Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Bydd yr Aelodau'n ymwybodol bod Llywodraeth y DU wedi gwneud darpariaeth i sicrhau bod teithwyr sy'n cyrraedd y Deyrnas Unedig o wledydd tramor yn gorfod hunanynysu am 14 diwrnod, er mwyn atal y coronafeirws rhag lledaenu ymhellach. Daeth y cyfyngiadau hyn i rym ddydd Llun 8 Mehefin 2020.
Ar 10 Gorffennaf, diwygiodd Llywodraeth Cymru y Rheoliadau i gyflwyno eithriadau i’r gofyniad i ynysu ar gyfer rhestr o wledydd a thiriogaethau, ac ystod gyfyngedig o bobl mewn sectorau neu gyflogaeth arbenigol a allai fod wedi'u heithrio rhag y gofyniad i ynysu neu rhag rhai o ddarpariaethau’r gofynion ynghylch gwybodaeth teithwyr.
Ers hynny, mae’r rheoliadau hyn wedi’u hadolygu’n gyson ac mae nifer o newidiadau wedi’u gwneud i’r rhestr o wledydd a thiriogaethau sydd wedi’u heithrio.
Cefais gyfarfod heddiw gyda Gweinidogion o bob un o bedair llywodraeth genedlaethol y DU i drafod y newidiadau posibl i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol. O ganlyniad i’r cyfarfod hwnnw, rwyf wedi penderfynu ychwangu Cuba a Singapôr at y rhestr o wledydd a thiriogaethau sydd wedi’u heithrio, a thynnu’r Weriniaeth Tsiec, Jamaica a’r Swistir o’r rhestr. Yfory byddaf yn gosod y rheoliadau angenrheidiol a fydd yn dod i rym am 04:00 ddydd Sadwrn, 29 Awst.
Caiff y datganiad hwn ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau. Os bydd yr Aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.