Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg
Rwy’n falch o ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau ynghylch gweithredu Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (y Ddeddf ADY). Rydym bellach wedi cyflwyno trefniadau deddfwriaethol ar gyfer yr ail flwyddyn a’r drydedd flwyddyn o weithredu. Mae hon yn garreg filltir arwyddocaol a therfynol ar gyfer cychwyn y Ddeddf ADY.
Mae'n hollbwysig sicrhau bod pawb sydd â diddordeb yn y diwygiadau i’r system ADY a phawb y mae’r diwygiadau hynny’n effeithio arnynt yn cael gwybod beth sy’n digwydd.
Rydym yn cyhoeddi amrywiaeth o adnoddau i gefnogi dealltwriaeth gyffredin o’r Cod ADY ac o’r trefniadau ar gyfer yr ail flwyddyn a’r drydedd flwyddyn o weithredu. Mae tri chanllaw yn cael eu cyhoeddi heddiw i gefnogi dealltwriaeth o ran sut a phryd y bydd plant na chawsant eu cynnwys yn y trefniadau yn ystod y flwyddyn gyntaf o weithredu yn symud i’r system ADY - canllaw gweithredu technegol, canllaw gweithredu i rieni a chanllaw gweithredu i blant. Rwyf hefyd yn cyhoeddi gwybodaeth am y trefniadau ar gyfer pobl ifanc ag ADY neu anawsterau a/neu anableddau dysgu.
Un o’r egwyddorion allweddol sy’n ategu’r system ADY yw dull yn seiliedig ar hawliau lle mae barn, dymuniadau, a theimladau'r plentyn, rhieni'r plentyn neu berson ifanc wrth wraidd y broses o gynllunio a darparu cymorth. Rydym hefyd yn cyhoeddi canllaw i helpu rhieni i ddeall eu hawliau o dan y system ADY.
I annog mwy o ymgysylltu ac i godi ymwybyddiaeth o’r diwygiadau pwysig hyn, rydym ar hyn o bryd yn cyd-ddatblygu sesiynau ymgysylltu â rhieni gyda phartneriaid trydydd sector, a fydd yn cael eu cynnal yn ystod tymor yr hydref. Bydd y sesiynau yn rhoi dealltwriaeth ddyfnach i rieni o’r system ADY, sut bydd y system o fudd i’w plant a’r hawliau sydd gan rieni a phlant o dan y system ADY. Hefyd, bydd adnoddau cyfatebol, sy’n esbonio’r hawliau o dan y system newydd, yn cael eu cyd-ddatblygu gyda phlant a phobl ifanc yn nhymor yr hydref.
Gyda’r amserlen weithredu yn ei lle, nawr yw’r amser gorau i fyfyrio ar waith a gyflawnwyd hyd yn hyn i helpu partneriaid cyflenwi i baratoi ar gyfer gweithredu’r system ADY. Gallwn hefyd fanteisio ar wersi a ddysgwyd er mwyn sicrhau bod ein rhaglen waith yn y dyfodol yn effeithiol wrth gefnogi dealltwriaeth glir o’r system ADY. Mae hyn yn gofyn am newid systemig hirdymor ac mae llawer o gynnydd wedi’i wneud hyd yn hyn. Cyflawnwyd llawer o’r cynnydd dros y cyfnod trawsnewid pedair blynedd o weithio gydag arweinwyr trawsnewid i baratoi sefydliadau addysg, awdurdodau lleol a cholegau ar gyfer y newidiadau sydd i ddod.
Wrth symud ymlaen, rydym yn cyflwyno rhaglen eang o gymorth i weithio gyda’n partneriaid cyflenwi i sicrhau bod y diwygiadau hyn yn llwyddiannus ac yn arwain at y newidiadau cadarnhaol rydym eisiau eu gweld ar gyfer dysgwyr ag ADY ledled Cymru. Mae hyn yn cynnwys gweithio gydag arweinwyr gweithredu a’r trefniadau rydym yn eu cyflwyno i fonitro effeithiolrwydd y system ADY. Bydd rhan ganolog o’r gwaith hwn yn y dyfodol yn cael ei chyflawni mewn cydweithrediad â’r Grŵp Llywio Cenedlaethol Diwygio ADY a sefydlwyd i ddwyn ynghyd bartneriaid cyflenwi a rhanddeiliaid allweddol i ddarparu cyfeiriad strategol, cyngor a chymorth i lywio’r gwaith gweithredu parhaus.
Rhaid i hyn oll gael ei gefnogi gan ddarpariaeth ariannu briodol. Yn ychwanegol at y £20 miliwn a fuddsoddwyd yn y rhaglen trawsnewid, mae Llywodraeth Cymru wedi dyrannu dros £6 miliwn eleni i gefnogi ysgolion ac awdurdodau lleol gyda’r gwaith parhaus o weithredu diwygiadau. Hefyd, dyrannwyd dros £9 miliwn ar gyfer darpariaeth ADY i sicrhau y gall sefydliadau addysg barhau i ddarparu’r cymorth gofynnol i ddiwallu anghenion dysgwyr. Rydym hefyd wedi ymrwymo £42,000 i bob Awdurdod Lleol yng Nghymru ar gyfer y 3 blynedd nesaf er mwyn helpu i ddarparu Cynlluniau Datblygu Unigol (CDU) ar-lein i sicrhau bod gwybodaeth y disgyblion ag ADY yn cael ei chasglu a’i nodi fel bod disgyblion ag ADY yn cael cymorth addas. Wrth symud ymlaen, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo cyllideb flynyddol o £21 miliwn tan 2025 i helpu i ddiwygio’r system a darparu ADY.
Mae gweithredu’r system ADY yn llwyddiannus yn un o brif flaenoriaethau’r llywodraeth hon. Byddwn yn parhau i weithio’n agos gyda’n rhanddeiliaid a’n partneriaid cyflenwi i adeiladu ar y momentwm presennol a’r cynnydd a gyflawnwyd hyd yn hyn i sicrhau canlyniadau cadarnhaol ar gyfer plant a phobl ifanc ag ADY.