Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford AS, Prif Weinidog Cymru

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Mawrth 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn dilyn yr adolygiad diwethaf o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 ar 11 Mawrth nodais fy mwriad i ddarparu ar gyfer nifer o newidiadau pellach i reoliadau’r cyfyngiadau ar yr amod fod y sefyllfa o ran iechyd y cyhoedd yn parhau'n ffafriol. 

Mae nifer yr achosion o’r coronafeirws yn ein cymunedau yn parhau i ostwng yn raddol.  Er y bu mwy o achosion mewn sawl ardal awdurdod lleol, gellir priodoli'r rhain i raddau helaeth i nifer o glystyrau lleol.  Mae nifer y bobl sydd â COVID-19 mewn ysbytai wedi gostwng unwaith eto.  Mae dros 1.5 miliwn o ddosau cyntaf ac ail ddosau o frechlyn bellach wedi'u rhoi.

Gallaf felly gadarnhau'r newidiadau canlynol i'r cyfyngiadau yng Nghymru o ddydd Sadwrn 27 Mawrth. Mae'r rhain yn gyson â'r dull gofalus a graddol o lacio'r cyfyngiadau a nodir yn ein fersiwn diweddaraf o’r Cynllun Rheoli Coronafeirws: Lefelau Rhybudd Diwygiedig yng Nghymru a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf.

Bydd y rheol aros yn lleol yn cael ei disodli gan ardal deithio dros dro ar gyfer Cymru gyfan, a fydd yn parhau i fod ar waith tan 12 Ebrill, yn amodol ar sefyllfa iechyd y cyhoedd. Hyd 12 Ebrill, bydd angen esgus rhesymol ar bobl i deithio i mewn i Gymru neu allan o Gymru.

Gwaherddir teithio rhyngwladol oni bai fod gan berson esgus rhesymol, er enghraifft fod taith yn hanfodol ar gyfer gwaith. Bydd y cyfyngiad hwn yn parhau ar ôl 12 Ebrill.

Bydd llety gwyliau hunangynhwysol yn gallu ailagor i aelodau o'r un cartref neu swigen gymorth.

Bydd nifer cyfyngedig o fannau awyr agored o fewn safleoedd hanesyddol, gerddi a pharciau hefyd yn ailagor. 

Mae nifer y bobl sy'n gallu cyfarfod yn yr awyr agored, gan gynnwys mewn gerddi preifat, yn cael ei gynyddu i chwech o bobl o ddwy aelwyd.  Nid yw plant o dan 11 oed a gofalwyr yn cyfrif tuag at y terfyn hwn. Ni ddylid cymysgu dan do o hyd a dylid dilyn y rheolau ynghylch cadw pellter cymdeithasol.

Caniateir gweithgareddau plant yn yr awyr agored i rai dan 18 oed.  Ni ddylid cynnal gweithgareddau dan do.

Gall llyfrgelloedd ac archifau ailagor hefyd.

Mae dileu’r rheol 'aros yn lleol' yn gam sylweddol tuag at lefel rhybudd tri.  Adlewyrchir hyn yn y rheoliadau. Dros yr wythnosau nesaf byddwn yn parhau i symud yn raddol i rybudd lefel tri fel y disgrifir yng Nghynllun Rheoli Coronafeirws: Lefelau Rhybudd Diwygiedig yng Nghymru

Mae cadw'r cyfyngiadau sy'n weddill, gan gynnwys peidio â chwrdd â'r rhai nad ydych yn byw gyda nhw dan do, yn parhau'n hanfodol wrth i ni barhau i ddiogelu Cymru gyda’n gilydd.