Kirsty Williams AC, Y Gweinidog Addysg
Ar 6 Rhagfyr y llynedd, yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus, cyhoeddais ddatganiad ysgrifenedig yn datgan y byddai Llywodraeth Cymru yn cyflwyno trothwy ar gyfer swm net yr incwm a enillir mewn blwyddyn ar gyfer hawlwyr Credyd Cynhwysol sy’n dymuno hawlio prydau ysgol am ddim, a hwnnw’n weithredol o 1 Ebrill 2019. Mae ein dadansoddiad diweddaraf yn awgrymu y bydd tua 3,000 yn fwy o blant yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim erbyn i’r Credyd Cynhwysol gael ei gyflwyno’n llawn yn 2023-24 oherwydd y polisi hwn.
Cyhoeddais hefyd y byddwn yn cyflwyno rhaglen o gyllid amddiffyn wrth bontio, fydd yn golygu na fydd unrhyw blentyn yn colli ei hawl i gael prydau ysgol am ddim wrth i’r Credyd Cynhwysol gael ei gyflwyno, hyd ddiwedd cyfnod addysg y disgybl. Rydym yn amcangyfrif y bydd nifer y plant sy’n cael eu hamddiffyn wrth bontio yn ystod unrhyw flwyddyn benodol o fewn cyfnod cyflwyno’r Credyd Cynhwysol yn y degau o filoedd.
Mae’n parhau’n hynod siomedig fod Llywodraeth y DU wedi methu â thrin pobl Cymru’n deg trwy fethu â darparu adnoddau ychwanegol i liniaru effaith ei hagenda Diwygiadau Lles ar brydau ysgol am ddim. Er gwaethaf hynny, dyrannodd Llywodraeth Cymru £12 miliwn ychwanegol rhwng 2018-19 a 2019-20 i gynorthwyo Awdurdodau Lleol i fodloni’r costau sydd ynghlwm wrth y newidiadau.
Yn fy natganiad, nodais yn glir ein bod yn bwriadu cyhoeddi adroddiad ychwanegol yn nodi’n fanwl ymatebion Llywodraeth Cymru i bwyntiau a godwyd yn ystod y broses ymgynghori. Rwy’n cyhoeddi’r adroddiad hwnnw heddiw.
Mae ein dadansoddiad yn seiliedig ar y modelau a’r data gorau sydd ar gael. Fodd bynnag, mae llawer o ansicrwydd ynghylch yr amcangyfrifon hyn yn wyneb ffactorau fel newid ymddygiad, er enghraifft. Yn ogystal, bydd rhagolygon economaidd a’r data sylfaenol yn cael eu diweddaru’n barhaus, a bydd hynny’n cael effaith ar ein hamcangyfrifon. Felly, trwy gydol cyfnod cyflwyno Credyd Cynhwysol, byddwn yn adolygu’r trothwy trwy fonitro tueddiadau cynnar. Byddwn hefyd yn adolygu’r trothwy enillion a bennwyd yng Ngorchymyn Ciniawau Ysgol a Llaeth am Ddim (Credyd Cynhwysol) (Cymru) 2019 , a hynny o fewn 12 mis i gwblhau cyflwyno Credyd Cynhwysol yn 2023.
Er mwyn cynorthwyo awdurdodau lleol i baratoi a gwneud yr addasiadau angenrheidiol, rydym wedi comisiynu newidiadau technegol i’r system wirio cymhwysedd, fydd yn galluogi awdurdodau lleol i wirio cymhwysedd am brydau ysgol am ddim ar-lein. Yn ogystal, rydym wedi sefydlu rhaglen o gefnogaeth rheoli newid. Ar hyn o bryd, mae awdurdodau lleol yn derbyn y gefnogaeth angenrheidiol i sicrhau bod y pontio i’r system newydd mor esmwyth ag sy’n bosib, a bod hawliadau prydau ysgol am ddim yn cael eu prosesu’n gywir.
Mae’r adroddiad sy’n nodi ymatebion Llywodraeth Cymru i bwyntiau a godwyd yn ystod yr ymgynghoriad ar gael yma.