Neidio i'r prif gynnwy

Kirsty Williams AC, y Gweinidog Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Gorffennaf 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'n bleser gennyf roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am fy nghynlluniau ar gyfer y Diwrnodau HMS Ychwanegol: Dysgu Proffesiynol Cenedlaethol 2019-22, a hynny yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus a gynhaliwyd rhwng 5 Mawrth a 1 Mai. Daeth nifer fawr o ymatebion i law, ac fe hoffwn ddiolch i'r rheini a roddodd amser i roi ei barn ar hyn.

Wedi i mi edrych yn drylwyr ar yr holl ymatebion i'r ymgynghoriad, rwy'n cynnig gwneud gwelliannau i'r rheoliadau i ganiatáu un diwrnod HMS ychwanegol i ysgolion bob blwyddyn am y tair blynedd academaidd nesaf, tan 2022. Bydd y diwrnodau ychwanegol hyn yn cael eu cynnal yn flynyddol, yn ystod tymor yr haf, yn benodol at ddibenion Dysgu Proffesiynol, er mwyn cefnogi'r gwaith o gyflwyno'r cwricwlwm newydd. Rwy'n credu y bydd yr amser ychwanegol hwn yn hanfodol er mwyn sicrhau bod yr holl ymarferwyr yn barod ac yn deall y cwricwlwm newydd.

Byddaf hefyd yn argymell i ysgolion bod o leiaf un diwrnod HMS o'r pum diwrnod sy'n bodoli eisoes yn cael ei ddefnyddio, bob blwyddyn academaidd i baratoi ar gyfer y cwricwlwm newydd, a bod y diwrnod hwnnw yn digwydd ar adeg sy'n gyfleus i'r ysgol.  Mae'r dull hwn o weithredu yn adlewyrchu'r adborth a oedd yn galw am fwy nag un diwrnod ychwanegol o HMS y flwyddyn. Er hynny, wrth benderfynu ar hyn, rwyf wedi cadw mewn cof bod rhaid cadw cydbwysedd rhwng anghenion ymarferwyr a'r effaith ar rieni.

O gofio'r gost, mae'n hanfodol bod diwrnodau HMS, sy'n rhoi cyfleoedd gwerthfawr i drafod fel ysgol gyfan, yn cael eu defnyddio'n effeithiol ac mewn ffordd sy'n cefnogi pob ysgol ar ei thaith yn diwygio'r cwricwlwm. I'r perwyl hwn, bydd fframwaith o adnoddau dwyieithog digidol yn cael ei ddatblygu' i gefnogi ymarferwyr i fod yn barod am y cwricwlwm newydd.

Byddwch yn glir na ddylai'r diwrnod HMS ychwanegol hwn gael ei weld fel cynnig sy'n sefyll ar ei draed ei hun nac yn awgrym bod un diwrnod ychwanegol y flwyddyn yn ddigon o amser yn ei hun i fynd i'r afael â'r holl anghenion Dysgu Proffesiynol sydd ynghlwm â gwireddu'r cwricwlwm newydd. Yn hytrach, dylid gweld y cynnig yng nghyd-destun y Dull Cenedlaethol o Ddysgu Proffesiynol, ochr yn ochr â'r cyllid ychwanegol sydd bellach ar gael er mwyn creu mwy o amser mewn ysgolion i ymdrin â Dysgu Proffesiynol.

Yn olaf, yn unol â'm datganiad ar reoli llwyth gwaith a lleihau biwrocratiaeth ar 12 Mehefin, mae'r penderfyniad hwn yn cynrychioli ffordd arall o gefnogi athrawon, trwy roi amser iddynt i wneud yr hyn y maent yn ei wneud orau, sef cynllunio ac addysgu'r gwersi gorau posibl ar gyfer eu disgyblion.

Mae'r adroddiad llawn sy’n ymateb i'r ymgynghoriad i'w weld ar wefan Llywodraeth Cymru

https://llyw.cymru/diwrnodau-hms-ychwanegol-dysgu-proffesiynol-cenedlaethol-2019-2022