Jeremy Miles AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Rwy'n falch o gyhoeddi y byddwn yn buddsoddi £52.1 miliwn ym maes meddygaeth deulu eleni, wedi i'r trafodaethau ynglŷn â chontract Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol 2024-25 gael eu cwblhau'n llwyddiannus. Dyma'r buddsoddiad blynyddol unigol mwyaf mewn Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol ers y pandemig.
Fel rhan o'r buddsoddiad hwn, cytunwyd ar y trefniadau cyllido canlynol â Phwyllgor Ymarferwyr Cyffredinol (GPC) Cymru:
- Gweithredu argymhelliad y Corff Adolygu Meddygon a Deintyddion ar gyfer codiad o 6% i'r elfen yn y contract sy'n ymwneud â chyflogau meddygaeth deulu;
- Am y bumed flwyddyn yn olynol, rydym wedi darparu cyllid i alluogi'r un lefel o godiad i holl staff practisau. Gwneir hyn er mwyn cydnabod cyfraniad gwerthfawr tîm ehangach practisau i ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel. Mae hyn yn cyfateb i £12.7 miliwn ar gyfer treuliau cyflogau staff;
- Cytunwyd ar £1.8 miliwn pellach i gefnogi practisau o ran treuliau busnes parhaus
- £4 miliwn o fuddsoddiad yn y gronfa capasiti ychwanegol yn 2024-25 gan ymrwymo i barhau ar yr un lefel ar gyfer 2025-26 fel rhan o'r setliad cyffredinol hwn.
Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod y pwysau a'r costau cynyddol sy'n wynebu meddygaeth deulu, gan gynnwys y galw mawr am wasanaethau meddygon teulu. Mae practisau'n darparu 1.6 miliwn o apwyntiadau bob mis sy'n dyst i'r ymddiriedaeth sydd gan y cyhoedd mewn meddygaeth deulu a'r gwerth y mae'n ei roi arni. I gefnogi meddygon teulu, rwy'n darparu £23 miliwn ychwanegol yn 2024-25 fel taliad sefydlogi untro i bractisau.
Mae Llywodraeth Cymru, GIG Cymru a GPC Cymru wedi cytuno i barhau i weithio gyda'i gilydd, mewn partneriaeth gymdeithasol, i ystyried atebion posibl i'r materion cynaliadwyedd hyn drwy fodelau gwasanaeth gwahanol. Bydd hyn hefyd yn cefnogi ein nod ar y cyd i ddarparu mwy o ofal yn nes at gartrefi pobl gan gynnwys diagnosteg.
Mae'r cytundeb hefyd yn cynnwys trefniadau mewn nifer o feysydd eraill er mwyn ysgogi gwelliannau mewn meddygaeth deulu, a hynny er budd y cyhoedd, meddygon teulu, a'r system iechyd a gofal ehangach.
Er mwyn parhau i wella mynediad at wasanaethau meddygon teulu, rydym wedi cytuno ar adolygiad ar unwaith i gryfhau cydymffurfiaeth â Safonau Mynediad Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol o ran y dagfa am 8 y bore ac apwyntiadau y gellir eu harchebu ymlaen llaw.
Bydd Ap GIG Cymru yn ei gwneud hi'n haws i bobl gael gafael ar ofal a chyngor, trefnu apwyntiadau a chael gwybodaeth gan eu meddyg teulu. O ganlyniad i'r cytundeb contract eleni, bydd pobl yn gallu archebu presgripsiynau rheolaidd a dymuno apwyntiadau yn gynyddol drwy'r ap. Bydd pobl sydd angen cymorth gyda'r broses gychwynnol o wirio hunaniaeth i gofrestru ar gyfer yr ap yn gallu ei gael drwy eu practis lleol.
Er mwyn gwella mynediad teg at wasanaethau i bobl ledled Cymru, rydym wedi cytuno y bydd y gwiriad iechyd anabledd dysgu blynyddol yn dod yn rhan o wasanaethau unedig o fewn y contract Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol a bydd pob practis meddyg teulu yn ei gynnig.
Cytunwyd hefyd ar newid i'r llwybr triniaeth ar gyfer meddyginiaeth wrthfeirol Covid-19. Bydd pawb sy'n gymwys yn gallu cysylltu â'u practis – neu wasanaeth y tu allan i oriau – os byddant yn profi'n bositif am Covid-19 i gael eu hasesu'n glinigol ar gyfer meddyginiaeth wrthfeirol. Os yw'n briodol, bydd y feddyginiaeth yn cael ei rhoi iddynt ar bresgripsiwn.
O dan y contract, bydd yn ofynnol i bractisau fynd ati i ganfod a chofnodi pobl sy'n byw gyda bregusrwydd difrifol neu gymedrol gan ddefnyddio offeryn sy'n seiliedig ar dystiolaeth. Bydd hefyd yn ofynnol i bractisau gasglu a chofnodi data ethnigrwydd cleifion. Bydd y ddau newid hyn yn helpu i gynllunio a darparu gwasanaethau mwy holistaidd i gleifion.
Gan gydnabod pwysigrwydd parhad gofal, byddwn yn cyflwyno prosiect gwella ansawdd i gefnogi mesur parhad gofal mewn practisau. Unwaith y bydd wedi'i ddatblygu a'i gymeradwyo, bydd yn rhan o'r Fframwaith Gwella Ansawdd.
Ceir ymrwymiadau pellach i gydweithio ar adolygiadau sylweddol o'r gronfa capasiti ychwanegol a Safonau Mynediad Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol. Bydd yr argymhellion sy'n deillio o'r adolygiadau hyn yn llywio trafodaethau yn y dyfodol ynglŷn â'r contract.
Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i bawb yn GPC Cymru a GIG Cymru am eu hymrwymiad parhaus i raglen diwygio contract sy'n ceisio cryfhau cynaliadwyedd meddygaeth deulu a sicrhau bod gwasanaethau meddygon teulu yn parhau i fod ar gael yn hwylus i bawb yng Nghymru.