Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Hydref 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd yr Aelodau'n ymwybodol bod Llywodraeth Cymru wedi gwneud darpariaeth yn Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020 i sicrhau bod teithwyr sy'n cyrraedd Cymru o wledydd a thiriogaethau tramor yn gorfod hunanynysu am 14 diwrnod, a darparu gwybodaeth am deithwyr, er mwyn atal y coronafeirws rhag lledaenu ymhellach. Daeth y cyfyngiadau hyn i rym ar 8 Mehefin 2020.

Ar 10 Gorffennaf, diwygiodd Llywodraeth Cymru'r Rheoliadau hyn i gyflwyno eithriadau i’r gofyniad i hunanynysu ar gyfer rhestr o wledydd a thiriogaethau, ac ystod gyfyngedig o bobl mewn sectorau neu gyflogaeth arbenigol a allai fod wedi'u heithrio rhag y gofyniad i hunanynysu neu rhag rhai o ddarpariaethau’r gofynion ynghylch gwybodaeth am deithwyr.

Ers hynny, mae’r Rheoliadau hyn wedi’u hadolygu’n gyson ac mae nifer o newidiadau wedi’u gwneud i’r rhestr o wledydd a thiriogaethau sydd wedi’u heithrio.

Heddiw, adolygais asesiadau diweddaraf y Gyd-ganolfan Bioddiogelwch ac rwyf wedi penderfynu y bydd Lithiwania a Chyprus yn cael eu tynnu oddi ar y rhestr o wledydd a thiriogaethau sydd wedi’u heithrio. Felly bydd rhaid i deithwyr sy’n cyrraedd o Lithiwania a Chyprus hunanynysu pan fyddant yn cyrraedd Cymru.

Bydd diwygiadau pellach yn cael eu gwneud i’r eithriadau ar sail sector er mwyn caniatáu i filwyr tramor ar ymweliad gymryd rhan mewn ymarferion hyfforddi yng Nghymru. Bydd diwygiadau technegol yn cael eu gwneud i ddau gategori i’w gwneud yn glir bod yr eithriad yn berthnasol i ddibenion teithio ar gyfer gwaith yn unig.

Hefyd, bydd digwyddiadau ychwanegol yn cael eu hychwanegu at y rhestr o ddigwyddiadau chwaraeon yn Atodlen 4. Mae’r rhai sy’n cymryd rhan yn y digwyddiadau hyn wedi’u heithrio o’r gofynion hunanynysu ar gyfer dibenion cyfyngedig yn gysylltiedig â’u cyfranogiad.

Bydd newidiadau yn cael eu gwneud i’r gofynion ynghylch gwybodaeth am deithwyr i gael gwared â cheisiadau am ddata diangen ac i gynnwys gofyniad newydd ar gyfer rhifau seddi pan fyddant ar gael.

Yfory, byddaf yn gosod y rheoliadau angenrheidiol a ddaw i rym am 04:00 ddydd Sul 1 Tachwedd.