Mark Drakeford AS, Y Prif Weinidog
Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 yn ei gwneud yn ofynnol i’r cyfyngiadau coronafeirws gael eu hadolygu bob tair wythnos. Fel rhan o’r gwaith parhaus ar gyfer yr adolygiad yr wythnos hon, gallaf gadarnhau y bydd y ddau ddiwygiad canlynol yn cael eu gwneud i’r rheoliad.
Mae’r cyd-destun iechyd cyhoeddus yng Nghymru yn parhau’n ffafriol, wrth i nifer yr achosion ostwng ac wrth i’n rhaglen frechu barhau i fynd o nerth i nerth. Gan fod cwrdd yn yr awyr agored yn parhau i olygu llai o risg na chwrdd dan do, byddaf yn cyflwyno newidiadau i ganiatáu unrhyw chwe pherson (heb gynnwys plant dan 11 oed neu ofalwyr) i gwrdd yn yr awyr agored o ddydd Sadwrn 24 Ebrill ymlaen.
Mae’r rheol bresennol yn caniatáu hyd at chwe pherson o ddwy aelwyd ar y mwyaf i gwrdd yn yr awyr agored.
Dylai pobl gadw pellter cymdeithasol rhag pobl o’r tu allan i’w haelwyd neu swigen gefnogaeth wrth gwrdd ag eraill yn yr awyr agored.
Nid yw’r rheolau ar gyfer cwrdd dan do wedi newid.
Gallaf hefyd gadarnhau y caniateir i letygarwch awyr agored ail agor o ddydd Llun 26 Ebrill ymlaen fel sydd wedi’i ddweud yn flaenorol.
Byddaf yn cyhoeddi Datganiad Ysgrifenedig arall yn dilyn yr adolygiadau o’r cyfyngiadau sy’n ddisgwyliedig erbyn 22 Ebrill.