Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths, y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Mawrth 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Bydd y Datganiad hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau’r Cynulliad am y gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru yn parhau i’w rhoi i Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod, ac am ei hymrwymiad i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb rhwng y rhywiau yng Nghymru.  

Cynhaliwyd Diwrnod Rhyngwladol cyntaf y Menywod ym mis Mawrth 1911, pan ddaeth menywod a dynion ynghyd i drafod yr angen i fenywod gael hawliau sylfaenol – yr hawl i bleidleisio, yr hawl i weithio, yr hawl i ddweud eu dweud yn gyhoeddus, a’r hawl i gyflog cyfartal. Fel dathliad blynyddol, mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn cynnig y cyfle i ystyried y flwyddyn flaenorol, a rhoi sylw i waith sydd wedi'i wneud i wella cydraddoldeb rhwng y rhywiau.

Mae’n Cynllun Cydraddoldeb Strategol yn amlinellu’r hyn yr ydym yn ei wneud i helpu menywod a merched i fanteisio ar addysg, hyfforddiant a chyflogaeth ac i gyflawni ac anelu’n uchel yn y meysydd hynny. Mae’n nodi hefyd yr hyn yr ydym yn ei wneud i fynd i’r afael â stereoteipio a sail rhyw ac i alluogi menywod i ddilyn gyrfaoedd o’u dewis. Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae Llywodraeth Cymru wedi parhau i wneud cynnydd da wrth weithredu'r camau hyn i hybu cydraddoldeb rhwng y rhywiau.

Rydym wedi parhau i hoelio'n sylw ar gynyddu'r nifer o fenywod sydd mewn swyddi cyhoeddus, a chafodd adroddiad cryno ein Cais am Dystiolaeth ei gyhoeddi ym mis Ionawr 2016.  Gwyddom fod cyfanswm y nifer o fenywod ar Fyrddau'r Sector Cyhoeddus wedi cynyddu, ac mai 38% yw cynrychiolaeth menywod mewn Cyrff Gweithredol a Noddir gan Lywodraeth Cymru, a 47% yw'r gynrychiolaeth mewn Cyrff Cynghori, ym mis Ebrill 2015. Byddwn yn parhau i ganolbwyntio ar gynyddu amrywiaeth y penodiadau ar ein Byrddau yn y Sector Cyhoeddus yng Nghymru.

Rydym hefyd yn benderfynol o wneud popeth y gallwn i annog a chefnogi menywod i sectorau gwahanol, sydd yn aml yn rhai y mae mwy o ddynion yn gweithio ynddynt. Bydd ein cyllid ar gyfer rhaglen Cenedl Hyblyg 2 a ddarperir gan Chwarae Teg, ac a gyhoeddwyd ym mis Ebrill 2015, yn cefnogi 2,750 o fenywod ac yn gweithio gyda 400 o gyflogwyr i helpu menywod i ddatblygu eu gyrfa. 

Roedd Llywodraeth Cymru yn falch i gefnogi prosiect  Menywod yn Ychwanegu Gwerth at yr Economi, o 2012 i 2015. Nod y prosiect oedd deall yn well y ffyrdd y mae anghydraddoldebau o ran cyflogau rhwng y rhywiau'n cael eu hatgynhyrchu drwy ffactorau fel gwahanu galwedigaethol a gwaith contract a rhan-amser, a mynd i'r afael â hynny.  Rydym yn annog cyflogwyr ar hyd a lled Cymru i wneud defnydd o ddull Dadansoddi Cyflogaeth a Chyflog Dynion a Menywod (GEPA), er mwyn gweld lle mae bylchau cyflog rhwng y rhywiau, a hefyd i edrych ar ffyrdd y gellir ymdrin â phatrymau a ffyrdd o weithio rhwng y rhywiau.

Mae nifer o ddigwyddiadau ardderchog wedi'u cynnal dros y flwyddyn ddiwethaf hefyd, gan gynnwys cynnal ail gynhadledd Merched yn Gwneud Gwahaniaeth yng Ngogledd Cymru fis Hydref diwethaf. Roeddem wedi dwyn ynghyd modelau rôl a myfyrwyr o'r chweched dosbarth i ddysgu o'i gilydd a chael eu hysbrydoli. Ym mis Chwefror eleni, cynhaliodd Chwarae Teg eu cynhadledd Methu'r Mwyafrif, a oedd wedi dod ag arweinwyr o'r trydydd sector a'r sector cyhoeddus ynghyd i rannu syniadau ac annog menywod i gael swyddi arweiniol.

Bu Ffederasiwn Cenedlaethol Sefydliadau'r Merched yn dathlu ei Ganmlwyddiant yn 2015. Cawsant dderbyniad yn  Adeilad y Pierhead ar 17 Mehefin i gydnabod gwaith Sefydliadau'r Merched yng Nghymru dros y 100 mlynedd ddiwethaf, a'u rôl yn cefnogi ac yn grymuso menywod i wneud gwahaniaeth go iawn yn eu cymunedau. Mae'r adroddiad ardderchog ar y Canmlwyddiant yn dangos faint yr ydym wedi'i gyflawni, ond hefyd mae'n dangos y bylchau difrifol a'r rhwystrau sy'n parhau. 

Mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn rhoi'r cyfle inni  ystyried y bylchau a'r rhwystrau hynny. Mae'n hoelio sylw ar yr holl bethau sy’n rhwystro menywod rhag cael gwir gydraddoldeb, gan gynnwys y ffaith mai ychydig yn unig o fenywod sydd mewn rolau gwneud penderfyniadau, y diffyg cydraddoldeb o ran rhannu dyletswyddau gofal, trais domestig, a’r modd y mae menywod yn cael eu portreadu yn y cyfryngau.  Dyna pam y mae'r diwrnod yn un mor bwysig. 

Mae Llywodraeth Cymru yn falch i roi cymorth i Rwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru gynnal digwyddiadau ledled Cymru i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod. Mae Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru yn cydweithio â rhwydweithiau rhanbarthol i gynnal pedwar digwyddiad ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol y Menywod ledled Cymru yn ystod y mis hwn. Caiff eu cynnal yng Nghaerdydd ac yn Aberystwyth ar 5 Mawrth, yn Abertawe ar 6 Mawrth, ac ym Mangor ar 12 Mawrth.

Rhaid inni sicrhau ein bod yn cyrraedd ac yn grymuso menywod cyffredin yng Nghymru. Gyda'r Rhwydwaith hwn, sydd â dros 700 o aelodau, gallwn fod yn sicr ein bod yn gwneud hynny. 

Y thema a ddewiswyd gennym ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2016 yng Nghymru yw Menywod a Gofal: Grymuso Menywod yng Nghymru.

Ym mis Mai 2015,  roedd Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru wedi cyhoeddi eu hadroddiad ‘Cydraddoldeb Menywod Nawr -  Y Sefyllfa yng Nghymru Heddiw ar Ofal Di-dâl’. Mae'r adroddiad yn rhoi sylw i'r ffaith bod y diffyg cydraddoldeb o ran rhannu dyletswyddau gofal yn effeithio ar fenywod yn y gweithle a'r tu allan i'r gweithle o hyd. Mae menywod yn parhau i gael eu hystyried fel gofalwyr yn y lle cyntaf ac fel unigolion sy'n gallu ennill arian yn ail. Mae rhoi sylw i’r mater fel hyn yn helpu i sicrhau ein bod yn parhau i hoelio sylw arno, gan roi cyfle i fenywod a dynion drafod y mater hynod bwysig hwn.

Rhaid inni helpu rhieni i sicrhau cydbwysedd rhwng eu bywydau gwaith a’u bywydau teuluol, a mynd i’r afael â’r rhwystrau sy’n cyfyngu ar y rhan y mae menywod yn ei chwarae yn y gweithle.

Fis Hydref diwethaf, cyhoeddais brosiect Rhieni, Gofal Plant a Chyflogaeth, sy'n cael ei ariannu ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Chronfeydd Cymdeithasol Ewrop. Mae'n anelu at helpu tua 8000 o rieni i drefnu ac ariannu gofal plant, a fydd yn galluogi rhieni i hyfforddi neu gael profiad gwaith fel bod mwy o obaith iddynt gael swydd. Disgwylir i'r rhan fwyaf o'r rhieni hyn sy'n cael eu cefnogi gan Rieni, Gofal Plant a Chyflogaeth fod yn rhieni sengl sy'n fenywod, a dros y ddwy flynedd nesaf, mae ychydig dros saith miliwn o bunnoedd wedi'u neilltuo i helpu i gael gwared ar rwystrau gofal plant.

Yn ogystal, hoffwn dalu teyrnged i waith ein Llywydd, y Fonesig Rosemary Butler, ar ei chynllun Menywod mewn Bywyd Cyhoeddus. Mae'n bwysig ein bod yn cymryd amser i gydnabod y gwaith ymgyrchu hynod werthfawr y mae'r Llywydd wedi'i gyflawni. Bydd hi'n cynnal derbyniad ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol y Menywod gyda'r nos ar 8 Mawrth, a byddaf yn mynd i hwnnw.

Ar y diwrnod, byddaf yn siarad yn Uwchgynhadledd Menywod Cymru yn Adeilad y Pierhead, digwyddiad sy'n cael ei gynnal ar y cyd gan Chwarae Teg, Menywod yn Gwneud Gwahaniaeth, ac Oxfam Cymru, ac mae'n cael ei noddi gan y Llywydd. Bydd yr Uwchgynhadledd hon yn gyfle i drafod yr holl faterion pwysig sy'n wynebu menywod yng Nghymru heddiw, gan gynnwys tlodi a'u tangynrychiolaeth mewn bywyd cyhoeddus.

Mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn adeg i ystyried y cynnydd a wnaed hyd yma, i alw am newid ac i ddathlu gweithredoedd dewr a phenderfynol menywod cyffredin sydd wedi chwarae rhan anghyffredin yn hanes eu gwledydd a’u cymunedau. 

Mae angen inni hefyd ystyried beth mwy sydd angen ei wneud a chofio’r llu o fenywod na chlywir eu llais, ac sy’n parhau i gael eu hatal rhag cyrraedd eu llawn botensial.

Rwyf am annog pawb i gefnogi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod ac i gofio, er bod y diwrnod ei hun yn cael ei ddathlu ar 8 Mawrth, ei fod yn bwysig am fwy nag un diwrnod yn unig.