Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt, y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Chwefror 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mae’n bleser gennyf wneud Datganiad i roi’r diweddaraf i’r Aelodau am drafodaethau rhynglywodraethol 1 ar ddiwygio ariannol.

Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i gyhoeddi ymateb i gynigion Comisiwn Silk ar ddiwygio ariannol yn y Gwanwyn. Cyn i’r cyhoeddiad hwnnw gael ei wneud, mae trafodaethau rhynglywodraethol gyda Llywodraeth Cymru, Trysorlys ei Mawrhydi a Swyddfa Cymru wedi gwneud dechreuad da.

Bydd y trafodaethau’n ystyried holl gynigion Comisiwn Silk ar gyfer datganoli pwerau cyllidol ychwanegol i Gymru. Blaenoriaethau Llywodraeth Cymru yw:

  • datganoli pwerau benthyg i ariannu buddsoddiad cyfalaf a rheoli amrywiadau cyllidebol tymor byr yn sgil unrhyw ddatganoli trethi;
  • pwerau benthyg cynnar, cyn unrhyw ddatganoli trethi, i ariannu prosiectau seilwaith penodol yn unol â’r ymrwymiad yn y datganiad ar y cyd ar ddiwygio cyllid a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2012;
  • datganoli llawn o ystod o drethi llai a allai fod yn ysgogiadau polisi mewn meysydd cyfrifoldeb datganoledig;
  • cytundeb ar amserlen glir a chyfrwng deddfwriaethol ar gyfer rhoi unrhyw ddiwygiadau y cytunir arnynt ar waith.

Cefais gyfarfod adeiladol â’r  Prif Ysgrifennydd i’r Trysorlys ym mis Rhagfyr, ac fe fyddwn yn parhau i gwrdd yn ystod y broses, i drafod hynt y gwaith. Wrth ddatblygu’r gwaith hwn, byddaf yn ceisio cynnal y consensws a geir yn fras ar draws y sbectrwm gwleidyddol yng Nghymru ynglŷn â’r agenda diwygio ariannol.

Mae’r ddwy Lywodraeth yn parhau i ymrwymo i gydweithio’n adeiladol ar bob mater sy’n ymwneud â diwygio ariannol er mwyn sicrhau setliad datganoli gwell i Gymru yn y Deyrnas Unedig gryfach.

Argymhelliad Comisiwn Silk oedd y dylai Llywodraeth Cymru sefydlu swyddogaeth Trysorlys Cymru newydd i reoli’r pwerau trethu a benthyg newydd i Gymru. Bydd cynllun a graddau’r swyddogaeth yn dibynnu ar ba rai o argymhellion Silk a gaiff eu rhoi ar waith, a bydd effaith pob gofyniad ar swyddogaeth y Trysorlys yn dibynnu ar y ffordd ac i ba raddau y cânt eu rhoi ar waith.

Rwyf eisoes wedi sefydlu rhai o elfennau swyddogaeth Trysorlys Cymru sydd ynghlwm wrth y Cynllun Buddsoddi yn Seilwaith Cymru, sef defnyddio cyfalaf yn fwy strategol, gwella prosesau asesu, a datblygu a gweithredu trefniadau ariannol arloesol. Dros y flwyddyn i ddod, caiff y swyddogaethau hyn eu gwella yng ngoleuni profiad ac wrth i ofynion ddatblygu.

Os caiff argymhellion Silk eu rhoi ar waith yn llawn, byddwn yn disgwyl y bydd angen y swyddogaethau canlynol:

  • polisi trethi;
  • gweinyddu trethi, gan gynnwys gwaith cydymffurfio a gorfodi;
  • rhagolygon derbynebau a rheoli arian parod;
  • strategaeth fuddsoddi well.

Rwy’n croesawu ymrwymiad Llywodraeth y DU i ymateb i argymhellion Comisiwn Silk yn y Gwanwyn, a fydd yn egluro pa bwerau cyllidol fydd yn cael eu datganoli ac ar ba ffurf y cânt eu datganoli.

Felly, bydd gwaith pellach ar nodi’r gofynion a datblygu swyddogaeth well ar gyfer Trysorlys Cymru yn digwydd ochr yn ochr â’r trafodaethau gyda Llywodraeth y DU.

Rwy’n ymrwymedig o hyd i roi’r diweddaraf i’r Aelodau yn rheolaidd ar y trafodaethau rhynglywodraethol ar adroddiad Silk 'Grymuso a Chyfrifoldeb: Pwerau Ariannol i Gryfhau Cymru'.