Huw Lewis, Y Gweinidog Addysg a Sgiliau
Ym mis Gorffennaf 2015, cyhoeddais ddatganiad ysgrifenedig a oedd yn nodi amserlen newydd ar gyfer diwygio canllawiau Cynnwys a Chynorthwyo Disgyblion. Fel yr amlinellais yn fy natganiad ysgrifenedig ym mis Gorffennaf ac wrth roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, rwyf wedi ymrwymo i ddarparu'r adnoddau angenrheidiol i weithwyr proffesiynol ym maes addysg ar gyfer datblygu strategaethau addysgol cynhwysol. Er mwyn osgoi rhagor o oedi cyn cyhoeddi'r ddogfen derfynol, byddaf yn cyflwyno drafft ohoni ar 17 Rhagfyr at ddibenion ymgynghori.
Nod y ddogfen ddiwygiedig yw creu sylfaen i ysgolion ac awdurdodau lleol wrth iddynt fynd ati i gynllunio gwasanaeth addysg cynhwysol sydd wedi'i seilio ar fodel darparu cymorth gwahaniaethol i bob dysgwr.
Fel yr amlinellais yn fy ymateb ffurfiol i Ymchwiliad i Bresenoldeb ac Ymddygiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ac i adroddiad Prifysgol Caeredin, ‘Evaluation of education provision for children and young people educated outside the school setting’, mae'r canllawiau diwygiedig hyn yn mynd i'r afael â llawer o'r argymhellion a wnaed i Lywodraeth Cymru.
Bydd yr ymgynghoriad yn para tan 11 Chwefror 2016. Mae'r cyfnod ymgynghori hwn yn fyrrach na'r arfer gan mai ategu cyfrifoldebau presennol y mae'r ddogfen yn hytrach na chreu unrhyw gyfrifoldebau newydd o ran polisi. Er fy mod yn cyhoeddi'r ddogfen hon i ymgynghori arni yn ystod toriad y Nadolig, rydym wedi ymgysylltu'n helaeth â rhanddeiliaid drwy gydol y broses o ddiwygio'r canllawiau Cynnwys a Chynorthwyo Disgyblion. Bydd fy swyddogion yn parhau i gysylltu'n uniongyrchol â rhanddeiliaid allweddol er mwyn sicrhau bod y ddogfen ddiwygiedig yn bodloni anghenion ysgolion ac awdurdodau lleol.