Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford AS, Prif Weinidog Cymru

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Rhagfyr 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 wedi’u diwygio i sicrhau bod gwerthu alcohol ar ôl 10pm yn parhau i fod yn drosedd mewn cyfyngiadau Lefel Rhybudd 4. 

Mae'r diwygiad hefyd yn galluogi awdurdodau lleol i ddynodi swyddogion gorfodi i orfodi'r gofyniad hwn ac i roi hysbysiadau cydymffurfio mewn perthynas â diffyg cydymffurfio.