfhau ymhellach y rôl bwysig y mae GMS eisoes yn ei chwarae o ran atal.  Yn benodol, bydd y cytundeb hwn yn canolbwyntio ar ordewdra a chyn-diabetes o gofio'r cysylltiad clir â chyflyrau cronig tymor hwy a'r cyfleoedd ar gyfer ymyrryd yn gynnar.
  • Caiff y Fframwaith Sicrwydd Ansawdd a Gwella (QAIF) ei ddiwygio gyda chanolbwynt newydd, gan gymryd i ystyriaeth y gwersi sydd wedi'u dysgu ers iddo gael ei gyflwyno yn 2019 a'r cynnydd o ran datblygu clwstyrau.
  • Caiff dau brosiect Gwella Ansawdd (QI) newydd yn ymwneud â data GMS eu cyflwyno eleni i wella ansawdd y data gweithgarwch presennol tra'n safoni cofnodi data clinigol.

I gydnabod y pecyn cynhwysfawr ac uchelgeisiol hwn o newidiadau y cytunwyd arnynt, mae'r trefniadau ariannu canlynol wedi'u gwneud:

  • Codiad o 3% i elfen tâl ymarferwyr cyffredinol y contract, gan fodloni argymhelliad y Corff Adolygu Meddygon a Deintyddion ar dâl yn llawn.
  • Buddsoddiad o £4.8m i ariannu codiad o 3% i dalu am holl staff practisau. Bydd hwn yn ofyniad contractiol ar gyfer eleni, ac o dano bydd staff GMS presennol yn cael codiad o 3% i'w tâl gros, er mwyn cydnabod eu rôl hanfodol wrth ddarparu GMS.
  • Dyfarniad pellach o £2m i gefnogi capasiti ychwanegol o fewn GMs dros y gaeaf, gan gynyddu o £4m o 1 Ebrill 2022, yn gylchol am dair blynedd.

Ynghyd â'r newidiadau ariannol, bydd trefniadau ehangach mewn perthynas â chymhellion partneriaid a chymorth i'r gweithlu'n sicrhau bod GMS yn parhau'n system ddeniadol i weithio odani yma yng Nghymru.

Mae GMS wedi chwarae rôl bwysig yn ystod y pandemig a bydd yn parhau i wneud hynny wrth i'r system gyfan geisio ymateb ac adfer. Mae'r cytundeb hwn yn dangos fy ngwerthfawrogiad o ymdrechion Ymarferwyr Cyffredinol a'r holl staff sy'n gweithio mewn practisau Ymarferwyr Cyffredinol am eu hymroddiad a'u hymrwymiad yn ystod y 18 mis diwethaf.  

Hoffwn achub y cyfle hefyd i ddiolch i'r holl gydweithwyr yn GIG Cymru a GPC Cymru am eu hymgysylltiad a'u hymrwymiad parhaus i'r rhaglen ddiwygio hon.  Nid wyf yn tanbrisio lefel yr ymrwymiad a'r cydweithio sydd wedi'i dangos er mwyn dod i'r cytundeb hwn ac rwyf yn hyderus y bydd yr ymdrechion hynny'n parhau i'n cefnogi wrth inni symud ymlaen.