Neidio i'r prif gynnwy

Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Hydref 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn dilyn penderfyniad y Cabinet ddiwedd mis Mehefin, dywedais wrth yr aelodau mai ein bwriad oedd cyhoeddi crynodeb o’r diwydrwydd dyladwy a wnaed ar brosiect Cylchffordd Cymru.  Rwy’n falch o gael dweud wrth yr aelodau ein bod wedi gwneud hyn. Mae copïau o’r crynodeb bellach ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru a byddaf hefyd yn rhoi copïau yn Llyfrgell y Cynulliad. 

Mae fy swyddogion wedi cwblhau’r proses o ymgynghori ag awduron yr adroddiadau diwydrwydd  dyladwy ac â Heads of the Valleys Development Company Ltd.  Fel y dywedais wrth yr Aelodau ym mis Mehefin, mae gwybodaeth benodol heb ei chyhoeddi gan ei bod naill ai’n destun braint gyfreithiol, yn parhau i fod yn sensitif yn fasnachol neu’n  wybodaeth bersonol o dan Ddeddf Diogelu Data.    

Mae’r adroddiadau ariannol ac adeiladu a gyhoeddwyd yn tynnu sylw at y risgiau a amlygwyd gan ein cynghorwyr, gan gynnwys y risg i arian cyhoeddus a fyddai wedi’i greu drwy gynnig y warant y gofynnwyd amdani. Mae’r adolygiad o’r dystiolaeth o’r effaith ar yr economi yn ystyried y manteision i Gymru a honnwyd gan y datblygwr.  

Rydym bellach yn symud ymlaen gyda’n cynlluniau ar gyfer parc technoleg gwerth £100 miliwn a fydd yn sbarduno twf yn yr economi ar draws Blaenau’r Cymoedd. Mae’r cynlluniau hyn yn mynd rhagddynt yn dda ac er mwyn cychwyn y broses, cymeradwyais yn gynharach yr wythnos hon gyllid ar gyfer adeilad diwydiannol 50,000 troedfedd sgwâr newydd yng Nglynebwy.

http://gov.wales/topics/businessandeconomy/welsh-economy/circuit-of-wales/?lang=cy