Neidio i'r prif gynnwy

Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Mai 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae diwygio addysg yn genhadaeth genedlaethol – drwy weithio gyda’n gilydd fe sicrhawn fod ein pobl ifanc yn cael pob cyfle i gyrraedd eu potensial. Hoffwn, felly, eich diweddaru ynghylch sut y bydd y  Profion Darllen a Rhifedd yn newid yn y dyfodol fel rhan o’r gwaith diwygio hwn.

Ers 2013, mae pob dysgwr ym mlynyddoedd 2–9 wedi sefyll profion Darllen a Rhifedd blynyddol. Mae’r profion, sy’n cyd-fynd â Chwricwlwm Cenedlaethol Cymru a’r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd, yn parhau’n rhan bwysig o’n rhaglen, yn awr ac at y dyfodol, wrth inni symud at y cwricwlwm newydd a’r trefniadau asesu newydd. I gyflawni’n nod o godi safonau, mae’n hanfodol ein bod yn rhoi gwybodaeth ychwanegol i ysgolion i wella’u dealltwriaeth o sut y mae eu dysgwyr yn datblygu o ran eu sgiliau llythrennedd a rhifedd, a pha gamau dilynol y gellir eu cymryd i’w  cefnogi i ddatblygu ymhellach.

Mae Dyfodol Llwyddiannus yn nodi bod lle i brofion mewn ysgolion ac, hefyd, y “dylai dulliau arloesol o asesu, gan gynnwys dulliau rhyngweithiol, gael eu datblygu gan fanteisio ar y posibiliadau cynyddol mewn technoleg ddigidol”.

Yn unol â’r argymhelliad hwn ac yng nghyd-destun y rhaglen diwygio addysg ehangach, o flwyddyn academaidd 2018/19 ymlaen, byddwn yn cyflwyno cenhedlaeth newydd o asesiadau ar-lein arloesol ar gyfer darllen a rhifedd – asesiadau personol.

Bydd yr asesiadau wedi’u personoli hyn yn addasu lefel y cwestiynau i gyd-fynd ag atebion y dysgwr. Hynny yw, bydd yn addasu i roi her briodol ar gyfer pob unigolyn. Golyga hyn y caiff pob dysgwr gwestiynau sy’n cyd-fynd â’i sgiliau darllen a rhifedd, cwestiynau sy’n gosod her briodol ar ei gyfer. Bydd ysgolion yn derbyn gwybodaeth o safon am sgiliau dysgwyr, a honno’n wybodaeth wedi’i theilwra ar gyfer pob dysgwr. Gall yr ysgol yna ddefnyddio’r wybodaeth hon i gynllunio’r camau nesaf o addysgu a dysgu.

Yng Nghymru, nid ydym yn defnyddio canlyniadau’r Profion Cenedlaethol i ddyfarnu ar berfformiad ysgolion. Mae ein profion ni, yn awr ac yn y dyfodol gyda’r genhedlaeth newydd o asesiadau arloesol, at ddefnydd ffurfiannol gan ysgolion. Adnoddau ydynt a fydd yn galluogi athrawon i gefnogi pob dysgwr i ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen arnynt i lwyddo, a hynny yn yr ysgol a thu hwnt.

Ymhlith manteision yr asesiadau newydd hyn mae: adborth ar unwaith, marcio awtomatig, a hyblygrwydd er mwyn i’r asesiadau gael eu defnyddio ar adeg sy’n siwtio’r ysgol. Bydd y broses o drosglwyddo i’r profion newydd yn para 3 blynedd a chanlyniad hyn yn y pen draw fydd model cynaliadwy a safonol ar gyfer asesu.

Mae’r dull hwn wedi’i deilwro i Gymru. Mae’n dangos sut rydyn ni’n buddsoddi yn ein hysgolion i wella safonau ac i sicrhau bod pob disgybl, beth bynnag ei gefndir, yn cael y cyfle i wireddu ei botensial.