Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
Heddiw, yn dilyn ein hymgynghoriad ar ddiwygio meini prawf cymhwystra ar gyfer prydau ysgol am ddim yng Nghymru, rydym yn cyhoeddi adroddiad cryno sy'n nodi'r materion allweddol a godwyd gan yr ymatebwyr.
Ymgynghorwyd ynghylch cynnig i gyflwyno trothwy ar gyfer swm net yr incwm a enillir mewn blwyddyn ar gyfer hawlwyr Credyd Cynhwysol sy'n dymuno hawlio prydau ysgol am ddim. Os nad ydym yn cyflwyno trothwy, rydym yn amcangyfrif y bydd tua hanner yr holl ddisgyblion yng Nghymru yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim erbyn y bydd Credyd Cynhwysol wedi'i gyflwyno ym mhobman, o'i gymharu ag 16 y cant ym mis Ionawr 2018. Ni fyddai hyn yn fforddiadwy heb gymryd penderfyniadau anodd i ailflaenoriaethu cyllid, a chanlyniad hynny fyddai torri cyllid creiddiol mewn mannau eraill.
Er nad yw'n annisgwyl, mae'n parhau i fod yn siom fawr iawn fod Llywodraeth y DU wedi methu â thrin pobl Cymru’n anrhydeddus a darparu'r adnoddau ychwanegol i reoli effaith agenda Diwygio Lles Llywodraeth y DU ar brydau ysgol am ddim. O ganlyniad, ar ben y £5 miliwn ychwanegol rydym yn ei ddarparu yn 2018-19, rydym yn dyrannu £7 miliwn ychwanegol o'n cronfeydd yn 2019-20, drwy'r Grant Cynnal Refeniw, i gefnogi awdurdodau lleol i dalu'r costau sydd ynghlwm â'r newidiadau arfaethedig. Mae'r dull gweithredu hwn yn cyferbynnu'n hallt â'r hyn sy’n digwydd yn Lloegr, lle mae Adran Addysg y DU wedi gorfod cael gafael ar yr arian ychwanegol o'i chyllideb ei hun.
Byddwn yn cyflwyno trothwy enillion a fydd yn golygu bod aelwydydd sy'n cael Credyd Cynhwysol sydd ag enillion net blynyddol o £7,400 neu lai yn deillio o gyflogaeth neu hunangyflogaeth, yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim. Nid yw'r swm enillion net yn cynrychioli holl incwm aelwyd gan nad yw'n cynnwys incwm o fudd-daliadau, sy'n cynyddu cyfanswm incwm aelwyd yn sylweddol. Yn ddibynnol ar beth yn union yw ei amgylchiadau, byddai gan deulu nodweddiadol sy'n ennill tua £7,400 y flwyddyn gyfanswm o rhwng £18,000 a £24,000 o incwm i'r aelwyd unwaith y cymerir budd-daliadau i ystyriaeth.
Mae ein dadansoddiad diweddaraf yn awgrymu y bydd mwy o blant yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim gydol cyfnod cyflwyno Credyd Cynhwysol o dan system sy'n defnyddio trothwy o £7,400 o ran yr incwm net a enillir mewn blwyddyn nag a fyddai wedi bod yn gymwys o dan yr hen system etifeddol.
Yn ogystal, ochr yn ochr â'r trothwy, byddwn hefyd yn cyflwyno mesurau gwarchod dros dro a fydd yn diogelu teuluoedd rhag colli eu hawl i gael prydau ysgol am ddim am gyfnod cyfyngedig. Mae'r warchodaeth hon yn golygu y byddai disgyblion sy'n gymwys i gael prydau am ddim pan newidir y meini prawf yn cael eu gwarchod rhag colli'r prydau hynny tra bo Credyd Cynhwysol yn cael ei gyflwyno ledled Cymru, hyd yn oed os yw eu cymhwystra yn newid. Mae hyn hefyd yn gymwys i unrhyw hawlwyr newydd yng Nghymru sy'n ennill yr hawl i gael prydau ysgol am ddim yn ystod cyfnod cyflwyno Credyd Cynhwysol. Yn ogystal, unwaith y bydd Credyd Cynhwysol wedi'i gyflwyno'n gyfan gwbl, bydd unrhyw hawlwyr presennol nad ydynt yn bodloni'r meini prawf cymhwystra bellach yn parhau i gael eu gwarchod hyd ddiwedd cyfnod presennol addysg y disgybl.
Tra bo Credyd Cynhwysol yn cael ei gyflwyno, byddwn yn cadw golwg ar y trothwy drwy fonitro a yw nifer y disgyblion cymwys yn sylweddol wahanol i'r hyn a amcangyfrifwyd gennym, ac er mwyn sicrhau bod y rhai sydd fwyaf anghenus yn elwa.
Ein bwriad yn wreiddiol oedd i'r trothwy hwn fod yn weithredol o 1 Ionawr 2019. Mae'r ymgynghoriad a'r ymgysylltiad diweddar â rhanddeiliaid wedi fy argyhoeddi bod llawer i'w wneud o hyd os yw awdurdodau lleol am gael y gefnogaeth a'r cyfarwyddyd sydd eu hangen arnynt i gyflwyno'r trothwy newydd hwn. Felly rwy'n gohirio'i gyflwyno hyd ddechrau Ebrill 2019. Bydd hyn yn ein galluogi i drefnu rhaglen briodol o gefnogaeth ar gyfer rheoli newid i awdurdodau lleol. Yn ogystal, bydd y system gwirio cymhwystra ar gyfer prydau ysgol am ddim, a ddefnyddir gan awdurdodau lleol yng Nghymru i wirio'r cymhwystra hwnnw, yn cael ei newid i gymryd y trothwy newydd i ystyriaeth.
Pan wnaethom ni lansio'r ymgynghoriad ar 6 Mehefin, dywedais ein bod eisiau ymgysylltu'n agored ac yn eang. Rwyf wedi crybwyll rhai o'r materion allweddol sy'n sail i fy mhenderfyniad, ond rwy'n bwriadu cyhoeddi adroddiad ychwanegol yn nodi'n fanwl ymatebion Llywodraeth Cymru i bwyntiau a godwyd yn ystod y broses ymgynghori. Byddaf yn gwneud datganiad pellach pan fydd yn cael ei gyhoeddi.
Mae'r adroddiad cryno ar gael.