Leighton Andrews, Y Gweinidog Addysg a Sgiliau
Cafodd y datganiad hwn ei baratoi er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau ynghylch y sefyllfa bresennol o ran effaith agenda Diwygio Lles Llywodraeth y DU, ac ymateb Llywodraeth Cymru iddi.
Mae Llywodraeth Cymru yn croesawu nifer o’r dyheadau sydd gan Lywodraeth y DU o ran diwygio lles. Yn benodol, mae’n croesawu’r bwriad i greu system fudd-daliadau symlach, fwy tryloyw, lle bydd gwaith yn talu ffordd a lle bydd modd inni fynd i’r afael â thlodi. Fodd bynnag, mae gennym bryderon difrifol y bydd y cynigion cyfredol i newid y system fudd-daliadau, o’u cymryd gyda’i gilydd, yn debygol o arwain at oblygiadau negyddol sylweddol yma yng Nghymru.
O’u cymryd gyda’i gilydd, mae’n bosibl y bydd effeithiau’r diwygiadau lles yn arwain llawer o’r bobl sy’n fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas i fwy o dlodi, ac yn tanseilio ymdrechion Llywodraeth Cymru i leihau tlodi yng Nghymru.
Gan nad yw’r diwygiadau lles a budd-daliadau sy’n cael eu cynnig gan Lywodraeth y DU yn faterion sydd wedi’u datganoli, rydym yn gadarn ein barn na ddylai Llywodraeth Cymru ysgwyddo’r baich ariannol sy’n gysylltiedig â’r diwygiadau sy’n cael eu hysgogi gan Lywodraeth y DU. O ganlyniad, rydym wedi ymrwymo yn ein Rhaglen Lywodraethu i wneud popeth yn ein gallu i liniaru effeithiau’r diwygiadau yng Nghymru, yn ogystal â sicrhau bod adnoddau cysylltiedig yn cael eu defnyddio i dargedu’r bobl sydd fwyaf agored i niwed.
Mewn ymateb uniongyrchol i’r pryderon a fynegwyd ynghylch effaith y diwygiadau lles ar Gymru, mae’r Prif Weinidog wedi sefydlu Grŵp Gorchwyl a Gorffen y Gweinidogion, sy’n cael ei gadeirio gennyf i. Mae’r grŵp hwn yn cynnwys y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau; y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth; a’r Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol. Mae’r Grŵp wedi cael cyfrifoldeb am asesu a monitro effaith gynyddol yr holl ddiwygiadau lles ar bolisïau a gwasanaethau Llywodraeth Cymru, a chyfrifoldeb hefyd am gydlynu ymateb a fydd yn cynnwys adrannau ar draws Llywodraeth Cymru.
Mae’n ymddangos nad yw Llywodraeth y DU wedi dadansoddi goblygiadau’r diwygiadau, yn benodol felly o ran yr effaith a gânt o’u cymryd gyda’i gilydd, ac mae hyn yn destun cryn bryder inni. Er mwyn ein helpu i fynd i’r afael â hyn, mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu asesiad cynhwysfawr o effeithiau cynyddol y diwygiadau lles ar bobl yng Nghymru, ac mae’r asesiad hwnnw bellach ar y gweill. Mae gwaith cychwynnol ar yr asesiad hwn wedi tynnu ar ddadansoddiad a gyhoeddwyd gan y Sefydliad Astudiaethau Cyllid (IFS) yn dilyn Adolygiad o Wariant Llywodraeth y DU. Mae’r dadansoddiad hwnnw yn dangos y bydd y diwygiadau i drethi a budd-daliadau a fydd yn cael eu rhoi ar waith dros y blynyddoedd nesaf yn cael effaith negyddol yng Nghymru, fel yn y DU. At hynny, gan fod incwm cyfartalog yn is yng Nghymru nag yng ngweddill y DU, a gan fod cyfran uwch o’r boblogaeth sydd o oedran gweithio yng Nghymru yn cael budd-daliadau lles (18.4 y cant o’i gymharu â 14.5 y cant ), disgwylir i’r toriadau i fudd-daliadau gael mwy o effaith yng Nghymru nag ar draws y DU gyfan. A dweud y gwir, mae’r IFS yn amcangyfrif y bydd aelwydydd yng Nghymru, ar gyfartaledd, yn colli 4.1 y cant o’u hincwm o ganlyniad i’r diwygiadau i drethi a budd-daliadau a fydd yn cael eu cyflwyno erbyn 2014-15. Mae’r ganran hon yn cymharu â chyfartaledd o 3.8 y cant ar lefel y DU.
Mae’r IFS hefyd wedi dadansoddi effaith y diwygiadau i drethi a budd-daliadau y bwriedir eu cyflwyno rhwng 2010-11 a 2014-15 yn ôl y gwahanol fathau o aelwydydd (ar lefel y DU). Mae eu dadansoddiad a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn dangos y bydd teuluoedd â phlant yn colli mwy nag aelwydydd â phensiynwyr ac aelwydydd o oedran gweithio heb blant ar draws y dosbarthiad incwm, os caiff Credyd Cynhwysol ei gynnwys ai peidio. Yn ogystal, yr aelwydydd mwyaf tlawd â phlant fydd yn colli’r gyfran fwyaf o’u hincwm yn sgil y newidiadau i drethi a budd-daliadau. Os na chaiff Credyd Cynhwysol ei gynnwys, mae’r IFS yn amcangyfrif y bydd y teuluoedd yn y ddengradd isaf o ran incwm yn colli tua 10 y cant o’u hincwm yn 2014-15, o’i gymharu â’r sefyllfa lle na fyddai unrhyw newidiadau’n cael eu cyflwyno i’r system trethi a budd-daliadau. Hyd yn oed ar ôl cyflwyno’r Credyd Cynhwysol, mae’r grŵp hwn yn parhau i golli incwm sydd uwchlaw’r cyfartaledd (tua chwech y cant). Mae’r IFS wedi nodi hefyd y bydd diwygiadau’r Llywodraeth Glymbleidiol yn cael effaith negyddol ar dlodi plant.
Bydd canlyniadau’r gwaith cychwynnol hwn, a gweddill yr asesiad a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru, yn helpu Grŵp Gorchwyl a Gorffen y Gweinidogion i nodi sut orau mae amddiffyn yr unigolion sydd fwyaf agored i niwed a lliniaru’r goblygiadau negyddol sy’n deillio o ddiwygiadau Llywodraeth y DU.
Yn y cyfamser, mae gwaith yn mynd rhagddo, drwy gyfrwng amryw o fforymau'r Adran Gwaith a Phensiynau, i ddeall yn well yr effeithiau y gallai’r diwygiadau eu cael ar Gymru. Mae’r fforymau yn cynnig llwyfan hefyd ar gyfer mynegi ein barn a’n pryderon wrth Lywodraeth y DU, ac maent yn gyfrwng i helpu i fynd i’r afael â rhai o’r materion sy’n dod i’r amlwg.