Neidio i'r prif gynnwy

Leighton Andrews, Y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Mai 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016


Mae’n ofynnol i ysgolion ddarparu 5 niwrnod o Hyfforddiant Mewn Swydd (HMS) statudol ar gyfer athrawon ym mhob blwyddyn ysgol. Caiff yr ysgolion eu cau i ddisgyblion ar y diwrnodau hyn er mwyn i athrawon gymryd rhan mewn gweithgareddau hyfforddi yn rhan o’u datblygiad proffesiynol parhaus.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf caniatawyd i ysgolion gynnal diwrnodau HMS ychwanegol. Caiff y diwrnodau ychwanegol hyn eu caniatáu yn unol â disgresiwn y Gweinidog er mwyn galluogi ysgolion i ganolbwyntio ar flaenoriaethau arbennig. Ar gyfer blwyddyn ysgol 2011/12 cytunwyd i hyn ar yr amod bod ysgolion yn trefnu’r diwrnodau ychwanegol yn ystod tymor yr haf. Hefyd, caiff y defnydd a wneir o’r diwrnodau hyn ei gwtogi ar sail pro-rata yn unol ag unrhyw gyfnodau addysgu a gâi eu colli yn yr ysgol oherwydd tywydd garw yn ystod y ddau dymor blaenorol.

Nid wyf yn bwriadu cymeradwyo diwrnodau HMS ychwanegol ar gyfer blwyddyn ysgol 2012/13.

Dylai’r 5 diwrnod HMS y darparwyd ar eu cyfer gan Gyflogau ac Amodau Athrawon Ysgol fod yn ddigon i ysgolion ymgymryd â’r hyfforddiant, y gwaith cynllunio a datblygiad proffesiynol sy’n ofynnol i gefnogi camau i wella ysgolion a chodi safonau.

Fy mlaenoriaethau yw llythrennedd, rhifedd a lleihau effaith tlodi ar gyrhaeddiad addysgol. Credaf mai dyma yw blaenoriaethau ysgolion hefyd. Disgwyliaf i bob ysgol neilltuo o leiaf un o’r 5 niwrnod HMS statudol er mwyn canolbwyntio ar lythrennedd a rhifedd. Yn ystod y diwrnodau HMS sy’n weddill, dylid ystyried sut y gall gweithgareddau datblygu proffesiynol adlewyrchu’r angen am gyflwyno sgiliau llythrennedd a rhifedd ym mhob agwedd ar y ddarpariaeth addysg.

Gwn fod hyn oll eisoes ar waith mewn nifer o ysgolion ac rwy’n awyddus i weld ysgolion yn rhannu dulliau effeithiol o gynnal gweithgareddau i hybu datblygiad proffesiynol a fydd yn canolbwyntio ar lythrennedd a rhifedd. Byddaf yn ystyried y ffordd orau o fynd ati i gasglu enghreifftiau o arferion gorau yn hyn o beth er mwyn eu rhannu yn ehangach rhwng ysgolion ym mhob cwr o Gymru.