Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Medi 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, daw rôl statudol newydd archwilwyr meddygol a'r diwygiadau i'r broses ardystio marwolaethau i rym.

Cafodd system newydd o archwilwyr meddygol, a fyddai'n gallu craffu ar bob marwolaeth nad ydynt yn cael eu cyfeirio at grwner yng Nghymru a Lloegr, ei chynnig am y tro cyntaf gan Ymchwiliad Shipman yn 2003. Ym mis Chwefror 2013, gwnaeth yr ymchwiliad cyhoeddus i fethiannau yn Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Canolbarth Swydd Stafford nifer o arsylwadau ychwanegol am y broses ardystio marwolaethau. 

Mae gwasanaeth archwilwyr meddygol anstatudol wedi bod ar waith yng Nghymru ers 2019. Ond heddiw, mae'r fframwaith deddfwriaethol ar gyfer y newidiadau yn dod i rym yng Nghymru a Lloegr. Mae hyn yn golygu y bydd pob teulu mewn profedigaeth yn elwa ar y mesurau diogelu ychwanegol sydd bellach yn cael eu cyflwyno'n llawn ar gyfer pob marwolaeth, yn ogystal â'r cyfleoedd dysgu y bydd yr archwilwyr meddygol yn eu rhannu â'r GIG. 

Bydd gwell cywirdeb yr wybodaeth a gofnodir ar y Dystysgrif Feddygol Achos Marwolaeth hefyd yn sicrhau gwell data i gynorthwyo â chynllunio gofal iechyd.   

Mae archwilwyr meddygol yn darparu prosesau craffu ychwanegol ar amgylchiadau meddygol ac achosion marwolaethau ac yn sicrhau bod marwolaethau'n cael eu cyfeirio'n briodol at grwneriaid. Mae'r gwasanaeth archwilwyr meddygol yng Nghymru yn gweithredu'n annibynnol ar sefydliadau eraill y GIG, a gall ddarparu adborth annibynnol a chynnar gwerthfawr i fyrddau iechyd ac ymddiriedolaethau'r GIG ynghylch materion a all fod yn gysylltiedig â gofal cyn marwolaeth. 

Yng Nghymru, mae archwilwyr meddygol yn ffordd arall i'r meddyg sy'n ardystio godi pryderon am ofal, y tu allan i'w sefydliad ei hun. Rhan bwysig o waith craffu archwilwyr meddygol yw cynnal sgyrsiau â pherthnasau a theuluoedd mewn profedigaeth, sy'n rhoi cyfle iddynt fynegi unrhyw bryderon sydd ganddynt ynghylch gofal a thriniaeth eu hanwyliaid.

Mae swyddfeydd archwilwyr meddygol yn parhau i rannu adborth cadarnhaol iawn gan bobl mewn profedigaeth, ac mae ganddynt hwy, swyddfeydd cofrestru a chrwneriaid bellach nifer o flynyddoedd o brofiad o weithio gyda'i gilydd. 

Heddiw, mae'r Farwnes Merron, Is-Ysgrifennydd Seneddol yn yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cyhoeddi datganiad ynghylch y diwygiadau ar ran Llywodraeth y DU.

Caiff y datganiad hwn ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau. Os bydd yr Aelodau yn awyddus imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau am hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn falch o wneud hynny.