Neidio i'r prif gynnwy

Mick Antoniw, Y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Gorffennaf 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ar 15 Gorffennaf, cyhoeddais ddatganiad ysgrifenedig yn cyflwyno fframwaith ac egwyddorion Llywodraeth Cymru ar gyfer diwygio etholiadol. Mae’r fframwaith yn nodi pa mor bwysig ydyw fod democratiaeth yn hygyrch i bawb ac yn berthnasol i bawb.  

Yr etholiadau llywodraeth leol a gynhelir ym mis Mai 2022 yw’r cyfle cyntaf i wneud cynnydd tuag at sicrhau bod etholiadau yng Nghymru mor hygyrch â phosibl a bod pawb sy’n dymuno pleidleisio yn gallu pleidleisio. Mae’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi ysgrifennu i Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru heddiw, i egluro sut yr ydym yn bwriadu symud yn ein blaenau gyda’r cam cyntaf hwn o ddiwygio etholiadol. Cyhoeddir y datganiad hwn yn ystod y toriad er mwyn i’r Aelodau gael eu hysbysu ynghylch y sefyllfa ddiweddaraf ar yr un pryd.

Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu mynd ar drywydd pedwar llinyn gwaith cyn etholiadau mis Mai 2022 er mwyn galluogi mwy o bobl sydd newydd gael yr etholfraint a phobl yr oeddent eisoes yn gallu pleidleisio i gofrestru a phleidleisio os ydynt yn dymuno gwneud hynny.  

Gweithio gyda phrif gynghorau ar amrywiaeth o gynlluniau pleidleisio hyblyg peilot i dreialu’r gwahanol ddulliau o bleidleisio hyblyg (er enghraifft, pleidleisio cynnar a phleidleisio mewn ysgolion) yw’r llinyn gwaith cyntaf.

Gweithio gydag awdurdodau lleol a’r gymuned etholiadol i gynyddu nifer y rheini sy’n cofrestru, yn arbennig drwy weithio gydag ysgolion, yw’r ail linyn gwaith.

Y trydydd llinyn yw adeiladu ar sianeli presennol er mwyn ennyn mwy o ddiddordeb yn y broses ddemocrataidd. Mae hyn yn arbennig o berthnasol o safbwynt pobl ifanc a’u dealltwriaeth hwy o’r effaith a gaiff llywodraeth leol ar eu bywydau. 

Yn olaf, rydym yn bwriadu ystyried dyluniad papurau pleidleisio drwy’r post, er mwyn sicrhau bod popeth yn cael ei wneud i sicrhau y ceir cyn lleied o wallau â phosibl a’u bod yn hawdd i’w deall.

Datblygu’r blaenoriaethau hyn ar gyfer etholiadau’r flwyddyn nesaf yw’r nod, ond mae hefyd yn gam cyntaf mewn rhaglen diwygio etholiadol ehangach dros dymor pum mlynedd y Senedd hon. Yn benodol, bydd y cynnydd a wneir a’r gwersi a gaiff eu dysgu yn llywio cynigion ar gyfer deddfwriaeth yn y dyfodol a fydd yn sail ar gyfer etholiad y Senedd yn 2026 a’r etholiadau llywodraeth leol nesaf yn 2027.

Edrychaf ymlaen at gydweithio’n agos â llywodraeth leol a’r gymuned etholiadol ar yr holl faterion hyn.  

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.