Jane Hutt AC, Y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth
I gefnogi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, mae'r datganiad hwn yn rhoi diweddariad i aelodau ar waith Llywodraeth Cymru i hyrwyddo cydraddoldeb rhwng y rhywiau, gan gynnwys gwaith mewn partneriaeth gyda'r Undeb Ewropeaidd.
Mae'r rhagolygon o ran cyllid cyhoeddus yn parhau i fod yn heriol o ganlyniad i Adolygiad Gwariant Llywodraeth y DU. Mewn ymateb, rydym wedi gwneud ein penderfyniadau gwariant yn seiliedig ar ddadansoddiad o ofynion ac anghenion mewn meysydd gwasanaethau cyhoeddus allweddol sydd o bwysigrwydd mawr i'r rheini sydd eu hangen fwyaf. Yn yr hinsawdd ariannol heriol sydd ohoni, rydym wedi ceisio canolbwyntio adnoddau ar flaenoriaethau sy'n cael yr effaith gadarnhaol fwyaf a lliniaru effeithiau cyni lle nad oes modd ei osgoi.
Adlewyrchir hyn yn ein Hasesiad Effaith Integredig Strategol ar y Gyllideb Ddrafft. Gan fod yr angen i dargedu cyllid yn effeithiol yn bwysicach nag erioed, rydym wedi defnyddio tystiolaeth o effeithiau ar grwpiau gwarchodedig, wedi'u cydbwyso yn erbyn pwysau, er mwyn blaenoriaethu'r arian ar feysydd lle mae effeithiau cadarnhaol wedi'u nodi.
Wrth ystyried nodweddion gwarchodedig, mae effeithiau ar fenywod yn ffocws allweddol yng Nghymru. Roedd yn amlwg o'n gwaith y byddai menywod yn cael eu taro'n anghymesur gan benderfyniadau Llywodraeth y DU ynghylch Diwygio Lles. Rydym wedi gwneud penderfyniadau i liniaru'r effeithiau hyn. Er enghraifft, i gydnabod rôl gofalwyr a'r rhwystrau rhag addysg, rydym wedi rhoi cyllid i sefydlu cynllun peilot gofal plant ar gyfer addysg uwch wedi'i dargedu i ddileu'r rhwystrau rhag addysg a mynd i'r afael ag amddifadedd rhwng cenedlaethau. Mae disgwyl i hyn gael effaith gadarnhaol ar grwpiau gwarchodedig, yn enwedig menywod.
Rwyf hefyd yn dymuno cydnabod y cymorth y mae Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru yn ei ddarparu fel aelod o Grŵp Cynghori'r Gyllideb ar Gydraddoldeb. Rydym yn gweithio gyda'r Grŵp hwn trwy'r flwyddyn, ac mae'n rhoi cyngor ac yn rhannu arbenigedd ac arfer gorau ar faterion cydraddoldeb sy'n ein helpu i barhau i wella'r Asesiad Effaith sy'n cael ei gynnal ar Gyllideb Llywodraeth Cymru.
Mae cyllid Ewropeaidd yn gyfraniad pwysig i'r agenda hon ar gyfer Cymru. Yn y cylch diwethaf o raglenni (2007-2013), gwnaeth cynllun Cenedl Hyblyg Chwarae Teg gefnogi dros 2,900 o weithwyr benywaidd i ddatblygu'u gyrfaoedd ac i gael hyfforddiant ym maes arweinyddiaeth. O'r cyfranogwyr hyn, gwnaeth bron 2,300 ohonynt ennill cymhwyster ac aeth dros 500 ymlaen i ddysgu ymhellach ar ôl gadael y cynllun. Gwnaeth Chwarae Teg hefyd weithio gyda dros 500 o gyflogwyr i'w helpu i fynd i'r afael â materion cydraddoldeb yn y gweithle, a gwnaeth dros 250 o'r cyflogwyr hyn welliannau ymarferol i'w strategaethau cydraddoldeb a'u systemau. Cost y cynllun Cenedl Hyblyg oedd ychydig o dan £12.5m, gyda £8.5m o hyn yn fuddsoddiad gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop.
Gwnaeth cyllid yr UE hefyd gefnogi cynlluniau megis STEM Cymru, sy'n helpu pobl ifanc 11-19 oed i gael hyfforddiant STEM a'i ddatblygu. Roedd dros hanner (55%) y cyfranogwyr a elwodd o'r cynllun hwn yn ferched (ychydig dros 4,000). Cost y prosiect STEM Cymru oedd £2.8m, gyda £2.1m o hyn yn fuddsoddiad gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop.
Gwnaeth y cynllun Menywod yn Ychwanegu Gwerth at yr Economi hefyd helpu i fynd i'r afael â'r materion sylfaenol sy'n cyfrannu at anghydraddoldebau cyflog rhwng y rhywiau yng Nghymru. Gwnaeth y tîm Menywod yn Ychwanegu Gwerth at yr Economi ym Mhrifysgol Caerdydd weithio'n uniongyrchol gyda chyflogwyr mawr parod ac ymrwymedig i ddadansoddi'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau a chynnig cyngor ar weithredu – gwnaeth hyn eu galluogi i lunio dull Dadansoddi Cyflogaeth a Chyflog Dynion a Menywod. Yn seiliedig ar ddadansoddiad manwl o'r gweithlu a chyflog, gwnaeth tri chyflogwr mawr gychwyn ar raglenni rheoli newid helaeth a oedd yn cynnwys dros 23,000 o weithwyr. Cost y prosiect Menywod yn Ychwanegu Gwerth at yr Economi oedd £4.9m, gyda £3.2m o hyn yn fuddsoddiad gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop.
Yn ogystal â'r cynlluniau hyn, roedd angen i'r holl brosiectau sy'n cael eu hariannu gan yr UE fynd i'r afael â materion cydraddoldeb (rhywedd, y Gymraeg ac ati) wrth ddarparu'u cynlluniau. Roedd menywod hefyd yn elwa ar lawer o gynlluniau cyflogaeth a sgiliau gan gynnwys cynlluniau Prentisiaethau a Hyfforddiaethau Cymru Gyfan Llywodraeth Cymru.
Gan adeiladu ar y llwyddiannau hyn, mae'r cylch newydd o raglenni (2014-2020) yn parhau i fuddsoddi mewn sgiliau i wella'r cyfleoedd sydd ar gael i bobl ddatblygu gyrfa ac ennill mwy o gyflog, yn ogystal â sicrhau bod yr un cyfleoedd ar gael i bawb yn y gweithle.
Mae'r buddsoddiadau a gyhoeddwyd yn cynnwys £8.5m o gronfeydd yr UE ar gyfer cynllun Cenedl Hyblyg 2 Chwarae Teg, i helpu i sicrhau bod yr un cyfleoedd ar gael i bawb yn y gweithlu. Mae'r cynllun yn cefnogi menywod sy'n gweithio i ddatblygu eu gyrfaoedd drwy gynnig cymwysterau arweinyddiaeth achrededig a mentora, a bydd yn helpu busnesau i weithredu strategaethau cydraddoldeb ac arferion gwaith modern. Bydd Cenedl Hyblyg 2 yn gweithio gyda dros 2,000 o gyfranogwyr. Mae disgwyl i 75% o'r rhain ennill cymhwyster a 40% i wella'u cyfleoedd i gael swyddi. Bydd y prosiect hefyd yn cefnogi 400 o gyflogwyr i fabwysiadu neu wella'u strategaethau cydraddoldeb ac amrywiaeth a'u systemau monitro.
Mae buddsoddiadau eraill yn cynnwys £1.7m o gronfeydd yr UE ar gyfer STEM Cymru 2, a fydd yn cefnogi bron 5,000 o bobl ifanc mewn addysg uwchradd (11-19 oed) i gynyddu'u cyfranogiad a'u cyrhaeddiad mewn pynciau STEM. Bydd STEM Cymru 2 yn annog mwy o fenywod ifanc i symud ymlaen at yrfaoedd ym maes peirianneg – bydd bron 57% (2,830) o'r cyfranogwyr yn fenywod. Mewn llawer o'r gweithgareddau hyn, bydd pobl ifanc yn gweithio mewn timau prosiect i fynd i'r afael â phroblemau peirianneg a datblygu’r sgiliau gwaith allweddol sy'n ofynnol gan gyflogwyr. Ym maes y chweched dosbarth, bydd timau'n gweithio gyda mentoriaid diwydiannol i ddatblygu atebion ymarferol i heriau a wynebir gan gwmnïau yn y sector Gweithgynhyrchu Uwch allweddol. Bydd rhai o'r atebion yn cael eu gweithredu gan gwmnïau yn y pen draw.
Hefyd, bydd £6.8m o gronfeydd yr UE a £4.1m o gronfeydd Llywodraeth Cymru ar gyfer y cynllun Rhieni, Gofal Plant a Chyflogaeth sy'n helpu rhieni di-waith i gael gwaith neu hyfforddiant drwy roi cymorth ariannol iddynt dalu am ofal plant. Mae'r cynllun yn cael ei weithredu ym mhob Awdurdod Lleol yng Nghymru, ac mae disgwyl iddo helpu 6,400 o rieni (dynion a menywod) dros 25 oed sy'n economaidd anweithgar i gael gwaith neu hyfforddiant. Bydd rhieni'n cael help personol gan Gynghorydd Cyflogaeth yn eu cymuned leol. Gwnaeth Llywodraeth Cymru weithio gyda'r Adran Gwaith a Phensiynau i ddatblygu'r rhaglen, a'r Adran honno sy'n gyfrifol am gyflogi'r Cynghorwyr Cyflogaeth i Rieni.