Vaughan Gething AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Bydd yr Aelodau'n ymwybodol bod Llywodraeth Cymru wedi gwneud darpariaeth yn Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020 i sicrhau bod teithwyr sy'n cyrraedd Cymru o wledydd a thiriogaethau tramor yn gorfod hunanynysu am 10 diwrnod, a darparu gwybodaeth amdanynt eu hunain fel teithwyr, er mwyn atal y coronafeirws rhag lledaenu ymhellach. Daeth y cyfyngiadau hyn i rym ar 8 Mehefin 2020.
Mae'r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn cael eu hadolygu'n rheolaidd, ac ar 18 Ionawr cafodd y coridorau teithio eu hatal. Nid yw’r trefniadau presennol ar gyfer teithio o fewn yr Ardal Deithio Gyffredin (y DU, Iwerddon, Ynys Manaw ac Ynysoedd y Sianel) wedi newid, felly caniateir teithio heb ynysu o hyd.
O 15 Chwefror ymlaen, cyflwynodd Llywodraeth y DU gyfundrefn cwarantin wedi’i reoli ar gyfer y rhai sy’n cyrraedd Lloegr o wledydd ar y rhestr goch. Dynodwyd 5 porth mynediad yn Lloegr ar gyfer teithwyr o’r fath y mae’n ofynnol iddynt gwblhau cyfnod cwarantin wedi’i reoli mewn gwesty. Mae nifer cyfyngedig o eithriadau ar gyfer categorïau, megis diplomyddion, personél y lluoedd arfog a chludwyr.
O 15 Chwefror ymlaen, cyflwynodd Llywodraeth Cymru waharddiad ar deithwyr sy’n cyrraedd Cymru os ydynt wedi bod i wlad ar y rhestr goch yn y 10 diwrnod blaenorol. Rhaid iddynt gyrraedd yn un o’r pyrth mynediad dynodedig yn Lloegr (neu’r Alban) ac aros yno o dan drefniant ynysu wedi’i drefnu am 10 diwrnod cyn teithio i Gymru. Golyga hyn na chaiff teithwyr o’r fath ddod i Gymru (heblaw am eithriadau cyfyngedig iawn) a bydd dod i Gymru yn groes i’r ddarpariaeth honno yn drosedd, gyda Hysbysiad Cosb Benodedig o £10,000.
Ar gyfer y rhai sy’n cyrraedd o "wledydd rhestr oren" roedd eithriadau sectoraidd yn berthnasol ar gyfer categorïau penodol o weithwyr lle nad oes rhaid iddynt hunanynysu. O 15 Chwefror ymlaen, cafodd y rhain eu gwneud yn fwy cyfyngol a daethant yn eithriadau sectoraidd sy'n golygu bod angen ynysu am 10 diwrnod ond y gall person adael am gyfnod cyfyngedig at ddibenion gwaith.
Ers hynny, mae sawl anghysondeb wedi’i nodi rhwng y cyfundrefnau rheoleiddio ar gyfer Cymru a Lloegr. Nod y Rheoliadau hyn yw delio â’r gwahaniaethau hynny er mwyn sicrhau bod cysondeb yn parhau. Yn ogystal, mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r rhestr o ddigwyddiadau chwaraeon yn y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol i gynnwys digwyddiadau y disgwylir eu cynnal yn y pedwar mis nesaf.
Daw’r Rheoliadau i rym am 04:00 ddydd Sadwrn 13 Mawrth.