Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Ionawr 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd yr Aelodau'n ymwybodol bod Llywodraeth Cymru wedi gwneud darpariaeth yn Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020 i sicrhau bod teithwyr sy'n cyrraedd Cymru o wledydd a thiriogaethau tramor yn gorfod hunanynysu am 14 diwrnod a darparu gwybodaeth amdanynt eu hunain fel teithwyr, er mwyn atal y coronafeirws rhag lledaenu ymhellach. Daeth y cyfyngiadau hyn i rym ar 8 Mehefin 2020.

Ar 10 Gorffennaf, diwygiodd Llywodraeth Cymru'r Rheoliadau hyn i gyflwyno eithriadau i’r gofyniad i hunanynysu ar gyfer rhestr o wledydd a thiriogaethau, ac ystod gyfyngedig o bobl mewn sectorau neu gyflogaeth arbenigol a allai fod wedi'u heithrio rhag y gofyniad i hunanynysu neu rhag rhai o ddarpariaethau’r gofynion ynghylch gwybodaeth am deithwyr.

Ers hynny, mae’r Rheoliadau hyn wedi’u hadolygu’n gyson ac mae nifer o newidiadau wedi’u gwneud i’r rhestr o wledydd a thiriogaethau sydd wedi’u heithrio.

Heddiw, adolygais asesiadau diweddaraf y Gyd-ganolfan Bioddiogelwch ac rwyf wedi penderfynu y bydd Israel, Botswana, Mawrisiws a’r Seychelles yn cael eu tynnu oddi ar y rhestr o wledydd a thiriogaethau sydd wedi’u heithrio. Bydd gofyn i bobl sy’n teithio o’r gwledydd hyn hynanynysu ar ôl cyrraedd Cymru.

Ar 23 Rhagfyr adroddodd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth fod amrywiolyn newydd o Covid-19 wedi'i ganfod yn Ne Affrica. Penderfynodd Llywodraeth y DU weithredu cyfyngiadau teithio pellach ar y rheini sy'n cyrraedd o Dde Affrica. Mae'r rhan fwyaf o hediadau o Dde Affrica yn teithio i feysydd awyr yn Lloegr. 

Heddiw, mae'r Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth wedi penderfynu cynnal y mesurau presennol ar Dde Affrica ac ymestyn mesurau cyfatebol i wledydd eraill sy'n cynnwys Namibia, Zimbabwe, Botswana, Eswatini, Zambia, Malawi, Lesotho, Mozambique, Angola, a hefyd Mawrisiws a’r Seychelles.

Felly, rwyf wedi penderfynu y dylid cymryd camau i ddileu'r eithriadau sectoraidd i deithwyr sy'n cyrraedd o’r gwledydd hyn. Bydd yn ofynnol i bawb sy'n cyrraedd Cymru sydd wedi bod yn y gwledydd hyn yn ystod y 10 diwrnod blaenorol ynysu am 10 diwrnod a dim ond mewn amgylchiadau cyfyngedig iawn y bydd hawl ganddynt i adael eu cartrefi. Bydd yr un gofynion ynysu yn gymwys i bob aelod o'u haelwyd hefyd. Bydd y gofynion ynysu ychwanegol hyn hefyd yn gymwys i unigolion sydd eisoes yng Nghymru a fu yn y gwledydd hyn yn ystod y 10 diwrnod diwethaf, yn ogystal ag aelodau o'u haelwyd. 

Gwneir diwygiad pellach fel na all awyrennau sy'n teithio yn uniongyrchol o’r gwledydd hyn lanio mewn meysydd awyr yng Nghymru mwyach.  

Yfory byddaf yn gosod y rheoliadau angenrheidiol a ddaw i rym am 04:00 ddydd Sadwrn 9 Ionawr 2021.

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.