John Griffiths, Y Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon
Yn yr ymgynghoriad a gynhaliwyd y llynedd, sef Dyfodol ein gorffennol, gwahoddwyd sylwadau am gynigion ar gyfer gwella ein systemau o ddiogelu’r amgylchedd hanesyddol yng Nghymru a’i reoli mewn modd mwy cynaliadwy. Roedd yr ymateb i’r ymgynghoriad yn gadarnhaol a daeth 177 o ymatebion ffurfiol i law, sy’n dangos pa mor bwysig yw’r amgylchedd hanesyddol inni yng Nghymru. Mae hefyd yn adlewyrchu’r ffaith mai’r Bil Treftadaeth yr oedd yr ymgynghoriad yn berthnasol iddo yw’r ddeddfwriaeth gyntaf erioed i gael ei llunio ar gyfer treftadaeth Cymru yn benodol.
Roedd rhai o’r ymatebwyr wedi mynegi pryderon ynghylch y diffyg erlyniadau llwyddiannus o dan Ddeddf Henebion a Mannau Archaeolegol 1979. Rhwng 2006 a 2012, rhoddwyd gwybod i Cadw am 119 o achosion o ddifrod anghyfreithlon i henebion rhestredig yng Nghymru. Serch hynny, ni fu ond un erlyniad llwyddiannus o dan y Ddeddf yng Nghymru drwy gydol y 25 mlynedd diwethaf.
Rwy’n derbyn bod y pryderon hyn yn ddilys, ac o ganlyniad fe wnaed rhagor o waith i weld a fyddai’n bosibl diwygio’r Ddeddf ymhellach, er mwyn inni allu diogelu henebion rhestredig yn fwy effeithiol.
Felly, rwy’n falch o allu cyhoeddi y bydd ymgynghoriad byr yn cael ei gynnal ar gynnig newydd ar gyfer diwygio’r troseddau a’r amddiffyniadau a nodir yn y Ddeddf. Ar hyn o bryd mae’r rheini sy’n difrodi heneb restredig, neu sy’n gwneud gwaith sy’n effeithio arni heb iddynt gael eu hawdurdodi i wneud y gwaith hwnnw, neu sy’n defnyddio synhwyrydd metel ar safle a ddiogelir, yn aml yn dadlau nad oeddent yn gwybod bod yr heneb wedi ei rhestru. Yn gyffredinol, nod y cynnig hwn yw diwygio’r troseddau a’r amddiffyniadau a nodir yn y Ddeddf mewn modd sy’n rhoi mwy o gyfrifoldeb ar bobl i gymryd camau rhesymol i gael gwybod a fyddai eu gweithredoedd yn effeithio ar unrhyw heneb restredig.
Bydd y ddogfen ymgynghori ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru o ddydd Llun 3 Mawrth 2013, a bydd yr ymgynghoriad ar agor am gyfnod o 6 wythnos, sef hyd at 14 Ebrill 2013. Cyhoeddir crynodeb o’r ymatebion yn fuan wedyn.