Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Tachwedd 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd yr Aelodau'n ymwybodol bod Llywodraeth Cymru wedi gwneud darpariaeth yn Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020 i sicrhau bod teithwyr sy'n cyrraedd Cymru o wledydd a thiriogaethau tramor yn gorfod hunanynysu am 14 diwrnod a darparu gwybodaeth amdanynt eu hunain fel teithwyr, er mwyn atal y coronafeirws rhag lledaenu ymhellach. Daeth y cyfyngiadau hyn i rym ar 8 Mehefin 2020.

Ar 10 Gorffennaf, diwygiodd Llywodraeth Cymru'r Rheoliadau hyn i gyflwyno eithriadau i’r gofyniad i hunanynysu ar gyfer rhestr o wledydd a thiriogaethau, ac ystod gyfyngedig o bobl mewn sectorau neu gyflogaeth arbenigol a allai fod wedi'u heithrio rhag y gofyniad i hunanynysu neu rhag rhai o ddarpariaethau’r gofynion ynghylch gwybodaeth am deithwyr.

Ers hynny, mae’r Rheoliadau hyn wedi’u hadolygu’n gyson ac mae nifer o newidiadau wedi’u gwneud i’r rhestr o wledydd a thiriogaethau sydd wedi’u heithrio.

Heddiw, adolygais asesiadau diweddaraf y Gyd-ganolfan Bioddiogelwch ac rwyf wedi penderfynu y bydd Estonia a Latfia yn cael eu tynnu oddi ar y rhestr o wledydd a thiriogaethau sydd wedi’u heithrio. Bydd gofyn i bobl sy’n teithio o’r gwledydd hyn hynanynysu ar ôl cyrraedd Cymru. Rwyf hefyd wedi penderfynu y bydd Aruba, Bhutan, Mongolia, Timor-Leste ac Ynysoedd y Môr Tawel Samoa, Kiribati, Micronesia, Tonga, Vanuatu ac Ynysoedd Solomon yn cael eu hychwanegu at y rhestr o wledydd a thiriogaethau sydd wedi’u heithrio. Ni fydd angen i bobl sy’n teithio o’r gwledydd a’r tiriogaethau hynny hunanynysu ar ôl cyrraedd Cymru, felly.

Bydd y cyfyngiadau penodol sydd wedi’u gosod ar hyn o bryd ar bobl sy’n teithio o Ddenmarc ac aelodau o’u haelwydydd yn cael eu codi. Bydd y gwaharddiad ar awyrennau, cychod a llongau sy’n teithio’n uniongyrchol o Ddenmarc rhag cyrraedd yn cael ei godi hefyd. Ni fydd Denmarc, fodd bynnag, yn cael ei chynnwys ar y rhestr o wledydd a thiriogaethau sydd wedi’u heithrio. Felly, bydd gofyn i bobl sy’n teithio o Ddenmarc barhau i hunanynysu ar ôl cyrraedd Cymru. 

Bydd digwyddiadau eraill yn cael eu hychwanegu at y rhestr o ddigwyddiadau chwaraeon yn Atodlen 4 y mae’r rhai sy’n cymryd rhan ynddynt wedi’u heithrio rhag y gofynion hunanynysu at ddibenion cyfyngedig sy’n gysylltiedig â’u cyfranogiad.

Yfory, byddaf yn gosod y rheoliadau angenrheidiol a ddaw i rym am 04:00 ddydd Sadwrn 28 Tachwedd.