Huw Irranca-Davies, Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
Ar hyn o bryd deddfir ar ddiogelwch cronfeydd dŵr yng Nghymru a Lloegr drwy Ddeddf Cronfeydd Dŵr 1975 (‘y Ddeddf’). Nod y Ddeddf yw diogelu pobl rhag dŵr yn cael ei ryddhau heb reolaeth o gyforgronfeydd dŵr mawr. Ym mis Awst 2019 yn dilyn glaw trwm, cwympodd rhan o'r argae yng nghronfa ddŵr Toddbrook yn Swydd Derby, a chafodd dros 1500 o bobl eu symud o dref Whaley Bridge am sawl diwrnod.
Adeg y digwyddiad, roedd cronfa ddŵr Toddbrook yn cydymffurfio'n llawn â'r ddeddfwriaeth bresennol ac wedi cael ei harchwilio'n ddiweddar. Ysgogodd hyn gwestiynau difrifol ynghylch a yw'r gyfundrefn ddiogelwch bresennol ar gyfer cronfeydd dŵr yng Nghymru a Lloegr yn addas i'r diben. Comisiynodd yr Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig yr Athro David Balmforth i gynnal adolygiad annibynnol o ddiogelwch cronfeydd dŵr yn Lloegr. Er mai adolygiad Lloegr yn unig oedd adolygiad Balmforth, nododd adroddiad dilynol yn 2021 wendidau yn y gyfundrefn ddiogelwch bresennol ar gyfer cronfeydd dŵr sy'n berthnasol i Gymru a Lloegr.
Mae Llywodraeth Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru wedi ymrwymo'n llwyr i gryfhau a diwygio ein cyfundrefn ddiogelwch ar gyfer cronfeydd dŵr. Rydym wedi gweithredu newidiadau yng Nghymru sy'n cyd-fynd ag argymhellion a wnaed gan yr Athro Balmforth ac mae gwaith yn parhau i gyflawni diwygiadau pellach.
Rydym eisoes yn gweithio'n agos gyda'n cydweithwyr yn Llywodraeth y DU ac rydym bellach wedi ymuno â'r Rhaglen Ddiwygio Diogelwch Cronfeydd Dŵr. Drwy gydweithio â DEFRA ac Asiantaeth yr Amgylchedd, bydd yn sicrhau cysondeb ar draws rolau a chyfrifoldebau ar gyfer peirianwyr diogelwch cronfeydd dŵr sy'n gweithio ar draws y ddwy wlad. Mae tri phrif faes ar gyfer diwygio:
- Creu dull mwy modern o reoli peryglon.
- Gwella cyflenwad a chapasiti o ran peirianwyr diogelwch cronfeydd dŵr.
- Diweddaru'r dull o reoleiddio a gorfodi.
Bydd pob un o'r meysydd hyn yn cael eu cefnogi gan nifer o ddiwygiadau.
At hynny, rydym yn cydweithio ar hyn o bryd ar ddatblygu system newydd ar gyfer categoreiddio peryglon, ac rydym wedi cefnogi cydweithwyr yn Llywodraeth y DU gyda mewnwelediad, cyngor ac arweiniad ar weithio gyda chyforgronfeydd dŵr bach a sut y gallent gael eu cynrychioli o fewn y system gategoreiddio newydd.
Mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn cydnabod gwerth cyfundrefn ddiogelwch gyffredin ac rwyf wrth fy modd y bydd y cydweithio hwn ar draws y ffin yn parhau. Heddiw, rwy'n falch o gadarnhau y bydd Cymru'n ymuno â Lloegr mewn rhaglen ddiwygio diogelwch cronfeydd dŵr ar y cyd i foderneiddio deddfwriaeth.
Er bod hon yn foment allweddol ar gyfer diogelwch cronfeydd dŵr, bydd yr egwyddorion canolog sy'n llywio ein dull gweithredu yng Nghymru yn parhau – er enghraifft, defnyddio peirianwyr sifil cymwys i gynnal archwiliadau a goruchwyliaeth. Fodd bynnag, bydd yr egwyddorion hyn yn cael eu rhoi ar waith yn fwy ar sail risg a chymesuredd. Ein gweledigaeth yw moderneiddio gwaith rheoleiddio diogelwch cronfeydd dŵr yng Nghymru, lleihau'r risg i'r rhai sy'n byw ac yn gweithio yn y cymunedau i lawr yr afon a'r amgylchedd naturiol, a sicrhau bod cronfeydd dŵr yn gallu gwrthsefyll effeithiau newid hinsawdd yn y dyfodol.
Rwy'n ymwybodol bod gennym boblogaeth gymharol fach o berchnogion cronfeydd dŵr yng Nghymru. Fodd bynnag, fel y dangosodd digwyddiad Toddbrook, mae perchnogion cronfeydd dŵr yn chwarae rhan sylweddol wrth sicrhau diogelwch cymunedau i lawr yr afon ac mae'n hanfodol bod pawb yn ymwybodol o'u cyfrifoldebau priodol. Rwy'n annog yr Aelodau i ymgynghori â gwefan CitizenSpace (Cymru) sy'n cynnwys rhagor o wybodaeth.