Jane Hutt AS, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol
Heddiw yw Diwrnod Rhyngwladol y Merched. Mae'n ddiwrnod i ddathlu cyflawniadau menywod a merched ym mhedwar ban byd ac i ganolbwyntio ar yr heriau sy'n ein hwynebu o hyd wrth inni weithio tuag at sicrhau cydraddoldeb rhywiol.
Y thema ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol y Merched eleni yw Cofleidio Tegwch. Rwy'n credu mai drwy ein ffocws ar groestoriadedd, cydraddoldeb canlyniadau a chyfiawnder cymdeithasol y byddwn yn symud tuag at ein gweledigaeth o Gymru lle mae cydraddoldeb rhwng y rhywiau. Ni allwn adael unrhyw fenyw na merch ar ôl. Byddwn yn gweithio gyda a thros fenywod Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol, menywod anabl, menywod LHDTC+, menywod mewn tlodi, menywod hŷn, merched ac eraill ledled Cymru er mwyn sicrhau cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol iddynt.
Bydd y gwaith rydym yn ei wneud ar gyllidebu ar sail rhywedd a thrwy greu ein Hunedau Tystiolaeth Cydraddoldeb, Hil ac Anabledd, yn ysgogi newidiadau pwysig yn y ffordd rydym yn gweithio.
Mae cyllidebu ar sail rhywedd yn adnodd allweddol i sicrhau bod ein prosesau cyllideb a threth yn ystyried yn llawn anghenion pob rhywedd ac yn mynd i'r afael â gwendidau economaidd menywod. Mae ymgorffori'r dull hwn yn golygu mwy nag ystyried newidiadau proses, mae'n gofyn am newid diwylliannol yn y ffordd y mae holl feysydd Llywodraeth Cymru yn ystyried effaith penderfyniadau a pholisïau.
Rydym yn parhau i ddysgu o'n tri chynllun peilot presennol ar gyllidebu ar sail rhywedd (Cyfrifon Dysgu Personol, Y Warant i Bobl Ifanc ac E-Symud), gan gydweithio ym mhob maes i rannu'r dysgu parhaus a llywio'r ffordd y gellir ymgorffori'r gwaith hwn ymhellach ac ehangu arno.
Rydym hefyd wedi parhau i ymgysylltu ag arweinwyr byd yn y maes hwn, gan gynnwys Gwlad yr Iâ a Chanada. Mae'r cydberthnasau hyn yn hanfodol i rannu arferion gorau a dysgu o heriau ein gilydd.
Rydym yn ddiolchgar o fod wedi meithrin cydberthnasau mor gadarnhaol ac adeiladol â sefydliadau yng Nghymru sy'n arwain y maes gwaith hwn, gan gynnwys Grŵp Cyllidebu Menywod Cymru. Maent yn ymgysylltu â ni drwy gydol y flwyddyn, gan ein herio a'n cynorthwyo drwy'r amser o ran sut rydym yn ymgorffori cyllidebu ar sail rhyw yn ein prosesau cyllideb a threth, gan sicrhau ein bod yn gweithio ym mhob rhan o Lywodraeth Cymru i sicrhau'r newid hirdymor hwn mewn diwylliant.
Sefydlwyd yr Unedau Tystiolaeth Cydraddoldeb, Hil ac Anabledd i wella argaeledd, ansawdd a hygyrchedd tystiolaeth am unigolion â nodweddion gwarchodedig a nodweddion cysylltiedig. Bydd eu gwaith yn ein helpu i ddeall yn llwyr y lefel a'r mathau o anghydraddoldebau ledled Cymru. Bydd yn ein galluogi i ddatblygu polisïau ar sail gwell gwybodaeth ac asesu a mesur eu heffaith.
Fis diwethaf, lansiwyd ‘Cymru sy'n Falch o'r Mislif’ gennyf, sef ein cynllun i sicrhau urddas mislif a dileu tlodi mislif yng Nghymru.
Cafodd urddas mislif ei flaenoriaethu yn ein Rhaglen Lywodraethu a bydd y cynllun hwn yn cyflawni'r flaenoriaeth honno. Ers 2018, rydym wedi buddsoddi tua £12 miliwn yma yng Nghymru i sicrhau bod plant a phobl ifanc, a'r rhai ar incymau isel, yn cael gafael ar gynhyrchion mislif rhad ac am ddim. Mae dileu tlodi mislif yn golygu sicrhau nad yw cael mislif yn golygu colli addysg, bod yn absennol o'r gwaith na thynnu allan o chwaraeon a gweithgareddau cymdeithasol.
Mae'r cynllun hwn yn gosod ein huchelgais i fynd ymhellach drwy osod ein bwriad i sicrhau bod cynhyrchion mislif am ddim ar gael mewn amrywiaeth eang o leoliadau, gan roi addysg i bawb am y mislif a dileu'r stigma sy'n gysylltiedig â'r mislif.
Cafodd y grant Urddas Mislif ei gynyddu o £450,000 yn 2022-23 i gryfhau ymateb yr awdurdodau lleol i effaith yr argyfwng costau byw ar dlodi mislif. Mae cyfanswm ein grant Urddas Mislif blynyddol bellach yn gwneud cyfanswm o dros £3.7 miliwn. Mae cynhyrchion mislif ar gael ym mhob ysgol a choleg yng Nghymru, yn ogystal â bod ar gael ar raddfa eang mewn amrywiaeth o leoliadau cymunedol, sy'n cynnwys banciau bwyd a phantrïau, llyfrgelloedd, canolfannau ieuenctid a hybiau cymunedol. Mae pob lloches i fenywod yng Nghymru hefyd wedi cael cynnig cyllid i sicrhau bod cynhyrchion mislif ar gael i gefnogi'r rhai sy'n ffoi rhag cam-drin domestig.
Edrychaf ymlaen at y newidiadau y bydd Cymru sy'n Falch o'r Mislif yn helpu i'w hysgogi i wneud Cymru yn wlad sy'n wirioneddol falch o'r mislif ac yn un sy'n sicrhau bod modd i bawb sydd angen cynhyrchion gael gafael arnynt heb deimlo cywilydd.
Nid yw Cymru erioed wedi bod yn wlad sydd ond yn edrych ar ôl ei phobl ei hun. Rwy'n falch bod y cynllun yn cynnwys ymrwymiad i ymestyn Cynllun Grantiau Bach Cymru ac Affrica er mwyn mynd ati i annog cynigion y prosiect urddas mislif yn Affrica Islaw'r Sahara. Mae Urddas Mislif yn fater trawswladol ac mae'n bwysig ein bod yn parhau i ddysgu oddi wrth ein gilydd a chefnogi ein gilydd. Yn hynny o beth, rydym wedi gwahodd PadMad Kenya i fod yn aelod o'n Bord Gron Urddas Mislif er mwyn inni allu parhau i ddod o hyd i gyfleoedd i wneud hyn.
Yn ogystal â hynny, byddaf heddiw yn dathlu'r prosiectau anhygoel i rymuso menywod rydym wedi bod yn eu cefnogi yn Uganda a Lesotho. Cynhaliwyd gweithgareddau hynod gyffrous a blaengar trwy'r prosiectau, sy'n cefnogi bywoliaeth menywod, yn mynd i'r afael â thrais ar sail rhywedd, yn hyrwyddo gwaith integreiddio rhywedd ar gyfer cyfiawnder hinsawdd ac yn cefnogi proses bontio ddiogel i gael merched yn ôl i fyd addysg.
Gwyddom fod yna fenywod ym mhedwar ban byd nad ydynt yn cael yr un cyfleoedd â dynion, nad ydynt yn cael yr un mynediad at addysg ac nad ydynt yn cael yr un hawliau sylfaenol. Mae'r prosiectau rydym yn eu cefnogi yn Affrica yn grymuso menywod i newid nid yn unig eu bywydau eu hunain ond hefyd fywydau eu teuluoedd a'r gymuned ehangach.
Gan mai diwrnod i ddathlu cyflawniadau menywod yw hi heddiw, hoffwn dynnu sylw at Frances Hoggan. Ganed Frances yn Aberhonddu yn 1843, a wynebodd heriau wrth ddilyn ei breuddwydion am mai menyw oedd hi. Fodd bynnag, dylai ei phenderfyniad di-ildio i astudio ac ymarfer meddygaeth mewn cyfnod pan nad oedd gan fenywod yr hawl i wneud hynny yn y Deyrnas Unedig fod yn wers inni gyd – sef brwydro am newid a dilyn ein breuddwydion. A hithau ond yn 26 oed, Frances oedd yr ail fenyw yn Ewrop i ennill Doethuriaeth Feddygol. Cefais yr anrhydedd o ddadorchuddio Plac Porffor amdani yng nghanol tref Aberhonddu yr wythnos diwethaf.
Ni wnaeth Frances fyth anghofio'i gwreiddiau ac ymgyrchodd am addysg i ferched yng Nghymru. Rwy'n sicr y byddai wedi cymeradwyo'r gwaith rydym yn ei wneud i annog merched a menywod ifanc i astudio Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg – STEM.
Mae hyn yn cynnwys rhaglenni sy'n helpu merched i gamu ymlaen ym meysydd bioleg, cemeg, ffiseg, peirianneg a chyfrifiadura, a chyfleoedd i ‘roi cynnig’ ar weithgareddau fel weldio rhithwir, rhaglennu robotiaid neu ddefnyddio tractor efelychedig. Mewn byd gwyddoniaeth a thechnoleg sy'n datblygu'n gyflym, rhaid inni sicrhau dealltwriaeth sylfaenol o wyddoniaeth a thechnoleg i bawb. Mae angen inni baratoi pob un o'n dysgwyr, p'un a fyddant yn astudio pynciau STEM ymhellach neu'n dilyn gyrfaoedd cysylltiedig ai peidio, er mwyn iddynt allu ffynnu a goroesi mewn byd sy'n cael ei sbarduno gan wyddoniaeth a thechnoleg.
Mae'r gyrfaoedd amrywiol a gwerth chweil a gynigir trwy STEM yn galluogi menywod a merched i fod yn uchelgeisiol, cyflawni eu huchelgais a gwireddu eu potensial yma yng Nghymru.
Mae annog menywod a merched i ddilyn gyrfaoedd annhraddodiadol yn un o'r ffyrdd o fynd i'r afael â'r bylchau mewn cyflog wrth inni symud tuag at gymdeithas sy'n galluogi pobl i gyflawni eu potensial ni waeth beth yw eu rhywedd, eu cefndir neu eu hamgylchiadau.
Mae gofal plant yn parhau i fod wrth wraidd ein gwaith o ddatblygu cydraddoldeb rhywiol. Mae mynediad at ofal plant fforddiadwy a hyblyg yn rhan bwysig o gefnogi rhieni, yn enwedig mamau, er mwyn goresgyn un o'r prif rwystrau sy'n eu hatal rhag gweithio, neu gamu ymlaen yn eu gyrfaoedd.
Rydym wedi ymestyn y Cynnig Gofal Plant i rieni mewn addysg a hyfforddiant, ac ym mis Medi, gwnaethom ddechrau ehangu ein rhaglen Dechrau'n Deg i bob plentyn dwyflwydd oed yng Nghymru.
Rydym yn parhau i gyflawni ein hymrwymiad i'r Cyflog Byw Gwirioneddol i weithwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru. Er na fydd y codiad ei hun yn mynd i'r afael â'r holl heriau ym maes gofal cymdeithasol, bydd yn cyfrannu at yr uchelgais yn y tymor hwy i godi proffil y sector fel lle proffesiynol i weithio a gwella cyfleoedd i unigolion symud ymlaen yn eu gyrfaoedd.
Ni allwn anwybyddu effeithiau'r argyfwng costau byw ac rwy'n ystyriol iawn nad yw'n effeithio ar bawb yn yr un ffordd. Fel y gwelsom yn ystod y pandemig, y rhai mwyaf agored i niwed fydd yn dioddef waethaf o ganlyniad i'r argyfwng. Bydd llawer o fenywod yn y sefyllfa hon, gartref ac yn y gweithle. A bydd menywod â nodweddion gwarchodedig amryfal, croestoriadol yn dioddef hyd yn oed yn waeth.
Gwyddom fod yr argyfwng yn arwain at fwy o achosion o gam-drin. Mae ein Strategaeth newydd ar Drais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol yn cynnwys ffocws ar drais yn erbyn menywod ar y stryd ac yn y gweithle yn ogystal â'r cartref er mwyn sicrhau mai Cymru yw'r lle mwyaf diogel yn Ewrop i fod yn fenyw.
Rydym yn ariannu cynghorwyr rhanbarthol a gwasanaethau arbenigol i ddarparu cymorth amhrisiadwy sy'n achub bywydau i holl ddioddefwyr trais domestig a cham-drin rhywiol. Mae gwasanaeth cyhoeddus ac arbenigol cadarn ar gael sy'n barod i helpu, ble bynnag y mae dioddefwr yn byw yng Nghymru.
Rydym wedi llwyddo i fuddsoddi mewn nifer o fesurau i helpu i ddarparu cymorth wedi'i dargedu yn y byrdymor i gynnal neu gefnogi incwm ac osgoi sefyllfa lle mae mwy o bobl yn wynebu tlodi yn ystod yr argyfwng costau byw. Mae'r rhain yn cynnwys blaenoriaethu cymorth i'r Gronfa Cymorth Dewisol, y Grant Datblygu Disgyblion a'r ddarpariaeth digartrefedd.
Ymhlith yr enghreifftiau o'r camau gweithredu rydym yn parhau i'w cymryd mae rhoi cymorth costau'r diwrnod ysgol i rieni, cyllid ychwanegol i fynd i'r afael â thlodi bwyd ac rydym wedi cynyddu'r niferoedd sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn sylweddol.
Bydd yr heriau rydym yn parhau i'w hwynebu o ganlyniad i'r pandemig a'r argyfwng costau byw, a'n hymatebion iddynt, yn gofyn am ymyriadau newydd, yn ogystal ag adeiladu ar yr hyn rydym eisoes yn ei wneud. Mae angen inni sicrhau y caiff cymunedau amrywiol eu cynrychioli mewn rolau gwneud penderfyniadau a bod profiad bywyd yn bendant wrth wraidd y broses llunio polisïau. Rhaid inni gynrychioli'r cymunedau a wasanaethwn ar bob lefel. Rhaid i'r rhai sy'n ymgynnig i fod yn gynrychiolwyr gael profiad cadarnhaol a chyfle gwirioneddol i lywio ein gwasanaethau a'n cymunedau.
Mae rhaglen fentora Pŵer Cyfartal Llais Cyfartal a'r gynghrair o bartneriaid sy'n ei rhedeg, yn rhoi enghraifft wych o sut gall hyn weithio ar lefel ymarferol. Mae'n rhoi cyfleoedd i gymunedau amrywiol ledled Cymru archwilio rolau arwain mewn bywyd cyhoeddus. Mae croestoriadedd yn greiddiol i'r cynllun ac mae'n cynnig glasbrint o'r ffordd y gall cydweithio arwain at y newidiadau rydym am eu gweld.
Bydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r diwrnod 'We Belong Here’ a gynhelir ym mis Hydref. Nod y diwrnod fydd dwyn menywod amrywiol o bob rhan o Gymru ynghyd yn y Senedd, sef calon democratiaeth yng Nghymru, er mwyn ystyried sut gallent gymryd rhan mewn bywyd cyhoeddus a gwneud gwahaniaeth. Edrychaf ymlaen at weithio gyda'r menywod sy'n dewis cymryd y cam nesaf i fod yn rhan o fywyd cyhoeddus a gwleidyddol.
Mae gan bob un ohonom rôl i'w chwarae wrth ddatblygu cydraddoldeb rhywiol yng Nghymru. Mae'n hanfodol bod yr holl gyfranogwyr: rhanddeiliaid, ymgyrchwyr a gwleidyddion yn barod i weithio mewn partneriaeth, troi'r deial a gwneud cynnydd gwirioneddol, ystyrlon a chyflym i sicrhau'r newid y mae pob un ohonom am ei weld, sef Cymru lle mae cydraddoldeb rhwng y rhywiau.