Neidio i'r prif gynnwy

Leighton Andrews, Y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Mai 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016


Heddiw rwyf wedi cyflwyno rheoliadau diwygio sy’n cynnwys darpariaeth ar gyfer ad-dalu benthyciadau i fyfyrwyr. Dyma’r ddeddfwriaeth olaf o bwys sy’n cyflawni’r diwygiadau i’r system addysg uwch a chyllid i fyfyrwyr a gyhoeddwyd gennyf ym mis Tachwedd 2010.

Cynlluniwyd y system newydd ar gyfer ad-dalu benthyciadau myfyrwyr i fod yn gynaliadwy, yn fforddiadwy ac yn flaengar. Bydd ad-daliadau yn amodol ar incwm, gan sicrhau eu bod yn cyd-fynd â’r gallu i dalu. Drwy godi’r trothwy ad-dalu i £21,000 a chyflwyno cyfradd llog raddedig, caiff y graddedigion sydd ar y cyflogau isaf eu hamddiffyn yn well o lawer. Ar ôl deng mlynedd ar hugain caiff balansau sydd heb eu casglu eu dileu.  

Bydd y newidiadau i’r system ad-dalu sydd i’w rhoi ar waith yn sgil y rheoliadau diwygio hyn yn gymwys i fyfyrwyr newydd sy’n dechrau ar eu hastudiaethau ym mis Medi 2012 neu wedi hynny. Bydd rhai myfyrwyr sy’n newid cyrsiau neu’n dilyn cyrsiau ar lefel uwch sy’n cychwyn ar ôl mis Medi  2012, a hynny’n syth ar ôl cwblhau cymhwyster addysg uwch blaenorol, yn parhau o dan y trefniadau presennol.

Mae’r prif newidiadau fel a ganlyn:

  • Cyflwynir cyfraddau llog gwirioneddol ac amrywiol ar fenthyciadau i fyfyrwyr ar gyfer myfyrwyr sy’n dechrau eu cyrsiau ar 1 Medi 2012 neu wedi hynny. Codir llog ar gyfradd sy’n cyfateb i’r Mynegai Prisiau Manwerthu + 3% ar fyfyrwyr newydd sy’n dechrau cwrs addysg uwch o fis Medi 2012 ymlaen, tra byddant yn astudio. Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd y gyfradd hon yn gymwys nes bod y benthyciwr naill ai’n gadael ei gwrs neu’n cwblhau ei gwrs. Bryd hynny, bydd y gyfradd llog a godir yn dibynnu ar incwm y benthyciwr. Codir cyfradd sy’n cyfateb i’r Mynegai Prisiau Manwerthu ar fenthycwyr sy’n ennill £21,000 neu lai. Yna caiff llog ei godi ar sail graddfa symudol hyd at £41,000, pan fydd y gyfradd llog yn cyfateb i’r Mynegai Prisiau Manwerthu + 3%.
  • £21,000 fydd y trothwy ad-dalu. Trwy osod y trothwy incwm ar £21,000 ar gyfer benthyciadau newydd (sy’n golygu na fydd angen i fenthycwyr ar incwm is na hyn ad-dalu benthyciadau newydd) ni fydd angen i raddedigion ar gyflog bach wneud unrhyw daliadau a bydd y rheini sy’n ennill dros £21,000 yn cyfrannu llai bob mis nag a fyddai benthycwyr o dan y system bresennol. Bydd y rheini sy’n mynd yn eu blaenau i ennill mwy yn cyfrannu mwy.  Ni fydd rhaid i fenthycwyr ad-dalu unrhyw beth cyn 6 Ebrill 2016 (er y gall benthycwyr ddewis gwneud hynny). Ar ôl 6 Ebrill 2016, bydd y rheini sy’n ennill mwy na’r trothwy incwm ac y mae’n bryd iddynt ad-dalu, yn ad-dalu 9% o’u hincwm uwchlaw £21,000. Bydd yn bryd i fyfyrwyr llawn-amser ad-dalu o’r 6ed o Ebrill ar ôl iddynt gwblhau neu adael eu cwrs.   
  • Dileu benthyciad. Caiff balans benthyciad newydd sydd heb ei gasglu ei ganslo ddeng mlynedd ar hugain ar ôl y Dyddiad Ad-dalu Dyledus. Caiff y benthyciad ei ganslo hefyd os bydd y benthyciwr yn marw neu os yw’n derbyn budd-dal yn gysylltiedig ag anabledd ac nad yw’n gallu gweithio oherwydd yr anabledd, a hynny’n barhaol.
  • Balans credyd - Cyfradd Llog. Mae’r rheoliadau yn cyflwyno darpariaethau newydd ar gyfer cyfraddau llog i fenthycwyr newydd a’r rhai sydd eisoes yn fenthycwyr y mae balans eu benthyciad i fyfyrwyr mewn credyd oherwydd gordaliad. Daw’r newid hwn i rym o 6 Ebrill 2016, a bydd yn golygu na fydd y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr yn rhoi llog ar falansau credyd, ar ôl rhoi 60 diwrnod o rybudd i’r benthyciwr.

Mae Llywodraeth Cymru yn cymryd ei chyfrifoldeb tuag at fyfyrwyr sy’n hanu o Gymru o ddifrif, ble bynnag y byddant yn dewis astudio a byddwn yn parhau i arddel yr egwyddor y dylai’r wladwriaeth noddi addysg uwch a pharhau i gynnig cyfleoedd i bawb.

Rydym ar y blaen yng Nghymru o ran darparu cymorth i fyfyrwyr, er mwyn sicrhau nad yw cyllid yn eu rhwystro rhag derbyn addysg. Rydym wedi sefydlu’r system cyllid i fyfyrwyr fwyaf teg a fu gennym erioed, a bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau na fydd unrhyw fyfyriwr israddedig sy’n byw fel arfer yng Nghymru yn talu ffioedd uwch mewn termau gwirioneddol yn ystod oes y Llywodraeth hon, na phe byddai wedi bod yn fyfyriwr yn 2010/11. Bydd hyn yn wir waeth ble y bydd y myfyriwr yn dewis astudio – boed yng Nghymru neu rywle arall yn y DU.

Bydd pob sefydliad addysg uwch yng Nghymru hefyd yn well ei fyd yn ariannol o dan y drefn ffioedd newydd, nag a fyddai wedi bod o dan yr hen system ariannu. Llwyddwyd i wneud hyn er gwaethaf y ffaith fod Llywodraeth y DU wedi rhoi llai o arian i Gymru yn ei hadolygiad diwethaf o wariant.