Neidio i'r prif gynnwy

Huw Irranca-Davies AS, y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Tachwedd 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddodd y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru ei adroddiad terfynol yn 2024. Derbyniodd Llywodraeth Cymru argymhellion y Comisiwn yn llawn, ac fe'u cymeradwywyd gan y Senedd.

Creu Grŵp Cynghori ar Arloesi Democratiaeth

Argymhellodd yr adroddiad terfynol y dylid creu panel arbenigol i gynghori Llywodraeth Cymru a phartneriaid ar ddefnyddio rhagor o arloesi democrataidd ac ennyn dinasyddion i gymryd mwy o ran mewn bywyd cyhoeddus. Er mwyn datblygu'r gwaith hwn, rwyf wedi penodi Dr Anwen Elias yn gadeirydd Grŵp Cynghori newydd ar Arloesi Democratiaeth. Bydd aelodau ehangach y Grŵp yn cael eu penodi maes o law drwy gystadleuaeth agored. Un o Gomisiynwyr y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru oedd Dr Anwen Elias. Yn y rôl honno, cyfrannodd arbenigedd penodol ym maes ymgysylltu dinasyddion, yn enwedig wrth sefydlu'r paneli dinasyddion a dylunio'r Gronfa Ymgysylltu â'r Gymuned. Drwy ei phrofiad fel Comisiynydd, bydd yn sicrhau y bydd canfyddiadau'r Comisiwn yn parhau i lywio gwaith y Grŵp.

Mae Dr Elias yn Ddarllenydd mewn Gwleidyddiaeth yn Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth. Cafodd ei haddysg yn Ysgol Dyffryn Teifi, Llandysul, gan raddio o Brifysgol Caergrawnt a’r Athrofa Brifysgol Ewropeaidd, Fflorens, lle y cwblhaodd ddoethuriaeth yn y Gwyddorau Cymdeithasol a Gwleidyddol. Mae ei diddordebau ymchwil yn cynnwys gwleidyddiaeth diriogaethol a chyfansoddiadol gymharol, pleidiau gwleidyddol, a chyfranogiad dinasyddion mewn gwleidyddiaeth ddemocrataidd. Mae gan Dr Elias wybodaeth helaeth am arloesi democrataidd ledled y byd ac mae ganddi arbenigedd penodol mewn defnyddio dulliau creadigol i hybu cyfranogiad a thrafodaeth gan ddinasyddion. 

Byddaf yn rhoi diweddariad arall i Aelodau’r Senedd maes o law ar aelodaeth lawn y Grŵp Cynghori newydd a'i raglen waith.