Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Mawrth 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ar 15 Mawrth nodwyd y Diwrnod Rhyngwladol yn erbyn Islamoffobia a ddynodwyd gan y Cenhedloedd Unedig yn 2022.

Dangosodd Ystadegau Troseddau Casineb Cenedlaethol Cymru a Lloegr ar gyfer 2023/2024 gynnydd o 21% mewn troseddau casineb crefyddol yng Nghymru, o gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Mae hyn yn dangos pam mae angen gwaith i fynd i'r afael â throseddau casineb ar sail ffydd.

Mae Islamoffobia yn niweidiol ac yn hyrwyddo casineb, gelyniaeth ac ofn. Gall ddigwydd trwy ddulliau anhryloyw a threiddiol fel cynnwys ar-lein ac ar y cyfryngau cymdeithasol.

Yma yng Nghymru, rydym yn sefyll mewn undod â'n cymuned Fwslimaidd. Nid oes lle i Islamoffobia mewn cymdeithas, ac rydym yn ailddatgan ein hymrwymiad i herio gwahaniaethu, casineb ac anoddefgarwch yn eu holl ffurfiau.

Ym mis Tachwedd lansiwyd Cynllun Gweithredu Cymru Gwrth-hiliol 2024 sy'n nodi camau allweddol i Lywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus eraill eu cymryd i fynd i'r afael â hiliaeth yng Nghymru. Mae ein Cynllun yn ein hymrwymo i weithredu i fynd i'r afael â phob math o droseddau casineb Islamoffobia. Gan dynnu ar brofiadau cymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol o hiliaeth ac anghydraddoldeb hil, mae'n nodi’r camau rydym yn eu cymryd i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl.

Mae ein hymgyrch gyfathrebu yn erbyn troseddau casineb, Mae Casineb yn Brifo Cymru, yn tynnu sylw at yr effaith negyddol ar y dioddefwr a'i fywyd, yn ogystal â thynnu sylw at y rôl bwysig sydd gan bobl sy'n gweld troseddau casineb o ran sicrhau canlyniad cadarnhaol. Fel un o'r pum llinyn o droseddau casineb a gydnabyddir yng nghyfraith y DU, mae troseddau casineb ar sail ffydd, fel Islamoffobia, yn ganolog i negeseuon yr ymgyrch.

Rwy'n annog aelodau o'r gymuned i roi gwybod am unrhyw droseddau casineb. Gellir rhoi gwybod i'r heddlu am unrhyw droseddau neu Canolfan Cymorth Casineb Cymru, sy'n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a'i redeg gan Cymorth i Ddioddefwyr Cymru. Mae'r Ganolfan yn darparu cymorth a gwasanaeth eirioli cyfrinachol am ddim i bob dioddefwr troseddau casineb, ddydd a nos, 7 diwrnod yr wythnos. Mae’r cymorth yn cael ei ddarparu dros y ffôn, wyneb yn wyneb neu ar-lein. Mae’r Ganolfan hefyd yn cynnig gwasanaeth troseddau casineb cenedlaethol sy’n addas i blant a phobl ifanc.

Nid oes lle i fwlio ar sail rhagfarn mewn unrhyw ran o'n cymdeithas yng Nghymru. Rydym yn pryderu am yr adroddiadau o blant a phobl ifanc ledled Cymru yn profi Islamoffobia a cham-drin hiliol yn eu lleoliadau addysg.

Mae’r Diwrnod Rhyngwladol yn erbyn Islamoffobia yn ein hatgoffa i uno yn erbyn gwahaniaethu, meithrin dealltwriaeth a hyrwyddo parch at Fwslimiaid, gan sicrhau bod Cymru'n wlad lle mae amrywiaeth yn cael ei ddathlu a lle nad oes lle i gasineb. Mae gennym fwy yn gyffredin na'r hyn sy'n ein rhannu.