Jane Hutt AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip
11 Hydref yw Diwrnod Rhyngwladol y Ferch, pan ydym yn cydnabod hawliau merched a'r heriau unigryw y mae merched yn eu hwynebu ledled y byd. Y thema eleni yw 'Gweledigaeth merched ar gyfer y dyfodol'.
Ni ddylai'r ffaith eich bod yn ferch benderfynu beth yw eich opsiynau, eich cyfleoedd na'r hyn y gallwch anelu ato. Yn anffodus, i filiynau o ferched yn fyd-eang, dyma yw'r realiti caled. Mae gormod o ferched yn dal i wynebu heriau sy'n gwadu eu hawliau, sy'n cyfyngu ar eu dewisiadau ac sy'n crebachu eu potensial.
Yn ôl y Cenhedloedd Unedig, mae mwy na 1.1 biliwn o ferched ledled y byd. Ond yn achos 4 o bob 10 merch, nid ydynt yn cwblhau eu haddysg yn yr ysgol uwchradd. Mewn gwledydd incwm isel, nid yw tua 90 y cant o ferched yn eu harddegau a menywod ifanc yn defnyddio'r rhyngrwyd, ac mae eu cyfoedion gwrywaidd ddwywaith yn fwy tebygol o fod ar-lein. Hefyd mae merched 5-14 oed yn treulio 160 miliwn yn fwy o oriau bob dydd ar ofal di-dâl a gwaith domestig na bechgyn o'r un oedran (https://www.un.org/en/observances/girl-child-day).
Mae Cymru wedi arwain y ffordd ar hawliau plant, gan ymgorffori Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn yn y gyfraith drwy Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011; y wlad gyntaf yn y Deyrnas Unedig i wneud hynny. Mae Cymru hefyd wedi neilltuo Gweinidog penodol ar gyfer Plant a Gofal Cymdeithasol, sydd â chyfrifoldeb dros hawliau plant, ac mae hyn yn arwydd o'n hymrwymiad i greu Cymru ar gyfer pob plentyn, lle caiff hawliau plant eu parchu, eu diogelu a'u gweithredu.
Rwyf am amlinellu peth o'r gwaith rydym yn ei wneud ar draws Llywodraeth Cymru i helpu i rymuso merched i gyflawni eu potensial.
Dylai merched fod yn ddiogel ym mhob agwedd ar eu bywydau, ac eto gwyddom fod aflonyddu, cam-drin a thrais yn arswydus o gyffredin. Mae Adroddiad Plan International UK ar Hawliau Merched 2024, sy'n seiliedig ar farn a phrofiadau 3000 o ferched a menywod ifanc 12 i 21 oed ledled y DU, yn dangos mai dim ond 5% o ferched a menywod ifanc sy’n teimlo'n hollol ddiogel mewn mannau cyhoeddus, megis ar drafnidiaeth gyhoeddus neu ar y stryd, mai 9% sy’n teimlo’n hollol ddiogel ar-lein, ac mai dim ond 11% sy’n teimlo’n hollol ddiogel mewn lleoliadau hamdden. Dirmyg a chasineb at fenywod ac anghydraddoldebau strwythurol hirsefydlog sydd wrth wraidd llawer o hyn.
Rydym yn parhau i weithio mewn partneriaeth â Plismona yng Nghymru drwy Lasbrint Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol, ynghyd â gwasanaethau arbenigol a phartneriaid ehangach yn y sector cyhoeddus i godi ymwybyddiaeth o'r anghydraddoldeb a'r problemau diogelwch sy'n wynebu menywod a merched, ac i roi diwedd ar drais a cham-drin yn ei holl ffurfiau. Mae'r gwaith i weithredu Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol:Strategaeth 2022 i 2026 yn cyd-fynd â'n Rhaglen Lywodraethu, ac mae'r ffrydiau gwaith yn canolbwyntio ar flaenoriaethau megis mynd i'r afael ag aflonyddu ar sail rhywedd mewn mannau cyhoeddus ac anghenion plant a phobl ifanc.
Er mwyn atal trais ar sail rhywedd, rhaid gweithredu ar draws y system. Mae gennym ymrwymiad ar draws Llywodraeth Cymru i godi ymwybyddiaeth ymhlith plant a phobl ifanc o faterion fel cydraddoldeb, parch a chydsyniad. Mae hyn yn hanfodol os ydym am atal cam-drin. Rydym am sicrhau bod gan bob plentyn a pherson ifanc fynediad at gyfleoedd dysgu o ansawdd uchel sy'n briodol i'w datblygiad ac sy'n ymateb i'w hanghenion a'u profiadau. Mae'n orfodol i bob dysgwr gael gwersi Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb, sy'n un o ofynion statudol Fframwaith Cwricwlwm i Gymru.
Mae diogelwch ar-lein yn broblem gymhleth sy'n datblygu'n barhaus, ac mae addysgu pobl ifanc ar sut i ymgysylltu'n ddiogel â'r cyfryngau cymdeithasol yn ddiogel yn fater trawsgwricwlaidd.
Rydym yn cydnabod pwysigrwydd modelau rôl cadarnhaol ym mywydau pobl ifanc ac wedi gweithio gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru i ddatblygu adnoddau pwrpasol i ysgolion i fynd i'r afael â dirmyg a chasineb at fenywod ar-lein. Fe wnaethom hefyd ddatblygu ymgyrchoedd ategol lle mae chwaraewyr rhyngwladol yn codi ymwybyddiaeth o effaith gwrywdod gwenwynig ar-lein, a phwysigrwydd annog bechgyn a dynion i herio achosion o aflonyddu ar ferched a menywod.
Rydym yn grymuso merched i godi eu llais drwy'r 'Grŵp Ieuenctid Cadw'n Ddiogel Ar-lein' newydd sy'n cael ei sefydlu, a fydd yn cynnig cipolwg gwerthfawr inni ar eu profiadau.
Rydym yn parhau i gefnogi merched a menywod ifanc i fynd i fyd Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM). Rydym am i Gymru fod yn genedl lle nad oes rhwystrau o ran mynediad at gyfleoedd STEM ar yr un lefel o addysg.
Yn 2024-25, cyfanswm ein cyllid grant ar gyfer cyflwyno mentrau gwyddoniaeth a STEM oedd £1.6m, ac roedd ffocws cryf ar annog merched i ddewis cymwysterau a llwybrau gyrfa cysylltiedig. Mae hyn yn cynnwys mentrau fel 'Denu Merched i Faes STEM' Cynllun Addysg Beirianneg Cymru a 'Cynhwysiant a Thegwch Ysgol Gyfan' y Sefydliad Ffiseg. Mae dysgwyr benywaidd yn cael y cyfle i ymgysylltu â phrifysgolion a busnesau lleol, gan eu cyflwyno i'r gyrfaoedd y gallant eu dilyn ar ôl eu blynyddoedd mewn addysg.
Llongyfarchiadau i Pacha Pritchard o Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern a enwyd yn Beiriannydd Ifanc y Flwyddyn y DU 2024 ym mis Mehefin. Derbyniodd Pacha y wobr am ei phrosiect Monitor Llygredd Cludadwy - offeryn arloesol sy'n defnyddio eiconau emoji i gyfleu lefelau llygredd i'r cyhoedd. Mae Pacha yn benderfynol o annog mwy o ferched i ymuno â meysydd STEM, ac rwy'n siŵr y bydd hi ei hun yn mynd ymlaen i gael gyrfa STEM lwyddiannus, yma yng Nghymru.
Rydym hefyd yn darparu cymorth nad yw'n gyllid grant i raglenni tebyg i 'CyberFirst Cymru' y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol. Maen nhw wedi cael effaith gadarnhaol ar amrywiaeth rhywedd ym maes Cyfrifiadureg drwy eu cystadleuaeth CyberFirst i ferched, a welodd Ysgol Uwchradd Gatholig yr Archesgob McGrath yn ennill cangen Cymru o'r gystadleuaeth yn 2024.
Mae Academi Seren yn rhaglen a ariennir yn llawn i gefnogi dyheadau ac uchelgeisiau'r dysgwyr mwyaf galluog, gan helpu i ehangu eu gorwelion, datblygu angerdd am eu dewis faes astudio, a chyflawni eu potensial ar y lefel uchaf. Ar hyn o bryd mae Seren yn cefnogi dysgwyr Bl8 - Bl13, ar draws pob ysgol a choleg Addysg Bellach yng Nghymru, drwy brofiad uwch-gwricwlaidd. Mae 57% o ddysgwyr Academi Seren yn ferched. Mae'r rhaglen wedi'i chynllunio i danio chwilfrydedd, grymuso dewis a hyrwyddo potensial er mwyn annog mwy o ddysgwyr i fanteisio ar addysg uwch mewn prifysgolion blaenllaw.
Yn 2022/23, roedd 27,565 o israddedigion benywaidd yn astudio pynciau gwyddonol yng Nghymru, a oedd yn cynrychioli 44% o'r holl israddedigion benywaidd a oedd yn astudio yng Nghymru (yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch: Ffigur 13; Ffigur 14).
Gall cymryd rhan mewn chwaraeon helpu i chwalu stereoteipiau rhywedd, hybu hunan-gred a chyfrannu at ddatblygu sgiliau arwain. Yn anffodus, gwyddom o Adroddiad Blynyddol Chwaraeon Cymru 2023-2024 fod cyfranogiad merched mewn chwaraeon 3.1 pwynt canran yn is na'r cyfartaledd cyffredinol, ac mae wedi gostwng 9.3 pwynt canran ers 2018. Mae’r adroddiad yn dynodi bod datblygiadau yn gysylltiedig â phandemig Covid-19 wedi effeithio’n drwm ar y newid hwn mewn ymddygiad.
Mae ein buddsoddiad drwy Chwaraeon Cymru yn targedu ystod o brosiectau a mentrau sydd â'r nod o gefnogi merched mewn chwaraeon. Mae'r rhain yn cynnwys 'sesiynau tywynnu yn y tywyllwch', ateb creadigol i chwalu'r rhwystrau i ferched a menywod nad ydynt yn hoffi cael eu gwylio pan fyddant yn cymryd rhan mewn chwaraeon.
Mae modelau rôl hefyd yn aruthrol bwysig mewn chwaraeon. Mae Cymru yn rhagori ar y llwyfan chwaraeon rhyngwladol yn gyson, ac rydym wedi gweld hyn yn fwyaf diweddar yng Ngemau Olympaidd a Pharalympaidd 2024 ym Mharis ar draws ystod o chwaraeon, drwy berfformiadau merched a menywod ifanc fel Anna Hursey, Ruby Evans, Funmi Oduwaiye ac Emma Finucane.
Byddwn yn parhau i weithio tuag at amcanion sy'n galluogi menywod a merched i fwynhau'r manteision iechyd, cymdeithasol a lles sy'n dod yn sgil mwynhau chwaraeon gydol eu hoes.
Ym mis Mai, cynhaliwyd cyfres o ddigwyddiadau bwrdd crwn Balch o'r Mislif i gael dealltwriaeth well o effaith mislif ar fenywod a merched a'u cyfranogiad mewn chwaraeon. Ymhlith y themâu allweddol a ddaeth i'r amlwg o'r trafodaethau oedd gwella addysg, mynediad at adnoddau, gwneud cyfleusterau yn fwy hygyrch i bawb a mynediad at nwyddau.
Rydym eisoes yn gweithredu yn y meysydd hyn drwy Gynllun Gweithredu Cymru sy’n Falch o’r Mislif sy'n amlinellu sut rydym am fynd i'r afael â thlodi mislif a sicrhau nad oes neb yn colli ysgol, gwaith na chwaraeon oherwydd diffyg mynediad at nwyddau mislif. Mae cyfanswm ein grant Urddas Mislif blynyddol bellach dros £3.2 miliwn. Mae awdurdodau lleol yn gweithio'n galed i sicrhau, yn ogystal â gofalu bod nwyddau ar gael ym mhob ysgol a choleg yng Nghymru, eu bod ar gael yn eang ar draws ystod o leoliadau cymunedol, gan gynnwys banciau bwyd a phantrïau llyfrgelloedd, canolfannau ieuenctid a hybiau cymunedol.
Mae lles mislif a dysgu am y cylch mislif yn fandadol o dan y Cwricwlwm newydd i Gymru. Bydd hyn yn helpu i ddileu'r stigma o siarad am y mislif, gwella'r ddealltwriaeth ohono a chwalu'r tabŵs a'r chwedlau o'i gwmpas.
Mae canlyniadau Cyfrifiad 2021 a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn dangos bod nifer y gofalwyr ifanc, a'r gofalwyr sy'n oedolion ifanc hyd at 24 oed yng Nghymru, wedi gostwng ers 2011 o tua 30,000 i 22,000. Mae 8,230 o ofalwyr ifanc rhwng 5 ac 17 oed, mae mwy o fenywod yn ofalwyr ifanc ac mae mwy yn byw mewn ardaloedd o amddifadedd uchel.
Rydym yn gweithio gydag Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru i nodi sut y gallwn helpu yn y ffordd orau o ran ymwybyddiaeth o ofalwyr ifanc sydd mewn ysgolion a cholegau, yn ogystal â'u cydnabod a'u cefnogi. Yr hydref hwn, byddwn yn cynnal gweithgarwch i gynyddu'r ddealltwriaeth o ofalwyr ifanc.
Aethom ati i gefnogi'r drydedd ŵyl flynyddol i ofalwyr ifanc a gynhaliwyd ym mis Awst. Cafodd dderbyniad da ymhlith y 300 o ofalwyr ifanc a oedd yno, 65% ohonynt yn fenywod.
Pan fydd merched yn ddiogel, wedi'u grymuso ac yn cyflawni eu potensial, rydym i gyd yn elwa. Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i helpu i gefnogi pob merch yng Nghymru i ddyheu, ysbrydoli a chyflawni.