Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Mai 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd yr Aelodau'n ymwybodol bod Llywodraeth Cymru wedi gwneud darpariaeth yn Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020 i sicrhau bod teithwyr sy'n cyrraedd Cymru o wledydd a thiriogaethau tramor yn gorfod hunanynysu am 10 diwrnod a darparu gwybodaeth amdanynt eu hunain fel teithwyr, er mwyn atal y coronafeirws rhag lledaenu ymhellach. Daeth y cyfyngiadau hyn i rym ar 8 Mehefin 2020.

Mae’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn cael eu hadolygu’n gyson, ac ar 18 Ionawr cafodd y coridorau teithio eu hatal. Nid yw’r trefniadau presennol ar gyfer teithio o fewn yr Ardal Deithio Gyffredin (y Deyrnas Unedig, Iwerddon, Ynys Manaw ac Ynysoedd y Sianel) wedi newid felly caniateir teithio o fewn yr ardal hon heb orfod ynysu.

Mae asesiad risg diweddaraf y Gyd-ganolfan Bioddiogelwch (6 Mai) ar gyfer Maldives, Nepal a Thwrci yn dangos bod y risgiau wedi cynyddu ac y dylid eu hychwanegu at y rhestr goch o wledydd. Byddai hynny’n golygu bod hediadau uniongyrchol yn cael eu gwahardd ac na fyddai hawl gan deithwyr i ddod i mewn i Gymru – yn hytrach byddai’n rhaid iddynt ddod drwy borthladd penodedig yn Lloegr neu yn yr Alban ac aros mewn cwarantin wedi’i reoli yno am 10 diwrnod cyn teithio i Gymru.

Bydd y rheoliadau yn dod i rym am 04:00 ddydd Mercher 12 Mai.