Neidio i'r prif gynnwy

Carl Sargeant, Gweinidog Tai ac Adfywio

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Medi 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Diwygiadau i'r Rheoliadau Adeiladu.

Ym mis Gorffennaf cyhoeddais nifer o bolisïau'r Llywodraeth mewn perthynas â thai yng Nghymru, gan gynnwys fy mwriad i'w gwneud yn ofynnol i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr mewn tai newydd o 8% (yn erbyn safonau 2010).  Un elfen yw hon o'm hadolygiad o Ran L o'r Rheoliadau Adeiladu.  Heddiw, rwy'n falch o gyhoeddi fy amcanion llawn ar gyfer arbed ynni ym mhob adeilad yng Nghymru.

Tai sydd eisoes yn bodoli

Adeiladau sydd eisoes yn bodoli yw mwyafrif y tai yng Nghymru, ac mae mynd i'r afael ag allyriadau'r adeiladau hyn yn mynd i effeithio'n fawr iawn ar ein gallu i leihau ein hallyriadau carbon.  Fel rhan o'r adolygiad Rheoliadau Adeiladu, rwy'n mynd i gyflwyno nifer o newidiadau isel o ran cost i adeiladau sydd eisoes yn bodoli wrth eu hadnewyddu neu adeiladu estyniad. Bydd hyn yn helpu perchnogion i gadw costau gwresogi eu hadeiladau dan reolaeth wrth wella cartrefi yng Nghymru.  

Bydd Rhan L yn ei gwneud yn ofynnol i bob perchennog cartref sy'n adeiladu estyniad neu'n gwneud gwaith adnewyddu, fel addasu llofft neu'r garej, fodloni safonau deunyddiau gwell ar gyfer waliau, toeon a lloriau, tra bod y safon ar gyfer ffenestri yn aros fel y mae.  Hefyd byddwn yn gofyn am welliannau arbed ynni 'canlyniadol' i'r adeilad gwreiddiol.

Byddai'r gwelliannau hyn wedi'u seilio ar dair elfen gost effeithiol lle bo'n briodol:

  • Isafswm safon inswleiddio atig; 
  • Inswleiddio wal geudod;
  • Isafswm safon inswleiddio tanc dŵr poeth.  


Hefyd rwy'n cynnig cyflwyno gofynion ychwanegol, sy'n dweud na ddylid gwresogi nac oeri ystafelloedd haul os ydynt i gael eu hesemptio o'r Rheoliadau Adeiladu. Os bydd ystafell haul yn cael ei gwresogi neu oeri, bydd angen cydymffurfio â’r gofynion perthnasol o ran deunyddiau a gwasanaethau adeiladu.

Adeiladau Annomestig

Mae'r amgylchedd adeiledig yn golygu mwy na thai yn unig, ac mae adeiladau annomestig yn gwneud cyfraniad mawr at yr allyriadau carbon.  Mae'r llefydd yr ydym yn gweithio ac yn ymweld â nhw; swyddfeydd, ffatrïoedd, stordai, ysgolion, ysbytai a siopau er enghraifft, oll yn cyfrannu at allyriadau carbon Cymru ac yn gyfrifol am tua 21% o holl allyriadau nwyon tŷ gwydr Cymru. Mae'n amlwg bod gwella perfformiad adeiladau annomestig yn rhan bwysig o'r gwaith o arbed ynni a chyrraedd targedau yn ymwneud â newid yn yr hinsawdd yng Nghymru.

Ar gyfer adeiladau annomestig newydd, gan gynnwys ysgolion ac adeiladau iechyd, rwy'n cynnig 20% o ostyngiad mewn allyriadau nwyon tŷ gwydr o ofynion Rhan L 2010.  Bydd hyn yn digwydd drwy gymysgedd o well deunyddiau a safonau gwasanaethau adeiladu, ac mae'n debygol y bydd angen technolegau ynni adnewyddadwy fel paneli solar mewn nifer o sefyllfaoedd.  

Rwy'n cydnabod bod 'annomestig' yn cwmpasu nifer o wahanol fathau o adeiladau, â phatrwm cymhleth ac amrywiol o ran defnydd o ynni. Hefyd rwy'n cydnabod bod tipyn o amrywiaeth yng ngallu gwahanol fathau o adeiladau i ostwng y defnydd ynni sydd dan eu rheolaeth. Felly rwy'n bwriadu parhau gyda'r arddull gyffredinol bresennol, sy'n gosod targedau mewn perthynas â'r defnydd o ynni mewn gwahanol fathau o adeiladau.

Seiliwyd y newidiadau arfaethedig hyn ar ymgynghoriad cynharach, ac fe gafwyd cefnogaeth y diwydiant. Bydd hyn yn golygu sicrwydd yn y tymor hir mewn perthynas â safonau deunyddiau ar gyfer adeiladau annomestig, a bydd hefyd yn helpu i gefnogi'r defnydd o dechnolegau amgen.

Fel adeiladau domestig, bydd gofyn i estyniadau annomestig fodloni gwell safonau ar gyfer waliau a thoeon, tra bydd safonau ffenestri a drysau yn parhau i fod ar yr un lefel. Bydd y gofynion ychwanegol na ddylai ystafelloedd haul gael eu gwresogi na'u hoeri hefyd yn berthnasol i adeiladau annomestig. Rwyf hefyd yn newid y Rheoliadau Adeiladu i'w gwneud yn ofynnol i bob estyniad annomestig, beth bynnag eu maint, wario o leiaf 10% o gost y prif waith, lle bo'n ymarferol, ar welliannau canlyniadol i'r rhan o'r adeilad sydd eisoes yn bodoli.  

Syniadau ar gyfer y dyfodol

Hefyd rwyf wedi ymrwymo i adolygiad pellach o Ran L o'r Rheoliadau Adeiladu yn 2016, er mwyn gosod y gofynion angenrheidiol i gydymffurfio â'r Gyfarwyddeb Ewropeaidd i bob adeilad newydd fod bron yn niwtral o ran defnydd ynni erbyn 2019 a 2021.