Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Bydd yr Aelodau'n ymwybodol bod Llywodraeth Cymru wedi gwneud darpariaeth yn Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020 i sicrhau bod teithwyr sy'n cyrraedd Cymru o wledydd a thiriogaethau tramor yn gorfod hunanynysu am 10 diwrnod a darparu gwybodaeth amdanynt eu hunain fel teithwyr, er mwyn atal y coronafeirws rhag lledaenu ymhellach. Daeth y cyfyngiadau hyn i rym ar 8 Mehefin 2020.
Mae’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn cael eu hadolygu’n gyson, ac ar 18 Ionawr cafodd y coridorau teithio eu hatal. Nid yw’r trefniadau presennol ar gyfer teithio o fewn yr Ardal Deithio Gyffredin (y Deyrnas Unedig, Iwerddon, Ynys Manaw ac Ynysoedd y Sianel) wedi newid felly caniateir teithio o fewn yr ardal hon heb orfod ynysu.
Mae asesiad risg diweddaraf y Gyd-ganolfan Bioddiogelwch (22 Mawrth) ar gyfer Bangladesh, Kenya, Pacistan ac Ynysoedd Philippines yn dangos bod y risgiau wedi cynyddu ac y dylid ychwanegu’r rhain at y rhestr goch o wledydd. Byddai hynny’n golygu bod hediadau uniongyrchol yn cael eu gwahardd ac na fyddai hawl gan deithwyr i ddod i mewn i Gymru – yn hytrach byddai’n rhaid iddynt ddod drwy borthladd penodedig yn Lloegr neu yn yr Alban ac aros mewn cwarantin wedi’i reoli yno am 10 diwrnod cyn teithio i Gymru.
Gwneir newidiadau eraill yn y ddeddfwriaeth hon er mwyn:
- Caniatáu i gludwyr sydd wedi bod mewn gwlad "rhestr goch" ddod i mewn i Gymru a chael eu heithrio rhag y gofyniad i fynd i fan ynysu wedi’i reoli yn Lloegr.
- Cyflwyno trefniant profi pwrpasol ar gyfer cludwyr (o’r DU ac o’r tu allan i'r DU) i'w heithrio rhag y gofynion profi ar ôl cyrraedd, a rhoi profion gweithlu iddynt ar ddiwrnodau 2, 5 ac 8 yn lle hynny.
- Cyflwyno gofynion ynysu penodol ar gyfer cludwyr.
- Gosod hysbysiadau cosb benodedig ar gyfer troseddau’n ymwneud â’r gofynion profi ac ynysu newydd.
- Caniatáu i fyfyrwyr o dan 18 oed sydd wedi bod mewn gwlad "rhestr goch" ddod i mewn i Gymru ac ynysu mewn ysgol breswyl.
- Caniatáu i berson adael ei fan ynysu ar ôl 14 diwrnod os nad yw canlyniad prawf wedi'i ddychwelyd o’r labordy.
- Gwneud diwygiadau canlyniadol eraill gan gynnwys diwygiadau i gywiro gwallau drafftio yn y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol.
Bydd y rheoliadau yn dod i rym am 04:00 ddydd Gwener 9 Ebrill.