Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Medi 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

 Ar Ddiwrnod Rhyngwladol Pobl Hŷn, hoffwn ddatgan, ar ran yr holl Weinidogion, ein hymrwymiad parhaus a'n cefnogaeth i bobl hŷn. Mae'r llywodraeth hon yn gwerthfawrogi pobl hŷn a'r cyfraniad y maent wedi'i wneud - ac yn parhau i'w wneud - yn ein cymunedau.

Fel llywodraeth, rydym wedi gwrando ar yr hyn y mae pobl hŷn wedi dweud sy'n bwysig iddynt hwy. Rydym yn gwybod bod pobl hŷn eisiau parhau i fod yn weithgar ac yn egnïol yn eu cartrefi eu hunain a'u cymunedau lleol cyn hired â phosibl. Rydym hefyd yn gwybod bod pobl hŷn eisiau rheolaeth dros eu bywydau a chael gwneud penderfyniadau ynghylch eu bywydau, neu gael llais yn y penderfyniadau hynny, wrth iddynt heneiddio.

Mae llawer o bobl hŷn eisiau parhau i weithio, ac efallai bod arnynt angen parhau i weithio. Mae pobl hŷn hefyd eisiau parhau i ddysgu a chael cyfleoedd am hyfforddiant. Ni ddylai cyfleoedd dysgu a hyfforddi fod ar gyfer pobl ifanc yn unig, a dyna pam rydym wedi ymrwymo i greu o leiaf 100,000 o brentisiaethau o safon uchel i bobl o bob oed. Byddwn yn gweithio gyda chyflogwyr i sicrhau eu bod yn gwerthfawrogi'r wybodaeth a'r sgiliau y gall pobl hŷn eu  cynnig i'r gweithlu. Byddwn yn sicrhau bod pobl hŷn yn gallu parhau mewn gwaith os ydynt yn dymuno, neu'n cael cymorth i ailhyfforddi fel eu bod yn dysgu sgiliau newydd i allu ymgeisio am swyddi newydd. Mae hyn yn beth da i bobl hŷn ac i'n heconomi.

Mae pobl hŷn eisiau bod yn ddiogel ac mae gormod o bobl hŷn wedi dioddef o ganlyniad i gamdriniaeth neu drosedd.  Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod pobl hŷn yn ddiogel ac yn gallu byw heb ofn. Mae pobl hŷn hefyd yn dymuno cael eu trin ag urddas a pharch. Pan fydd ar bobl hŷn angen gofal a chymorth, byddwn yn sicrhau bod gan y rhai sy'n gofalu amdanynt yr wybodaeth, y sgiliau a'r gallu i ddarparu gofal tosturiol o safon uchel.

Gall unigrwydd ac arwahanrwydd gael effaith fawr ar iechyd a llesiant, felly mae'n fater pwysig o safbwynt iechyd y cyhoedd. Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu strategaeth genedlaethol a thraws-lywodraethol i roi sylw i unigrwydd ac arwahanrwydd.  Rydym hefyd wedi ymrwymo i weithio gyda chymunedau i ddiogelu cyfleusterau lleol sy'n dod â phobl ynghyd, megis llyfrgelloedd, canolfannau hamdden ac amgueddfeydd. Gwyddom fod y cyfleusterau hyn yn bwysig, yn enwedig i bobl hŷn. Gwyddom hefyd pa mor bwysig yw cynlluniau cyfeillio. Byddaf yn gweithio gyda phartneriaid ledled Cymru i leihau nifer y bobl, gan gynnwys pobl hŷn, sy'n teimlo'n unig ac ar wahân.

Yn ystod cyfnod y llywodraeth ddiwethaf, gwnaethom gyflwyno deddfwriaeth sy'n rhoi lle canolog i lesiant pawb, gan gynnwys pobl hŷn, ym mhopeth a wnawn. Byddwn yn sicrhau bod ein deddfwriaeth arloesol yn cael ei gweithredu'n llawn a bod yr holl fanteision yn cael eu gwireddu. Rydym am i Gymru fod yn gymdeithas deg a byddwn yn parhau â'n gwaith gyda phob grŵp gwarchodedig i atal camwahaniaethu. O ran deddfwriaeth bosibl ar gyfer y dyfodol, mae'r Prif Weinidog wedi cynnal trafodaethau cychwynnol gyda'r Comisiynydd Pobl Hŷn mewn perthynas â chryfhau hawliau pobl hŷn.  

Yng Nghymru, rydym eisoes wedi gwneud llawer i gydnabod a rhoi sylw i'r materion sydd o bwys i bobl hŷn. Dros y misoedd nesaf, byddwn yn adolygu'r Strategaeth Pobl Hŷn ac yn canolbwyntio ar gyflawni yn rhai o'r prif feysydd allweddol. Rwyf wedi ymrwymo i sicrhau llesiant pobl hŷn a byddaf yn gweithio gyda'r Comisiynydd Pobl Hŷn a rhanddeiliaid eraill i sicrhau bod Cymru'n lle gwych i heneiddio'n dda.