Dawn Bowden AS, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth
Mae’r Cenhedloedd Unedig wedi dynodi dydd Mercher yn Ddiwrnod Twristiaeth y Byd, a thema eleni yw “Twristiaeth a buddsoddi gwyrdd”. Mae’r ymgyrch yn rhoi sylw i’r angen am fuddsoddiadau sydd wedi’u targedu’n well – a mwy ohonynt – sy’n cyfrannu at y Nodau Datblygu Cynaliadwy a map trywydd y Cenhedloedd Unedig ar gyfer cael byd gwell erbyn 2030.
Mae strategaeth dwristiaeth Llywodraeth Cymru, Croeso i Gymru: blaenoriaethau i'r economi ymwelwyr 2020 i 2025, yn cyd-fynd yn dda â thema eleni. Mae’n nodi ein huchelgais i ddatblygu twristiaeth er lles Cymru, gan ddwyn buddion i bobl a lleoedd, gan gynnwys cynaliadwyedd amgylcheddol, cyfoethogi cymdeithasol a diwylliannol, a manteision iechyd.
Mae’r cynllun yn ymgorffori gweledigaeth Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, sy’n Ddeddf unigryw, ym mhopeth a wnawn. Ni all twristiaeth fodoli ar ei phen ei hun; mae’n rhyngweithio â meysydd polisi ehangach, megis trafnidiaeth, yr amgylchedd, treftadaeth a thai. Rydym am i’n diwydiant twristiaeth gyd-fynd â’n huchelgais i sicrhau bod cymunedau’n gynaliadwy, yn gytbwys ac yn ffynnu, gan gadw’r cydbwysedd cywir rhwng twf economaidd a’n llesiant ehangach fel gwlad.
Mae ein strategaeth yn canolbwyntio ar dair elfen, sef natur dymhorol, gwariant a gwasgariad. Rydym am hybu twf twristiaeth yn ystod cyfnodau tawel, denu ymwelwyr i aros am gyfnodau hwy a’u hannog i wario mwy, a hynny wrth fynd ati hefyd i hyrwyddo rhai o’r mannau twristiaeth yng Nghymru sy’n denu llai o ymwelwyr. Mae elfen arall – cynaliadwyedd – yn rhan o bopeth yr ydym yn ei wneud; mae ein gweithgareddau’n canolbwyntio ar hybu twristiaeth mewn ffordd gadarnhaol ac ar ddatblygu cynaliadwyedd ein cyrchfannau a’n cynhyrchion.
Y llynedd, gwnaethom gynnal cynllun peilot ar gyfer ymgyrch newydd, sef Twristiaeth Gynaliadwy Cymru, gyda’r nod o helpu busnesau twristiaeth yng Nghymru i wireddu eu huchelgeisiau gwyrdd. Canolbwyntiodd ar bum maes i helpu busnesau i wella’u cynaliadwyedd a helpu gyda’r daith tuag at gyrraedd sefyllfa sero net – dŵr, gwastraff, cadwyni cyflenwi, ynni a theithio. Bu busnesau yng Nghymru a oedd wedi gwneud gwelliannau i’w hôl troed carbon eu hunain yn rhannu eu profiadau a’u harferion gorau gyda’r rhai a oedd ar ddechrau eu taith gynaliadwyedd.
Mae cynaliadwyedd hefyd wrth wraidd ein cronfa cyfalaf, Y Pethau Pwysig. Mae’r cynllun ar gyfer 2023-25, sy’n werth £5 miliwn, yn sicrhau gwelliannau i seilwaith ar raddfa fach mewn lleoliadau twristiaeth sy’n strategol bwysig ledled Cymru. Roedd y cynllun ar gyfer eleni ar agor i’r awdurdodau lleol a’r awdurdodau parciau cenedlaethol, a chafodd 29 o brosiectau eu hariannu ar draws Cymru. Mae’r gronfa yn cefnogi seilwaith mewn mannau twristiaeth poblogaidd sy’n denu llawer iawn o ymwelwyr, gan helpu i wneud cyrchfannau yn fwy cynaliadwy yn amgylcheddol. Er enghraifft, o ganlyniad i gyllid o gronfa Y Pethau Pwysig, cefnogwyd y gwaith o osod mannau gwefru trydanol ar gyfer ceir, cychod a beiciau ledled Cymru.
Mae cynaliadwyedd yn ganolog i raglen Addo – yr Addewid i Gymru. Mae Addo bellach yn fenter hirdymor a gafodd ei datblygu i ddechrau yn ystod haf 2020 mewn ymateb i lacio cyfyngiadau symud yn ystod y pandemig. Mae’n annog pobl i wneud addewid i ofalu am Gymru. Mae iddi ddau linyn: gofyn i bobl ofalu am ein cymunedau a gofalu am ein tir bendigedig. Mae Addo yn canolbwyntio ar fanteision bod yn ymwelydd da, o ofyn pobl i ymddwyn yn gyfrifol wrth fwynhau cefn gwlad i annog ymwelwyr i gefnogi busnesau manwerthu a lletygarwch lleol yn ystod eu gwyliau.
Mae Croeso Cymru hefyd wedi bod yn gweithio gyda Trafnidiaeth Cymru i hybu twristiaeth lesol gan ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Mae ymgyrch farchnata ar y cyd yn hyrwyddo neges twristiaeth gynaliadwy drwy annog pobl i ddefnyddio trenau i fynd ar ymweliadau dydd, cymryd gwyliau byr a theithio am wyliau hwy.
Wrth inni ddathlu Diwrnod Twristiaeth y Byd, gallwn fyfyrio ar y data diweddaraf ar gyfer y diwydiant sy’n dangos, yn 2022, y bu gwariant cysylltiedig o £4.6 biliwn ar yr holl deithiau i mewn i Gymru, teithiau domestig, a theithiau dydd yng Nghymru. Rhwng mis Ebrill a mis Rhagfyr 2021 a mis Ebrill a mis Rhagfyr 2022, bu cynnydd o 13% yn nifer y teithiau dros nos domestig a gymerwyd yng Nghymru, a chynnydd o 35% yn yr arian o wariwyd.
Rwy’n falch iawn bod ein hymgyrchoedd marchnata wedi’u cydnabod ar y llwyfan ryngwladol. Enillodd y brand Cymru Wales y Grand Prix yng Ngwobrau Cyfryngau’r Byd 2023, yn ogystal â’r categori Teithio a Thwristiaeth. Llongyfarchiadau i bawb a fu’n gweithio mor galed ar yr ymgyrchoedd hyn i hyrwyddo Cymru i’r byd.
I ddathlu Diwrnod Twristiaeth y Byd yng Nghymru, byddaf yn ymweld â Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, Abaty Nedd a Distyllfa Gwaith Copr Abertawe Penderyn yr wythnos hon.
Mae gan Gymru lawer iawn i’w gynnig i ymwelwyr, a byddaf yn parhau i sicrhau ein bod yn gweithio i wireddu’r potensial hwnnw, a hynny mewn ffordd sy’n cadw cydbwysedd cynaliadwy rhwng ein cymunedau, ein tirweddau a’n hymwelwyr.