Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Ionawr 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd yr Aelodau'n ymwybodol bod Llywodraeth Cymru wedi gwneud darpariaeth yn Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020 i sicrhau bod teithwyr sy'n cyrraedd Cymru o wledydd a thiriogaethau tramor yn gorfod hunanynysu am 10 diwrnod, a darparu gwybodaeth amdanynt eu hunain fel teithwyr, er mwyn atal y coronafeirws rhag lledaenu ymhellach. Daeth y cyfyngiadau hyn i rym ar 8 Mehefin 2020.

Ar 10 Gorffennaf, diwygiodd Llywodraeth Cymru'r Rheoliadau hyn i gyflwyno eithriadau i’r gofyniad i hunanynysu ar gyfer rhestr o wledydd a thiriogaethau, ac ar gyfer ystod gyfyngedig o bobl mewn sectorau neu gyflogaeth arbenigol a allai fod wedi'u heithrio rhag y gofyniad i hunanynysu neu rhag rhai o ddarpariaethau’r gofynion ynghylch gwybodaeth am deithwyr.

Ers hynny, mae’r Rheoliadau hyn wedi’u hadolygu’n gyson ac mae nifer o newidiadau wedi’u gwneud i’r rhestr o wledydd a thiriogaethau sydd wedi’u heithrio. 

Heddiw, adolygais asesiadau diweddaraf y Gydganolfan Bioddiogelwch (JBC) ac rwyf wedi penderfynu y bydd Aruba, Ynysoedd Açore, Bonaire, Sint Eustatius a Saba, Chile, Madeira a Qatar yn cael eu tynnu oddi ar y rhestr o wledydd a thiriogaethau sydd wedi’u heithrio. Felly bydd rhaid i deithwyr o’r gwledydd hynny hunanynysu pan fyddant yn cyrraedd Cymru.

Fe wnaeth asesiad y JBC hefyd ystyried ymddangosiad amrywiolyn newydd ym Mrasil ac mae’r JBC yn argymell bod dull rhagofalus yn briodol nes bod gwybodaeth bendant ar gael.

Mae gan Uruguay, Paraguay, Ariannin, Bolivia, Periw, Colombia, Surinam, a Guiana Ffrengig gysylltiadau teithio cryf â Brasil ac mae’r data epidemiolegol a adroddir ganddynt yn cynyddu, sy’n gyson ag amrywiolyn newydd. Yn ogystal, mae gan Chile ffin ag Ariannin, sydd wedi adrodd bod yr amrywiolyn yn lledaenu mewn cymunedau a bod ei metrigau epidemiolegol yn cynyddu.

Felly, rwyf wedi penderfynu y dylid cymryd camau i ddileu'r eithriadau sectoraidd ar gyfer teithwyr sy'n cyrraedd o'r gwledydd hyn y gallai fod cysylltiad rhyngddynt a’r amrywiolyn newydd hwn. Bydd yn ofynnol i bob teithiwr sy'n cyrraedd Cymru sydd wedi bod yn y gwledydd hyn yn ystod y 10 diwrnod blaenorol hunanynysu am 10 diwrnod, a dim ond mewn amgylchiadau cyfyngedig iawn y bydd yn gallu gadael y man ynysu.  Bydd yr un gofynion ynysu hefyd yn berthnasol i bob aelod o'u haelwyd. Bydd y gofynion ynysu cryfach hyn hefyd yn berthnasol i bobl sydd eisoes yng Nghymru sydd wedi bod yn y gwledydd hyn yn ystod y 10 diwrnod diwethaf, ac i aelodau eu haelwydydd. 

Yn ogystal, ni fydd hediadau uniongyrchol o'r gwledydd hyn yn cael glanio yng Nghymru mwyach.

Bydd y rheoliadau angenrheidiol yn cael eu gwneud heddiw a bydd y mesurau ychwanegol sy'n ymwneud ag amrywiolyn Brasil yn dod i rym am 04:00 ddydd Gwener 15 Ionawr 2021, a’r gweddill yn dod i rym am 04:00 ddydd Sadwrn 16 Ionawr a byddant yn cael eu gosod yfory unwaith y byddant wedi'u cofrestru.